Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019 yn
gofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Chloe Lewis, Swyddog Strategaeth Cludiant, ynghyd â Ben George,
Arweinydd Tîm - Strategaeth Trafnidiaeth a Monitro, adroddiad a oedd yn rhoi
manylion y cais ariannu ar gyfer Cais i Gronfa Cynllun Pwyntiau Gwefru Preswyl
ar y Stryd y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel - 2019/20. Penderfynwyd bod y Panel Ariannu Allanol yn nodi’r cais a
gyflwynwyd ar gyfer Cais i Gronfa Cynllun Pwyntiau Gwefru Preswyl ar y Stryd y
Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel - 2019/20. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Karen Gibbins, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell, adroddiad mewn
perthynas â gwneud mynegiant o ddiddordeb i wneud cais i am Raglen Grant
Cyfalaf MALD Llywodraeth Cymru 2020/21, ailgynllunio ac ailfodelu ardal
gyhoeddus yn Llyfrgell Gorseinon i ddarparu ystafelloedd cyfweld ar gyfer materion
Tai, gwell toiledau cyhoeddus ac i gynnal a gwella darpariaeth gwasanaethau
llyfrgell. Penderfynwyd bod y Panel Ariannu Allanol yn cymeradwyo'r
mynegiant o ddiddordeb i gyflwyno cais ffurfiol am gyllid ar gyfer arian
cyfatebol gwerth £180,000 wedi'i ariannu ar 10% o gyllid refeniw llyfrgelloedd
yn ystod 2020/21. |