Lleoliad: Ystafell Gynadleddau’r Cabinet - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R Francis-Davies yn
Gadeirydd Dros Dro. BU'R CYNGHORYDD R FRANCIS-DAVIES (CADEIRYDD DROS
DRO) YN LLYWYDDU. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiant canlynol: Y Cynghorydd J A Raynor – Personol – Rhif Cofnod 25 – Dyfodol y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (CATF). Mae Cyfeillion Parc Dynfant yn gweithredu yn fy ward ac rwy'n aelod cysylltiol. |
|
Canolfan Feddygol a Chymorth i Deuluoedd newydd ym Mayhill. PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Adfywio Ffisegol adroddiad a oedd yn amlinellu goblygiadau cyfalaf a
refeniw Canolfan Feddygol a Chymorth i Deuluoedd newydd ym Mayhill
ac yn ceisio awdurdod i fwrw ymlaen â'r datblygiad
dynodedig mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd Lleol. Gofynnodd yr aelodau
gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD: 1.
CYMERADWYO'R prosiect; 2.
Ystyried
darparu arian ar gyfer cost ychwanegol gwerth £167k ym mhroses y gyllideb
gyfalaf ar gyfer 2016/2017; a 3.
NODI bod yr wybodaeth ddiweddaraf wedi'i rhoi
am y broses o gyd-drafod gwerthu tir a chostau adeiladu. |
|
Cynllun Lliniaru Llifogydd Blackpill. PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Cynnal a Chadw Draenio Cynlluniedig a Rheoli'r Arfordir yr wybodaeth
ddiweddaraf am grant Llywodraeth Cymru i gefnogi dylunio Cynllun Lliniaru
Llifogydd Blackpill. Gofynnodd yr aelodau
gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO'R grant i
gefnogi'r dyluniad ar gyfer y cynllun. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Cynnal a Chadw Draenio Cynlluniedig a Rheoli'r Arfordir yr wybodaeth
ddiweddaraf am grant Llywodraeth Cymru i gefnogi cynlluniau rheoli perygl
llifogydd ar raddfa fach. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r grant i gefnogi'r
cynlluniau a nodir. |
|
Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. PDF 186 KB Cofnodion: Cyflwynodd Cydlynydd Perthnasoedd y Sector Gwirfoddol adroddiad am ddyfodol
y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (CATF). Dywedodd y bu CATF ar waith am bum rownd a bwriedir cau'r chweched rownd i
geisiadau ym mis Mawrth 2017. Hyd yn hyn, mae'r CATF wedi cefnogi 17 prosiect a
chlustnodi cyfanswm gwerth £298,058 i brosiectau (cyllideb gwerth £300,000). Nododd yr aelodau nad oes unrhyw gyllid i barhau â'r
CATF. Ar hyn o bryd, mae £2,000 yn weddill o'r gyllideb wreiddiol, sef
£300,000. Petai'r aelodau am gefnogi'r 6ed rownd arfaethedig o arian
ac/neu estyn y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned ymhellach, byddai
angen ychwanegu at y gyllideb er mwyn caniatáu am hyn. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD
gohirio'r adroddiad tan y cyfarfod nesaf. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes a
nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y
dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Cyllid Ewropeaidd ac Allanol adroddiad a roddodd
yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau ar gyfer cyllid Ewropeaidd a chyllid
allanol arall. Gofynnodd
yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau yn adrannau 2 i 6 yr adroddiad; 2)
Cefnogi'r cais i gefnogi rhaglen 4.4 yr ERDF ar gyfer y ganolfan gyflogaeth
ar Ffordd y Brenin; 3)
Cefnogi'r cais i Ddinas a Sir Abertawe gymryd rhan fel cyd-fuddiolwyr
prosiect Cam Nesa. |