Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion
cyfarfodydd y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016 a'r Panel Ariannu
Allanol Arbennig a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir yn amodol ar
y diwygiad canlynol: Y dylid ychwanegu Sandie Richards, Prif
Gyfreithiwr, at y bobl a oedd yn bresennol ar gyfer cyfarfod y Panel Ariannu
Allanol a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016. |
|
Rhaglen Gyfalaf Dechrau'n Deg 2016-2017. PDF 66 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Achos
Busnes Prosiect Ysgol adroddiad i amlinellu'r cynnig cyfalaf a gynhwyswyd yn y
cais cyllid ychwanegol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ynghylch Rhaglen
Dechrau'n Deg 2016/17. PENDERFYNWYD y dylid
cynnwys y cynnig fel y nodwyd, ynghyd â'r goblygiadau ariannol, yn y rhaglen
gyfalaf, gan ragweld y bydd Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r cynnig. |
|
Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. PDF 186 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Rhaglen Ewropeaidd adroddiad ynghylch dyfodol y Gronfa
Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (CATF) ar ran y Cydlynydd Perthynas Sector
Gwirfoddol. Roedd yr adroddiad wedi'i ohirio o gyfarfod y Panel Ariannu Allanol
Arbennig ar 2 Tachwedd 2016. PENDERFYNWYD y byddai'r Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned yn parhau, yn amodol ar gymeradwyaeth gyllidebol. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem fusnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym mharagraff gwahardd
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle roedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodwyd yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Cyllid Ewropeaidd adroddiad a roddodd yr wybodaeth
ddiweddaraf am geisiadau presennol a chynlluniedig am gyllid Ewropeaidd a
cheisiadau eraill am gyllid allanol. Cafodd y swyddogion eu canmol gan Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac
Adfywio ar gyfer y modd blaengar roeddent wedi archwilio'r holl opsiynau a
ffrydiau ariannu. PENDERFYNWYD AR Y CANLYNOL: 1) Y dylid nodi'r diweddaraf ar brosiectau yn adrannau 2 i 9; 2) Y dylid cefnogi cynigion i Croeso Cymru a Cadw i adfer Tŷ
Injan Musgrave ac y dylid galw cyfarfodydd y Panel Ariannu Allanol Arbennig i
gymeradwyo cynigion ariannu brys y mae angen eu cyflwyno; 3) Dylai'r panel gefnogi datblygu a chyflwyno cais am gyllid i'r
Gronfa Cymunedau Arfordirol i gyflwyno Mynediad i Arfordir Bae Abertawe ar
gyfer Prosiect Buddsoddiad Busnes; 4) Dylai'r panel gefnogi cynigion ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau a gynigir dan Raglen Canol Dinas Abertawe Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. |