Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd D H Hopkins yn
Gadeirydd Dros Dro. Y Cynghorydd D H Hopkins (Cadeirydd Dros Dro) fu'n
llywyddu. |
|
Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y
Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2019 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth adroddiad i gymeradwyo'r cais
am gyllid ar gyfer y Gronfa Teithio Llesol, y Gronfa Trafnidiaeth Leol a
Chronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol ar gyfer 2019/20. Penderfynwyd y byddai'r
Panel Ariannu Allanol yn cymeradwyo'r cais i’r Gronfa Teithio Llesol, y Gronfa
Trafnidiaeth Leol a Chronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol ar gyfer 2019/20. |
|
Arian Ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd. PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Uned Gerdd Abertawe adroddiad er mwyn rhoi gwybod i'r panel am y
cyllid sydd ar gael gan CLlLC ar gyfer y Ddarpariaeth
Gwasanaethau Cerdd mewn Ysgolion ar gyfer 2018-2019. Yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig, darparwyd papur arall a oedd yn
trafod y 'Cefndir a baratowyd gan CAGAC (Cymdeithas Addysg Cerdd Awdurdodau
Cymru)’. Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi'r goblygiadau
sydd yn yr adroddiad ac, yn dilyn hynny, yn cymeradwyo derbyn y grant. |