Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 7, "Grantiau Addysg" fel Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Penclawdd.

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

6.

Cyllid Arloesi Atal Digartrefedd Llywodraeth Cymru ar gyfer Fflatiau Hyfforddi i'r Rheiny sy'n Gadael Gofal. pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu, gyda chefnogaeth y Prif Swyddog Bays+/Y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, adroddiad i ddweud wrth y panel am y cyllid a ddyfarnwyd mewn perthynas â'r Grant Atal Digartrefedd, sy'n grant a ariennir gan y Gronfa Arloesi. Gwnaethpwyd cais am y grant hwn gan Ddinas a Sir Abertawe mewn partneriaeth â Barnardos.

 

Byddai'r cyllid hwn yn darparu rhaglen allgymorth a ddarperir i 100 o bobl ifanc 15+ oed wrth iddynt barhau i fyw yn eu cartref, mewn gofal maeth neu leoliad preswyl er mwyn atal digartrefedd ymhlith ieuenctid.

 

Yn ogystal, byddai'r cyllid hwn yn talu am gefnogaeth ddwys 1:1 i 55 o bobl ifanc sy'n blant sy'n derbyn gofal 16+ oed y mae perygl y bydd eu lleoliad yn chwalu.

 

Byddai elfen derfynol y cyllid yn darparu 'profiad trosglwyddo i fflat hyfforddi' am gyfnod o 4 i 12 wythnos a fyddai'n cynnwys 5 uned llety i bobl ifanc 16+ oed, gyda chefnogaeth ddwys yn ôl y galw. Y nod yw bod 26 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant byw mewn fflat dros gyfnod y cyllid sef 12 mis.

 

Penderfynwyd y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn nodi'r goblygiadau sydd yn yr adroddiad ac, yn dilyn hynny, yn cymeradwyo derbyn y grant.

7.

Grantiau Addysg. pdf eicon PDF 317 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth adroddiad i nodi nifer y grantiau a dderbyniwyd gan ysgolion bob blwyddyn ac i dderbyn grantiau a ddarparwyd hyd yn hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2019-2020.

 

Tynnodd sylw at baragraffau penodol:

 

3.3  Grant Datblygu Disgyblion (GDD);

3.10  Lleihau maint dosbarthiadau babanod

3.11  Grant Ysgolion Bach a Gwledig;

3.23  Graff sy'n amlinellu'r rhestr lawn o grantiau a glustnodir i bob ysgol;

4.8  Pensiynau athrawon;

4.10  Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP);

5. Cynnydd;

6  Grant Gwisg Ysgol.

 

Gofynnodd y panel gwestiynau amrywiol i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau i Bennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth a'i thîm am yr holl waith sydd ynghlwm wrth y broses grantiau.  O ganlyniad i gynnwys penaethiaid ar ddechrau'r broses grantiau, cafwyd mwy o hyder ac roedd wedi gwneud y broses yn fwy tryloyw.

 

Penderfynwyd y bydd y Panel Ariannu Allanol yn nodi nifer y grantiau a dderbyniwyd gan ysgolion hyd yn hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2019-2020.