Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M C Child yn
Gadeirydd Dros Dro. Bu'r Cynghorydd M C Child (Cadeirydd Dros Dro) yn
llywyddu. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Cyhoeddodd y Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â chofnod 81 fel
Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Portmead. Cyhoeddodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â chofnod 81 fel
Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Dan-y-graig. Cyhoeddodd y Cynghorydd M Thomas gysylltiad personol â chofnod 81 fel
Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Penclawdd. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod Cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018 fel cofnod
cywir. |
|
Gofal Plant 30 Awr Llywodraeth Cymru Grant Cyfalaf - Cais am Grant. PDF 149 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Tlodi a'i Atal adroddiad i hysbysu'r panel am y cais am grant cyfalaf
30 awr o ofal plant Llywodraeth Cymru a phroffil dangosol y gwariant a'r
amserlenni ar gyfer cyflwyno'r rhaglen. Penderfynwyd y dylai'r Panel Ariannu Allanol nodi
cynnwys y cais a phroffil disgwyliedig y gwariant a'r amserlenni ar gyfer
cyflwyno'r rhaglen. Bu'r Cynghorydd RC Stewart (Cadeirydd) yn
llywyddu |
|
Cefnogi Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. PDF 106 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Bartner Ariannol (Pobl) adroddiad i roi gwybod i'r panel am ddyraniad cyllid
mewn perthynas â chefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn ystod
2018/19. Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi'r goblygiadau sydd yn yr adroddiad ac, yn dilyn hynny, yn cymeradwyo derbyn y grant. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariad ar geisiadau Ewropeaidd arfaethedig a cheisiadau allanol eraill gan
y Rheolwr Ariannu Allanol. Penderfynwyd cymeradwyo'r 4 argymhelliad, y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |