Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

71.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd D H Hopkins yn Gadeirydd Dros Dro.

 

Y Cynghorydd D H Hopkins (Cadeirydd Dros Dro) fu'n llywyddu.

 

72.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd J E Burtonshaw – Personol – Cofnod Rhif 75 - Cais Ychwanegol ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Rwy'n defnyddio Cyfnewidfa Broadway'n ddyddiol.

 

Y Cynghorydd R Francis-Davies – Personol – Cofnod Rhif 75 - Cais Ychwanegol ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Mae'r cynllun ar ddiwedd fy stryd (Lôn Cadog,SA2 0TS).

 

73.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2018 yn gofnod cywir.

 

74.

Cronfa Gofal Integredig: Cyllid Cyfalaf. pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cydlynydd Rhaglen Bae'r Gorllewin adroddiad i gymeradwyo arian cyfalaf y GGI ar gyfer Cyngor Abertawe.

 

Penderfynwyd cymeradwyo elfen Abertawe o'r cais am grant cyfalaf y GGI a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn adolygol.

 

75.

Cynnig Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19. pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Strategaeth Trafnidiaeth a Monitro adroddiad i gymeradwyo'r cais ychwanegol am gyllid ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Cynllun Cyfnewidfa Broadway.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ychwanegol ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 yn adolygol.

 

76.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

77.

Cynnig Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Strategaeth Trafnidiaeth a Monitro adroddiad i gymeradwyo'r cais ychwanegol am gyllid ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Pont Baldwins a Chyffordd Dyfaty.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ychwanegol ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 yn adolygol.