Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Panel
Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2018 fel cofnod cywir. |
|
Grant Tai Fforddiadwy a Chyllid Rhaglen Tai Arloesol. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Rhagor o Gartrefi adroddiad er mwyn rhoi
manylion ar Grant Tai Fforddiadwy a Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i
gefnogi cyflwyno 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
galluogi'r cyngor i dderbyn dyraniad y Grant Tai Fforddiadwy ar gyfer 18/19 a
19/20, yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd ym mharagraffau 2.2 a 2.3 yr
adroddiad, a chymeradwyo defnyddio'r grant ar gyfer y rhaglen datblygu drwy'r
broses FPR7; 2) Cymeradwyo cyflwyno cais am arian i’r Rhaglen Tai Arloesol (IHP2) ar gyfer cam 2 cynllun Colliers Way. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad i hysbysu'r Panel Ariannu
Allanol am y Rhaglen Amlinellol Strategol gymeradwy ar gyfer Band B Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif a phroffil arwyddol y gwariant a'r amserlenni ar gyfer
cyflwyno'r rhaglen. Dywedodd y
cadarnhawyd, o ganlyniad i drafodaethau â Llywodraeth Cymru, nad yw Ysgolion
Ffydd yn gymwys am gynllun ar ffurf Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Dywedodd Aelod y Cabinet y bydd y panel yn
cael ei hysbysu am gynnydd ar y mater hwn. Penderfynwyd y dylai’r Panel Ariannu Allanol nodi cynnwys y
rhaglen a phroffil disgwyliedig y gwariant a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno'r
rhaglen. |
|
Cynyddu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg - Cais am Grant Cyfalaf. PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad i hysbysu'r Panel Ariannu
Allanol am y cais am grant cyfalaf i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a
phroffil arwyddol y gwariant a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno'r rhaglen. Penderfynwyd y dylai’r Panel Ariannu Allanol nodi cynnwys y
cais a phroffil disgwyliedig y gwariant a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno'r
rhaglen. |
|
Cynnig i gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i ariannu safle newydd i sipsiwn a theithwyr. PDF 128 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cynllunio a Galluogi Strategol adroddiad yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer cyflwyno cais am grant i Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu
safle Sipsiwn a Theithwyr newydd. Penderfynwyd cyflwyno cais am gyllid Grant Cyfalaf i Lywodraeth Cymru. |