Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadleddau’r Cabinet - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016 - 2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R C Stewart yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016 - 2107.

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016 - 2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd C Richards yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016-2017.

 

(BU'R CYNGHORYDD C RICHARDS, YR IS-GADEIRYDD, YN LLYWYDDU)

 

 

3.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y cynghorwyr: M C Child, J E C Harris, D H Hopkins a R C Stewart.

4.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 62 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2016 fel cofnod cywir.

6.

Meysydd chwaraeon artiffisial trydedd genhedlaeth. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Datblygu ac Allgymorth adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gyflwyno cynnig i'r Grŵp Cyfleusterau Chwaraeon Cydweithredol (yn cynrychioli Chwaraeon Cymru a Chyrff Llywodraethu Rygbi, Pêl-droed a Hoci yng Nghymru) i ddatblygu caeau chwaraeon artiffisial (3G) mewn dau fan a nodwyd yn strategol yn Abertawe.

 

Holodd aelodau am gostau cynnal, cynnal a chadw'r caeau a gwnaethant geisio sicrwydd y byddai costau'r ddau safle o leiaf yn adennill costau.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu ac Allgymorth y byddai'r costau cynnal posibl ar gyfer pob cyfleuster rhwng £40,000 a £45,000 a byddai'n cael ei ariannu gan yr incwm a gynhyrchir gan y ddau safle. Roedd hyn yn cynnwys darparu cronfa ad-dalu ar gyfer ailosod y carped a'r siocleddfwr (os yw'n berthnasol), yn ogystal â naill ai trwsio neu ailosod ffensys a llifoleuadau.  Gan dybio y byddai'n para 10 mlynedd, gan ddibynnu ar ddefnydd a chynnal a chadw, cynigir clustnodi cronfa ad-dalu o rhwng £15,000 a £20,000 y flwyddyn i bob safle.  Roedd yr Achos Busnes wedi nodi y byddai'r safleoedd yn adennill costau.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r Panel Ariannu Allanol yn nodi'r goblygiadau yn yr adroddiad ac yn cymeradwyo cyflwyno achos busnes er mwyn denu hyd at £400,000 o gyllid.

 

Cododd y Rheolwr Datblygiad ac Allgymorth fater brys mewn perthynas y mae ei angen ar Ysgol/Canolfan Hamdden Llandeilo Ferwallt o ran cyllido cyfleuster 3G ar y cyrtiau tenis presennol.  Sefydlwyd ymddiriedolaeth i dalu am y prosiect; fodd bynnag, roedd diffyg o £15,000.  Cadarnhaodd mai staff Canolfan Hamdden Llandeilo Ferwallt fyddai'n cynnal a chadw'r cyfleuster a byddai'r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol a defnyddwyr y ganolfan hamdden.  Gobeithiwyd y byddai'r gwaith yn cael ei gyflawni yn ystod gwyliau haf yr ysgol er mwyn osgoi anghyfleustra.

 

Cytunodd y Panel Ariannu Allanol â'r cyllid mewn egwyddor, yn amodol ar gyflwyno adroddiad ffurfiol yn y cyfarfod nesaf.