Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Election of Chair Pro Tem.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y byddai'r Cynghorydd W E Evans yn cael ei ethol yn Gadeirydd dros dro. 

 

BU'R CYNGHORYDD W E EVANS (CADEIRYDD DROS DRO) YN LLYWYDDU.

8.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

9.

Cofnodion: pdf eicon PDF 57 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.

10.

Grant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol - Morglawdd Amddiffyn/Cynnal y Mwmbwls. pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynnal a Chadw Draenio Cynlluniedig a Rheoli'r Arfordir adroddiad a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am Grant Llywodraeth Cymru i gefnogi Astudiaeth Arfarnu Prosiect ar gyfer Morglawdd y Mwmbwls.

 

Nododd bod rhaglen Llywodraeth Cymru i fod i helpu awdurdodau lleol i roi prosiectau sy'n cyd-fynd â dewisiadau polisi a argymhellir yn y cynllun rheoli traethlin ar waith.

 

Mae dyletswydd ar yr awdurdod i gynnal yr amddiffynfeydd presennol ac mae’r morglawdd yn y Mwmbwls wedi'i nodi'n ardal sy'n cydymffurfio â'r meini prawf cymhwysedd a byddai'n cael ei ariannu drwy grant 100%.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD bod y panel yn cymeradwyo’r grant i gefnogi creu astudiaeth arfarnu prosiect ar gyfer morglawdd/wal gynnal y Mwmbwls.

11.

Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cyllid Ewropeaidd ac Allanol adroddiad a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau presennol a’r rhai sydd ar ddod am gyllid Ewropeaidd ac allanol eraill.

 

Amlinellodd effaith bosib pleidlais Brexit ar drefniadau ariannu, gan gyfeirio at y prosiectau canlynol:

 

·       Safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa - Cronfa Dreftadaeth y Loteri - Menter

·       Amcan 4 Blaenoriaeth 4 ERDF - Cynnig am Hwb Cyflogaeth ar Ffordd y Brenin

·       Amcan 4 Blaenoriaeth 4 ERDF - Cyflwyniadau Cynllun 'Adeiladu ar gyfer y Dyfodol' Llywodraeth Cymru (rhaid ei ddefnyddio neu ei golli)

·       URBACT III

·       Cronfa Gymdeithasol Ewrop - Y diweddaraf am brosiect Cynnydd

·       Prosiect Cam Nesa

·       Gweithffyrdd + y diweddaraf am y cynnydd

·       Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020

·       Cronfa Pysgodfeydd Ewrop

·       Llwybrau Treftadaeth Cymru ac Iwerddon (INTERREG Iwerddon-Cymru)

·       Exportable (Rhaglen INTERREG Iwerddon-Cymru)

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)    y dylid nodi'r diweddaraf am brosiectau yn adrannau 2 i 6 yr adroddiad.

2)    y dylid cefnogi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i geisio cyllid i greu Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe.

3)    y dylid cefnogi cyflwyno cais drwy raglen Iwerddon-Cymru ar gyfer y prosiect Llwybrau Treftadaeth drwy Brifysgol Abertawe.

4)    y dylid cefnogi cyflwyno cais gan raglen Iwerddon-Cymru ar gyfer y prosiect Exportable.

12.

Prosiect Arwyneb 3G Llandeilo Ferwallt - Sesiwn Friffio. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cydlynydd Perthynas y Sector Gwirfoddol adroddiad "er gwybodaeth" ar y cyfle i'r ysgol ddatblygu'r cyfleusterau cyrtiau caled presennol yn sylweddol a gwella cyfleoedd am ddarpariaeth i'r ysgol a’r gymuned.  Disgwylir i'r prosiect ddechrau ganol mis Awst 2016, ac mae'n cynnwys ailwynebu ac ailffensio'r cwrt tenis presennol ag arwyneb artiffisial 3G a fyddai'n addas ar gyfer pêl-droed a rygbi hefyd yn ogystal â gweithgareddau corfforol eraill.

 

Darperir y prif gymorth ariannol (70k) gan Gronfa Chwaraeon Cymunedol Arwyn Harris, ynghyd â chyfraniadau gan yr ysgol a'r awdurdod lleol (36k). Cyflwynir cais am y gweddill (15k) drwy Grant Datblygu Chwaraeon Cymru.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

13.

Cronfa Gofal Canolraddol 16/17. pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen Ranbarthol Bae'r Gorllewin adroddiad a oedd yn gofyn i’r panel gymeradwyo cyllid cyfalaf Cyllid Gofal Canolradd 2016/17 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.

 

Dywedodd fod yr argymhellion wedi'u hepgor ar gam o'r adroddiad gan gynghori y gofynnir i aelodau gytuno ar gyflwyno cynlluniau cyfalaf a chynnwys cynlluniau ychwanegol yn rhaglen gyfalaf Abertawe sy'n amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

Dosbarthodd y fersiynau diweddaraf o Atodiad 1 a 2 a manylu ar y cefndir, y gwaith arfaethedig, amcan y cynllun a'r goblygiadau ariannol.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    Cytuno ar gyflwyno ceisiadau ar gyfer y cynlluniau cyfalaf; a

Chytuno ar gynlluniau ychwanegol yn rhaglen gyfalaf Abertawe yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.