Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: Datganodd
y Cynghorydd M Sherwood fudd personol yng Nghofnod 12 "Ariannu Cyfalaf
Cronfa Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru" fel aelod
o fwrdd WCADA. Ni bleidleisiodd y
Cynghorydd Sherwood dros yr eitem hon. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi cofnodion y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Gorffennol
2017 a'u cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Arian Cyfalaf Cronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru. PDF 102 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog dros Gefnogi Pobl adroddiad i roi gwybod i'r panel am y bwriad i wneud
cais am gynnig grant newydd. Amlinellodd fod y
cyngor yn ymddwyn fel derbynnydd grant i alluogi sefydliadau partner i dderbyn
arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Mae'r grantiau hyn yn rhan o gyllid y Gronfa
Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau. Cynigiwyd grant
gwerth £85,491.07 i alluogi WCADA (Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a
Chaethiwed Cymru) i ariannu gwelliannau yn ei hisadeiledd TGCh. Bydd WCADA yn
ariannu costau cynnal y cyfarpar ac nid oes unrhyw gostau i'r awdurdod wrth
dderbyn y cynnig, oni bai am gostau gweinyddu derbyn y grant a'i ddostalu. Penderfynwyd y dylai'r panel nodi'r goblygiadau yn yr adroddiad a chymeradwyo derbyn y grant. |
|
Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. PDF 59 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog dros Gefnogi Pobl adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i dderbyn
Grant Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Byddai'r arian yn
cefnogi awdurdodau lleol i reoli effeithiau ariannol costau a threfn newid y
gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol, yn enwedig y pwysau sy'n codi o'r
cyflog byw cenedlaethol. Nod y grant yw
galluogi'r sector gofal cymdeithasol i wynebu'r pwysau ariannol sy'n
gysylltiedig â'r cyflog byw cenedlaethol. Mae sicrhau bod y bobl sy'n gweithio
yn y sector yn cael eu gwobrwyo'n addas ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud yn
rhan o'r ystod ehangach o welliannau i'w hamodau a thelerau. Disgwylir i'r
newidiadau hyn gefnogi gwelliant yn safon a pharhad y gwasanaeth a
gyflwynir. Gofynnodd Aelod y
Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol am y term Cyflog Byw Cenedlaethol a
gofynnodd a oedd y term cywir yn cael ei ddefnyddio neu a ddylid defnyddio'r
term 'Isafswm Cyflog' yn lle. Dywedodd y Prif Swyddog dros Gefnogi Pobl y
byddai'n gwirio'r derminoleg a ddefnyddiwyd. Penderfynwyd: 1)
Y
byddai'r Prif Swyddog yn gwirio'r term 'Cyflog Byw Cenedlaethol'; 2) Y byddai'r panel yn nodi goblygiadau'r adroddiad ac yn cymeradwyo derbyn y grant. |
|
Cais 2017/18 Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol. PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Strategaeth Cludiant adroddiad i gymeradwyo'r cais am gyllid ar gyfer Cronfa
Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2017/18. Byddai'r cais yn
cyflwyno cyfres o welliannau i wella effeithlonrwydd y rhwydwaith priffyrdd mewn ardaloedd lle ceir
tagfeydd yn aml oherwydd traffig oriau brig.
Bydd y mesurau'n gwella dibynadwyedd amser teithio ar gyfer teithiau
cludiant cyhoeddus ar fysus ac yn cefnogi'r cysyniad o gyfnewidfeydd bysus.
Bydd y cyfnewidfeydd yn hyrwyddo gwell integreiddio rhwng dulliau cludiant, ac
yn nodi'r camau cyntaf o ran cyfuno rhwydwaith o opsiynau cludiant er mwyn dechrau
trefnu a gwireddu system cludiant integredig ar gyfer Abertawe a De-orllewin
Cymru. Roedd y cais am
gyllid eisoes wedi cael ei gyflwyno oherwydd yr amser cyfyngedig a roddwyd gan
Lywodraeth Cymru rhwng y gwahoddiad a'r dyddiad cyflwyno. Cafwyd cymeradwyaeth
gan Aelodau'r Cabinet cyn cwblhau'r ceisiadau. Gofynnodd yr
aelodau amryw o gwestiynau ac ymatebodd y Swyddog yn briodol. Penderfynwyd y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn cymeradwyo'r
cais i'r Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2017/18. |