Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd J A Raynor – Cofnod Rhif 31 – Cronfa Compact Abertawe 2018/19 (Eitem 8) – Clwb Rygbi Dynfant yn cynnal digwyddiadau Bikeability – personol.

 

Y Cynghorydd R C Stewart - Cofnod Rhif 31 – Cronfa Compact Abertawe 2018/19 (Eitem 4) – Rwy'n adnabod perchennog Whitehead Ross a grybwyllir fel darparwr papur y cynnig – personol.

 

30.

Cofnodion: pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2017 yn gofnod cywir.

 

31.

Cyllid Compact Abertawe 2018/19. pdf eicon PDF 348 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Partneriaethau a Chomisiynu adroddiad a oedd yn ceisio penderfyniadau ar geisiadau i gyfres untro o gyllid gan Gronfa Cyllid Compact Abertawe 2018/19.

 

Amlinellwyd y derbyniwyd 23 o geisiadau am gyllid yn 2018/19 erbyn y dyddiad cau ar 18 Tachwedd 2017.

Penderfynwyd bod y ceisiadau gan Ganolfan Ddyledion CAP Gorllewin Abertawe a'r Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig yn anghymwys. 

 

Roedd £146,000 ar gael i'w glustnodi a chyfanswm y cyllid a geisiwyd gan yr 21 o geisiadau oedd £356,688. 

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Cefnogi'r ceisiadau canlynol ar gyfer 2018/19: -

 

Eitem

Sefydliad

Swm a geisiwyd

Swm a gymeradwywyd

1

EYST (Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig)

£25,855

£12,928

2

CCHBA

£30,000

£15,000

6

Cymorth i Fenywod Abertawe

£20,164

£20,164

7

BAWSO

£24,700

£12,350

8

Bikeability

£20,000

£10,000

9

Local Aid

£7,310

£3,600

11

Canolfannau Gweithgareddau Awyr Agored Coeden Fach

£5,000

£5,000

12

Fferm Gymunedol Abertawe

£20,000

£10,000

13

Partneriaeth Pontarddulais

£14,070

£7,000

15

Cyfle i Dyfu

£26,000

£13,000

18

Noddfa Anifeiliaid Hillside

£20,000

£17,000

22

Circus Eruption

£10,314

£5,157

 

 

 

 

 

Cyfanswm

 

£138,689

 

2)    Gohirio'r ceisiadau canlynol tan 2018/19 yn amodol ar dderbyn gwybodaeth ychwanegol: -

 

Eitem

Sefydliad

Swm a geisiwyd

5

Dinas Noddfa

£7,500

 

3)    Gwrthod y ceisiadau canlynol ar gyfer 2018/19: -

 

Eitem

Sefydliad

3

Grŵp Cefnogi Ceiswyr Lloches Bae Abertawe

4

Canolfan Gymunedol Affricanaidd

10

Yr Ysgol Goedwig

14

Tŷ Croeso - Clydach

16

Colvertv.Com CIC

19

Canolfan Gofalwyr Abertawe

20

Menter Iaith Abertawe

21

Sefydliad Pobl Tsieineaidd yng Nghymru