Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd J Raynor yn Gadeirydd
Dros Dro. Y Cynghorydd J Raynor (Cadeirydd) fu'n llywyddu |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorydd J Raynor fudd personol yng nghofnod rhif 35
"Cais am grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2017/18 -
Cyllid Ychwanegol (Rhagfyr 2017)" - roedd gan y Cynghorydd geisiadau
diogelwch ffyrdd yn ei ward. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Panel Ariannu Allanol gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2018
yn gofnod cywir. |
|
Cofnodion: Ystyriodd y panel
yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ychwanegol am y cais am grant
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru 2017/18. Mae'r fenter
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn gwella darpariaeth llwybrau cerdded a beicio
mewn cymunedau, yn enwedig y tu allan i ysgolion ac o'u hamgylch. Nod hyn yw
annog ffordd fwy cynaliadwy o fyw mewn cymunedau a mynd i'r afael â materion
eithrio cymdeithasol. Penderfynwyd: 1)
Mae'r
Panel Ariannu Allanol yn caniatáu i swyddogion dderbyn arian grant ychwanegol
ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau; 2)
Mae
prosiectau'n cael eu datblygu a'u rhoi ar waith er mwyn creu amgylcheddau
cerdded a beicio sy'n fwy diogel ar hyd Heol/Stryd Llangyfelach i Heol Cwm
Lefel; 3) Mae prosiectau'n cael eu datblygu a'u rhoi ar waith er mwyn creu amgylcheddau cerdded a beicio sy'n fwy diogel yn ardal Gŵyr. |