Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd C E Lloyd yn Gadeirydd Dros Dro. BU'R CYNGHORYDD C E HALE (CADEIRYDD DROS DRO) YN
LLYWYDDU. |
|||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion canlynol: Datganodd y Cynghorydd W Evans fudd personol yng
nghofnod 41 - Cais i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol (cyswllt beicio Pontybrenin) -
Cynghorydd Ward Pontybrenin. Datganodd A S Lewis fudd personol yng nghofnod 41
- Cais i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18 (Cysylltiadau Glan yr Afon
Treforys) fel Cynghorydd Ward ar gyfer Treforys a budd personol a rhagfarnol
yng nghofnod 42 - Trosolwg o'r ceisiadau presennol a'r rhai sydd ar ddod am
gyllid Ewropeaidd ac allanol - Aelod y Cabinet a gymeradwyodd y cais. Gadawodd y Cynghorydd Lewis y cyfarfod cyn
i'r eitem hon gael ei thrafod. Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd personol yng
nghofnod 40 - Rhaglen Gyfalaf Dechrau'n Deg 2017-2018 - Llywodraethwr ysgol
Gynradd St. Thomas a chofnod 41 Cais i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18 -
Cynghorydd Ward ar gyfer St. Thomas. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2017 fel cofnod cywir. |
|||||||||
Rhaglen Gyfalaf Dechrau'n Deg 2017-2018. PDF 65 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Datblygu Achos Busnes Ysgol adroddiad i amlinellu'r
cynnig cyfalaf sydd wedi'i gynnwys yn y cais am gyllid ychwanegol a gyflwynwyd
i Lywodraeth Cymru o ran Rhaglen Gyfalaf
Dechrau'n Deg 2017/18 ac i gadarnhau cyllid ACEHI a gymeradwywyd ar gyfer Dinas
a Sir Abertawe. PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cyfalaf Dechrau'n Deg 2017/18. |
|||||||||
Cais i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18. PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth adroddiad i gymeradwyo'r cais
am gyllid o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18. Nododd fod pedwar cais â chyfanswm o £4.312 wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru
ac mae'r symiau canlynol wedi cael eu rhoi ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno:
Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud dyraniad dangosol o
£18k i gefnogi'r gwaith sydd ei angen i gydymffurfio â dyletswyddau statudol
Deddf Teithio Llesol (Cymru). Cyfanswm = £1,221,000 Pwysleisiodd y Cadeirydd fod angen cynnal mwy o drafodaethau mewn perthynas
â goblygiadau refeniw sy'n codi o gymorth grant ar gyfer prosiectau cyfalaf ac
ystyried bod ceisiadau cyllid yn y dyfodol yn unol â blaenoriaethau
corfforaethol. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/18. |
|||||||||
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai
Cymunedol adroddiad i ddarparu manylion o'r cais am Gyllid Arbed Cartrefi Clyd
Llywodraeth Cymru 2017-18 ar gyfer ardal adnewyddu Sandfields. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r
cais am Gyllid Arbed Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru 2017-18 ar gyfer ardal
Adnewyddu Sandfields. |
|||||||||
Cofnodion: Gofynnwyd
i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem
fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel a nodwyd yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD
y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes
ganlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|||||||||
Y diweddaraf am geisiadau am gyllid allanol. Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Cyllid
Ewropeaidd ac Allanol yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau presennol ac
arfaethedig eraill am gyllid Ewropeaidd a chyllid allanol. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r argymhelliad i gefnogi'r cais i Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru 2017-2019, fel y'i amlinellir yn yr adroddiad. |