Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd D H Hopkins yn
Gadeirydd Dros Dro. Y Cynghorydd D H Hopkins (Cadeirydd Dros Dro) fu'n
llywyddu. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd J E
Burtonshaw – Personol – Cofnod Rhif 75 - Cais Ychwanegol ar gyfer Cronfa
Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Rwy'n defnyddio Cyfnewidfa Broadway'n
ddyddiol. Y Cynghorydd R
Francis-Davies – Personol – Cofnod Rhif 75 - Cais Ychwanegol ar gyfer Cronfa
Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Mae'r cynllun ar ddiwedd fy stryd (Lôn Cadog,SA2
0TS). |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu
Allanol a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2018 yn gofnod cywir. |
|
Cronfa Gofal Integredig: Cyllid Cyfalaf. PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cydlynydd Rhaglen Bae'r Gorllewin adroddiad i gymeradwyo arian cyfalaf y GGI ar
gyfer Cyngor Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo elfen Abertawe o'r cais am
grant cyfalaf y GGI a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn adolygol. |
|
Cynnig Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19. PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Strategaeth Trafnidiaeth a Monitro adroddiad
i gymeradwyo'r cais ychwanegol am gyllid ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol
2018/19 - Cynllun Cyfnewidfa Broadway. Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ychwanegol ar gyfer Cronfa
Trafnidiaeth Leol 2018/19 yn adolygol. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Cynnig Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19. Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Strategaeth Trafnidiaeth a Monitro adroddiad
i gymeradwyo'r cais ychwanegol am gyllid ar gyfer Cronfa Trafnidiaeth Leol
2018/19 - Pont Baldwins a Chyffordd Dyfaty. Penderfynwyd cymeradwyo’r cais ychwanegol ar gyfer
Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 yn adolygol.
|