Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y
Cynghorwyr A S Lewis a C Richards. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol: Y Cynghorydd J E C Harris - Rhif Cofnod 40 - Trosolwg
o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol -
Personol fel Cadeirydd y Fforwm Plant sy'n Derbyn Gofal a Rhif Cofnod 41 -
Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (04 – Eglwys Gymunedol Bont Elim) –
yn hysbys i'r Cynghorydd a (07 - Partneriaeth Pontarddulais) - Rhagfarnol -
Cadeirydd Partneriaeth Pontarddulais gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael
ei thrafod. Y Cynghorydd C E Lloyd - Rhif Cofnod 41 - Cronfa
Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (03 - Eglwys St Thomas - Cloc a 05
Cymdeithas Fowls Abertawe - Personol - yn hysbys i'r cynghorydd. Y Cynghorydd J A Raynor - Rhif Cofnod 40 -
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac
Allanol - Personol fel aelod o'r fforwm Magu Plant Corfforaethol ac yn
Rhagfarnol - Aelod o'r Panel Craffu a oedd wedi argymell cymhwyso'r arian ar
gyfer y swydd. Y Cynghorydd R C Stewart - Rhif Cofnod 41 - Cronfa
Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned (06 – Cymdeithas Fowls Coed Gwilym) –
Personol - yn hysbys i'r ymgeisydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y Panel Ariannu Allanol blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion
cyfarfod y Panel Ariannu Allanol a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2016 fel cofnod
cywir. |
|
Trosolwg o'r Ceisiadau Presennol a'r Rhai Sydd ar Ddod am Arian Ewropeaidd ac Allanol. PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Prif Swyddog Dros Dro'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf o ran arian Llywodraeth Cymru ar gyfer y Prosiect Peilot
Therapi Grŵp i Arddegwyr sy'n Derbyn ac yn Gadael Gofal y mae perygl y
bydd eu plant eu hunain yn dod yn Blant sy'n derbyn Gofal (PDG). Ymddiheurodd am y diofalwch o ran peidio â derbyn caniatâd gan y Panel
Ariannu Allanol cyn cyflwyno'r cais i Lywodraeth Cymru (LlC). Gofynnwyd i'r panel dderbyn y cynnig ariannu a gynigiwyd gan LlC am fenter
therapiwtig i dorri'r cylch cenedliadol o PDG yn dod yn rhiant ifanc sy'n aml
yn cael plant sy'n dod yn PDG. Byddai'r arian yn cefnogi Prosiect Peilot 3 blynedd, â'r bwriad o leihau
cenedlaethau'r dyfodol o deuluoedd sydd eisoes yn hysbys i'r Gwasanaethau
Cymdeithasol Plant a Theuluoedd sy'n dod yn PDG, ynghyd â gwella canlyniadau
i'n plant sy'n gadael gofal. PENDERFYNWYD derbyn yr arian fel y'i nodwyd yn y Llythyr Cynnig Grant gan Lywodraeth Cymru. |
|
Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned. PDF 186 KB Cofnodion: Dechreuodd y cadeirydd drwy egluro nad oedd y ceisiadau a oedd yn cael eu
hystyried gan y Panel heddiw wedi'u hystyried na'u cymeradwyo gan y Panel cyn y
cyfarfod, fel yr awgrymwyd mewn erthygl a gyhoeddwyd gan bapur newydd lleol. Cyflwynodd Cydlynydd y Trydydd Sector adroddiad
ynghylch ceisiadau ar gyfer pedwaredd rownd ariannu'r Gronfa Trawsnewid
Gweithredu yn y Gymuned. Cafodd cefndir
y Gronfa a'r egwyddorion sy'n sail iddi, ynghyd â'r
meini prawf y dylai ceisiadau eu bodloni a'r hyn y gellid eu defnyddio ar ei
gyfer, eu manylu yn yr adroddiad. Nododd aelodau y derbyniwyd 7 cais erbyn y dyddiad
cau ar gyfer pedwaredd rownd y gronfa ar 4 Mawrth 2016 fel a ganlyn: 1. Cymdeithas Bowls Cymunedol Parc Williams 2. Cymdeithas Fowls Beaufort 3. Cloc Eglwys St Thomas 4. Eglwys Gymunedol Bont Elim 5. Cymdeithas Fowls Dinas a Sir Abertawe 6. Cymdeithas Fowls Coed Gwilym 7. Partneriaeth Pontarddulais Trafododd grynodeb y ceisiadau a fanylwyd yn Atodiad A ac Atodiadau B1 i
B7. Trafododd aelodau'r ceisiadau gan ofyn cwestiynau i'r Swyddogion a
ymatebodd yn unol â hyn. CYTUNODD y Panel y
dylid: 1. CYMERADWYO'R cais a gyflwynwyd gan Gymdeithas Bowls Cymunedol
Parc Williams, sef swm o £24,277. 2. CYMERADWYO'R cais a gyflwynwyd gan Gymdeithas Fowls Beaufort, sef swm o £15,000. 3. CYMERADWYO'R cais a gyflwynwyd gan Eglwys St Thomas,
sef swm o £2,155. 4. GWRTHOD y cais a gyflwynwyd gan Eglwys Gymunedol Bont Elim. 5. CYMERADWYO'R cais a gyflwynwyd gan Gymdeithas Fowls
Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y swm o £37,000 - cytunwyd hefyd y gellir rhoi'r cyfle i'r grŵp gyflwyno cais arall i'r
gronfa yn y dyfodol. Dyfarnwyd arian
cynnal a chadw am flwyddyn yn hytrach na'r tair blynedd y gofynnwyd amdano,
fodd bynnag mae'r Panel yn sylweddoli y gallai fod angen mwy o gefnogaeth i
gynnal a chadw tair lawnt fowls yn unol â'r cais na
grwpiau ymgeisio sy'n cynnal un lawnt. 6. Cymeradwyo'r cais a gyflwynwyd gan Gymdeithas Fowls Coed
Gwilym, sef swm o £2,010. Ystyrir hefyd unrhyw ofynion o dan ddeddfwriaeth
gynllunio ar gyfer y cynhwysydd storio. 7. GWRTHOD y cais a gyflwynwyd gan Bartneriaeth
Pontarddulais. |