Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd A S Lewis - cofnod 25 - Rhaglen Tai Arloesol - Cefnogi
adeiladu 2000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru - Aelod y Cabinet
arweiniol o ran safleoedd Ffordd Colliers a Pharc yr
Helyg - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a
gynhaliwyd ar 4 Hydref 2017 fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Tai Arloesol - Cefnogi cyflwyno 2,000 o gartrefi newydd fforddiadwy yng Nghymru. PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Datblygu ‘Mwy o Gartrefi’ adroddiad a ddarparodd fanylion y cais i
Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru - i gefnogi adeiladu 20,000 o gartrefi
fforddiadwy newydd yng Nghymru. Penderfynwyd y dylid: 1)
Cymeradwyo
cais cam 1 yn ôl-weithredol; 2) Cymeradwyo cyflwyno ail gais am gyllid ar gyfer cam 2 erbyn dyddiad cau Llywodraeth Cymru. |
|
Cyllid Compact Abertawe 2018/19. PDF 159 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Partneriaethau a Chomisiynu adroddiad a oedd yn ceisio
penderfyniadau o ran ceisiadau rownd ariannu unigryw Cronfa Compact Abertawe
2018/19. Cynigiwyd bod y tri gwasanaeth a gafwyd yn flaenorol drwy’r Gronfa Newid ar
sail contract yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o 6 mis er mwyn caniatáu parhad
wrth i’r broses gomisiynu fynd rhagddi. Y tri gwasanaeth cyfredol a gafwyd oedd
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Canolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe a
Fforwm yr Amgylchedd Abertawe. Ychwanegwyd bod y cyllid a oedd yn weddill wedi'i lansio fel rownd ariannu
agored sef y Gronfa Compact. Roedd yn rhaid i bob ymgeisydd gysylltu eu
ceisiadau, eu prosiectau neu eu gwasanaethau craidd yn uniongyrchol â Chynllun
Corfforaethol y cyngor, gan esbonio sut yr oeddent yn cyfrannu at un o'r pum
blaenoriaeth. Gofynnodd y cynghorwyr i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu mewn
perthynas â phob ymgeisydd ar gyfer y Gronfa Compact. Penderfynwyd: 1)
Estyn
cytundebau contract am 6 mis ym 2018/19 i'r tri sefydliad presennol a oedd yn
derbyn CLG tair blynedd yn flaenorol; 2) Gohirio’r ceisiadau am arian o'r Gronfa Compact tan gyfarfod nesaf y panel a drefnir ar gyfer dydd Mercher, 10 Ionawr 2018, er mwyn darparu gwybodaeth ategol ychwanegol am bob ymgeisydd. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r panel
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y panel
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol, fel a
nodwyd yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Ariannu Allanol adroddiad i ddarparu’r diweddaraf am geisiadau
arfaethedig am gyllid Ewropeaidd a cheisiadau eraill am gyllid allanol a
darparodd ddiweddariadau o ran perfformiad prosiectau a gymeradwywyd yn
flaenorol gan y panel. Penderfynwyd: 1)
Nodi’r diweddariadau am brosiectau a
amlinellir yn Adrannau 2 i 5 yr adroddiad, ar y cyd â gwybodaeth fanwl am
berfformiad prosiectau o fewn yr adroddiad monitro misol. 2)
Cymeradwyo estyn prosiect presennol Gweithffyrdd+
tan fis Rhagfyr 2022; 3)
Cymeradwyo cyflwyno cynllun busnes i WEFO i geisio cyllid
gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gyflwyno prosiect diweithdra tymor byr Gweithio
Abertawe: Gweithffyrdd+; 4)
Cymeradwyo unrhyw grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid
ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ategu'r Gronfa Datblygu a Gwella
Eiddo a chynlluniau Cartrefi Uwchben Siopau presennol. |