Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd M Sherwood gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 42 “Cronfa Compact Abertawe 2018/19” – fel aelod o Bwyllgor Rheoli Dinas Noddfa (Abertawe) a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

37.

Cofnodion. pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2018 yn gofnod cywir.

38.

Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau - Cyllid Grant Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad i roi gwybod i'r panel am y bwriad i wneud cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru i leihau maint dosbarthiadau babanod a chodi safonau.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig grant newydd i awdurdodau lleol â'r nod o leihau maint dosbarthiadau babanod a chodi safonau.  Bydd y ffocws ar ysgolion â dosbarthiadau o 29 o ddysgwyr neu fwy, a lle mae'r ysgolion yn dangos o leiaf un o'r canlynol neu gyfuniad ohonynt:

 

·         Lefelau sylweddol o brydau ysgol am ddim;

·         Deilliannau llai na'r cyfartaledd a lle bernir bod ysgol yn goch neu'n ambr (yn ôl categoreiddio rhanbarthol ERW);

·         Lefelau sylweddol o anghenion addysgol arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol;

·         Nifer sylweddol o blant nad yw'r Gymraeg/Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

 

Y cynnig arfaethedig yw sefydlu un sylfaen dosbarth newydd yn yr ysgolion canlynol gyda chyllid cyfalaf a refeniw cysylltiedig:

 

·         Ysgol Gynradd Hendrefoilan (estyniad i ystafell ddosbarth);

·         Ysgol Gynradd Penyrheol (gwaith ailfodelu mewnol);

·         Ysgol Gynradd Sea View (estyniad bach a gwaith ailfodelu);

·         YGG Bryniago (gwaith ailfodelu mewnol).

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am yr arian grant i Leihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau.

39.

Cais am Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2018/19. pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Peiriannydd Rheoli Traffig adroddiad i roi gwybodaeth am y cais am Grant Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2018/19.

 

Mae'r fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn gwella darpariaeth llwybrau cerdded a beicio mewn cymunedau, yn enwedig y tu allan i ysgolion ac o'u hamgylch.  Nod hyn yw annog ffordd fwy cynaliadwy o fyw mewn cymunedau a mynd i'r afael â materion eithrio cymdeithasol.

 

Mae'r cais am gyllid yn cynnwys cynigion ar gyfer y 3 ardal ganlynol:

 

·         Gŵyr;

·         Gorseinon a Phenyrheol;

·         Llangyfelach a Mynydd-bach.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am gyllid grant Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2018/19 ac y dylai swyddogion dderbyn unrhyw ddyraniad a wneir yn unol â'r argymhellion canlynol:

 

a)              Datblygu amgylcheddau cerdded a beicio mwy diogel yn ardal Gŵyr i adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud yn yr ardal;

b)              Datblygu a chyflwyno amgylcheddau cerdded a beicio mwy diogel yn ardaloedd Gorseinon a Phenyrheol;

c)               Datblygu a chyflwyno amgylcheddau cerdded a beicio mwy diogel yn ardaloedd Llangyfelach a Mynydd-bach.

40.

Cais am Grant (Cyfalaf) Diolgelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru 2018/19. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Peiriannydd Rheoli Traffig wybodaeth am y cais am Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Cyfalaf) 2018/19.

 

Mae'r Grant Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf) yn galluogi awdurdodau lleol ledled Cymru i wneud cais am gyllid â'r nod o gefnogi mentrau allweddol i helpu i gyflawni targedau lleihau damweiniau ffyrdd a nodwyd yn y Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru 2018.  Yn benodol, mae'n ymdrechu i gyflawni'r targedau lleihau damweiniau canlynol:

 

·                 40% yn llai o bobl yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

·                 25% yn llai o yrwyr beiciau modur yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

·                 40% yn llai o bobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

 

Mae'r cais am gyllid yn cynnwys cynigion ar gyfer y 3 phrosiect canlynol:

 

·         Diweddaru 4 camera diogelwch ffyrdd presennol a datblygu safleoedd gorfodi symudol;

·         Cyflwyno mesurau diogelwch ffyrdd i hyrwyddo opsiynau teithio diogel yn ardal Portmead/Blaen-y-maes;

·         Gwella cyffordd allweddol ar Heol y Trallwn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am gyllid grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Cyfalaf) 2018/19 ac y dylai swyddogion dderbyn unrhyw ddyraniad a wneir yn unol â'r argymhellion canlynol:

 

a)              Diweddaru 4 camera diogelwch ffyrdd presennol a datblygu safleoedd gorfodi symudol;

b)              Cyflwyno mesurau diogelwch ffyrdd i hyrwyddo opsiynau teithio diogel yn ardal Portmead/Blaen-y-maes;

c)               Gwella cyffordd allweddol ar Heol y Trallwn.

41.

Cais am Grant (Refeniw) Diolgelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru 2018/19. pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Peiriannydd Rheoli Traffig adroddiad i roi gwybodaeth am y cais am Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Refeniw) 2018/19.

Mae'r cais hwn am gyllid yn cynnwys cynigion am yr 8 menter addysg a hyfforddiant diogelwch ffyrdd ganlynol:

 

1.       Kerbcraft – hyfforddiant cerddwyr i blant 5-7 oed (1,701 o leoedd am gyfanswm o £51,030);

2.       Mega Drive – Hyfforddiant cyn-yrru i bobl ifanc 16-18 oed (100 o leoedd am gyfanswm o £2,600);

3.       Rider Safe – Hyfforddiant beic modur i rai 16-24 oed ar gyfer defnyddwyr newydd mopedau a beiciau 2 olwyn pŵer isel (60 o leoedd am gyfanswm o £8,100);

4.       Bikesafe – Asesiad beic modur i feicwyr ar ôl y prawf ar y cyd â Heddlu De Cymru (40 o leoedd am gyfanswm o £2,400);

5.       Dragon Rider – Hyfforddiant beic modur DVSA ar gyfer beicwyr ar ôl y prawf (40 o leoedd am gyfanswm o £5,400);

6.       Pass Plus Cymru – Hyfforddiant i yrwyr newydd gymhwyso 17-24 oed (110 o leoedd £15,180);

7.       Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol – Lefelau 1 a 2 ar gyfer disgyblion 10/11 oed a Lefel 3 ar gyfer beicwyr mwy profiadol 16+ oed (992 o leoedd am gyfanswm o £41,664);

8.       Gyrru am Oes – Hyfforddiant gloywi i yrwyr 65+ oed (40 o leoedd am gyfanswm o £2,320).

 

Bu'r panel yn trafod a fyddai modd cynnwys Addysg Diogelwch Ffyrdd benodol mewn cynigion yn y dyfodol er mwyn addysgu rhieni/gwarchodwyr am faterion diogelwch penodol megis parcio diystyriol, e.e. ar linellau igam-ogam y tu allan i ysgolion.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais am Grant Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Refeniw) 2018/19 ac y dylai swyddogion dderbyn unrhyw ddyraniad a wneir yn unol â'r argymhellion canlynol:

 

a)          Darparu addysg, hyfforddiant ac ymyriadau cyhoeddusrwydd ar ddiogelwch ffyrdd i helpu i leihau damweiniau mewn grwpiau defnyddwyr ffyrdd risg uchel a diamddiffyn fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.

42.

Cronfa Compact Abertawe 18/19. pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cydlynydd Comisiynu'r Trydydd Sector a Chronfeydd Ymddiriedolaeth adroddiad i benderfynu ar y cais gohiriedig i gyfres untro o gyllid gan Gronfa Compact Abertawe 2018/19.

 

Gohiriwyd y cais gan y Ddinas Noddfa er mwyn cael eglurhad ar nodau'r prosiect a'r canlyniadau arfaethedig. Clustnodwyd £7,500 - y swm llawn y gofynnwyd amdano - yn y gyllideb gan ddisgwyl am benderfyniad y panel.

 

Amlinellwyd y diweddariad, a oedd yn cynnwys mwy o wybodaeth am y prosiect ar gyfer 2018 ac a oedd yn cynnig targedau newydd, yn Atodiad B.

 

Cwestiynodd y panel rôl yr ymddiriedolwyr a'r Pwyllgor Rheoli a ph'un a oedd y rôl yn dyblygu'r hyn sydd eisoes yn cael ei ddarparu gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais ar y ffigur llai, sef £5,000.

43.

Grant Pwysau'r Gaeaf. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Bartner Ariannol (Pobl) adroddiad i roi gwybod i'r panel am ddyraniad cyllid mewn perthynas â chefnogi cyflwyniad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod gaeaf 2017/18.

 

Dyrannodd Llywodraeth Cymru'r grant hwn yn uniongyrchol ac nid oedd rhaid i'r cyngor gyflwyno cais.  Cynigiwyd dyraniadau i holl gynghorau Cymru.  Roedd y cynnig ar gyfer £795,988 ac am y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2018.

 

Diben y cyllid yw cefnogi cyflwyniad y Gwasanaethau Cymdeithasol dros gyfnod gaeaf 2017-2018 drwy:

 

·         Becynnau gofal cartref o 1 Ionawr i 31 Mawrth 2018;

·         Gwasanaethau gofal a thrwsio ar gyfer addasiadau bach i gartrefi a chyfarpar i hwyluso rhyddhau pobl a'u helpu i gynnal annibyniaeth;

·         Gofal preswyl tymor byr a defnydd o welyau gofal llai dwys i hwyluso rhyddhau a throsglwyddo o'r ysbyty i'r cartref.

 

Penderfynwyd y byddai'r panel yn nodi'r goblygiadau sydd yn yr adroddiad ac, yn dilyn hynny, gymeradwyo derbyn y grant.

44.

Trafnidiaeth Leol a Chais Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2018/19. pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth Cludiant adroddiad i gymeradwyo'r cais am gyllid gan y Gronfa Drafnidiaeth Leol 2018/19.

 

Cyflwynwyd cais am gyllid i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol a Chronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol (LTF ac LTNF) i Lywodraeth Cymru ar 25 Ionawr 2018 yn unol ag arweiniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Cyflwynodd Dinas a Sir Abertawe bedwar cais - cyfanswm o £3.388 miliwn - ac roedd yn aros am gyhoeddiad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru o ran pa gynlluniau fyddai'n cael eu hariannu'r rhannol neu'n llawn.  Amlinellwyd y cynlluniau a swm eu ceisiadau, a oedd yn cynnwys:

 

·         Metro De-orllewin Cymru (LTF);

·         Ffordd Fabian (Pont Baldwin) (LTF);

·         Datblygu'r Cynllun Teithio Llesol (LTF);

·         Coridorau Bysus Strategol (LTNF).

 

Penderfynwyd y byddai'r panel yn cymeradwyo'r cais am gyllid i'r Gronfa Drafnidiaeth Leol 2018/19.

45.

Amgueddfa Abertawe - Cronfa Drawsnewid Llywodraeth Cymru 18/19. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem i gyfarfod nesaf y Panel Ariannu Allanol.

46.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r panel wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y panel Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

47.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol.

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar geisiadau Ewropeaidd presennol ac arfaethedig a cheisiadau allanol eraill gan y Rheolwr Ariannu Allanol:

 

·         Brexit a Pholisi Rhanbarthol y Dyfodol;

·         Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) 2014-2020;

·         Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) 2014-2020;

·         Cronfeydd Allanol Eraill.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.