Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd C Richards yn
Gadeirydd Dros Dro. BU'R CYNGHORYDD C RICHARDS (CADEIRYDD DROS DRO) YN LLYWYDDU. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir. |
|
Ariannu Gofal Canolradd (ICF) 16/17 - Ail Gyfran O Arian ICF. PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ymddiheuriadau gan Gydlynydd Rhaglen Bae'r Gorllewin ar ran
Cyfarwyddwr Rhaglen Bae'r Gorllewin a chyflwynodd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ail gyfran
Cyllid Gofal Canolraddol o Gronfa Refeniw 2016/17 ar gyfer Dinas a Sir
Abertawe. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd
yn briodol. PENDERFYNWYD y dylai'r 1.
Panel Ariannu Allanol GYMERADWYO
Cynlluniau Refeniw Ychwanegol ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol ar gyfer
cynlluniau ataliol i bobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu a phlant ag
anghenion cymhleth ar gyfer Dinas a Sir Abertawe (wedi'i gynnwys yn Atodiad 2);
a 2.
Dosbarthwyd manylion cyfansymiau gwario gan Gydlynydd Rhaglen Bae'r
Gorllewin a'r sefydliadau sy'n derbyn adnoddau (o ran cyfran 1 a 2) i'r Panel. |