Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2017 yn gofnod
cywir. |
|
The Poppy Factory. Cofnodion: Rhoddodd Natalie
Mccombe o'r Ffatri Babïau gyflwyniad llafar i'r panel a oedd yn amlinellu ei rôl
fel cynrychiolydd rhanbarthol ar gyfer y sefydliad dros dde-orllewin Cymru. Amlinellodd hanes
cefndir sefydlu'r sefydliad, a'i brif nod yw helpu cyn-filwyr â materion iechyd
i ddychwelyd i'r gwaith. Gall y sefydliad gynorthwyo cyn-filwyr gyda materion
megis llunio CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad, dod o hyd i ffrydiau cyllido a'u
trefnu a chefnogaeth yn y gwaith yn ystod y 12 mis ar ôl iddynt gael
cyflogaeth. Cyfeiriodd at y
cysylltiadau da sydd gan ei sefydliad â grwpiau ac elusennau sy'n cefnogi cyn-filwyr
eraill ac mae ganddo hefyd berthynas ardderchog â'r GIG. |
|
EFT Consult. Cofnodion: Rhoddodd Adrian
Matthews o EFT Consult gyflwyniad llafar i'r panel a oedd yn amlinellu cefndir
defnydd ei gwmni o dechnoleg i ymdrin â materion a godwyd gan Ddeddf
Cenedlaethau'r Dyfodol. Dywedodd fod
"lles" wrth wraidd y busnes a bod 90% o'r gwaith yn gysylltiedig â
gwella dyluniad/cynllun adeiladau a gwella dyluniad adeiladu'r
dyfodol/dylanwadu arno. Amlinellodd yr "economi gylchog" a'r defnydd
o dechnoleg i reoli a gwella bywydau. Cyfeiriodd at y
digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty ar 14 Mehefin a dywedodd
fod y cwmni'n hapus i gwrdd â sefydliadau i drafod unrhyw faterion sydd
ganddynt ac archwilio syniadau ar gyfer gwella. |
|
Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd adroddiad gan amlinellu'r arolwg sydd wedi cael ei lunio gan Ddinas a
Sir Abertawe ac sy'n gysylltiedig ag amcanion ei Gynllun Corfforaethol. Roedd copïau
papur o'r arolwg ar gael ar gyfer aelodau o'r panel ac roedd yn bosib anfon y
rhain yn electronig pe bai angen. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel Cofnodion: Rhoddodd
aelodau'r panel y diweddaraf ar lafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi
gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau, gan gynnwys y
meysydd canlynol: Y Gweilch Amlinellodd Paul
Whapham y cyswllt sy'n cael ei ddatblygu gyda Help for Heroes ac URC a fydd,
gobeithio, yn helpu cyn-filwyr i hyfforddi fel hyfforddwyr rygbi cymwys. Dywedodd y
byddai'r Gweilch unwaith eto'n cymryd rhan yn nigwyddiadau Dydd y Cofio ac yn
cynnal "digwyddiad" y Lluoedd Arfog mewn gêm gartref a byddai manylion
yn dilyn ar ôl iddynt gael eu cadarnhau. Digwyddiadau
Arbennig Rhoddodd David
Price-Deer y diweddaraf am lwyddiant y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Dywedodd fod defnyddio'r ffordd gerbydau ar gyfer arddangosiadau wedi bod yn llwyddiannus
iawn gyda'r cyhoedd. Nododd nad yw
dyddiadau'r digwyddiadau a gynhelir y flwyddyn nesaf yr un peth, felly bydd
angen trafodaeth bellach cyn bo hir i gadarnhau trefniadau. PCYDDS Adroddodd Sue
Warburton am y daflen newydd a luniwyd i gynyddu ymwybyddiaeth cyn-filwyr o
argaeledd bwrsariaeth gwerth £1000 ar gyfer astudio a'i hamlinelli. Cyfeiriodd at
fenter Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n berthnasol i blant
"gwasanaeth". Dywedodd, er nad
oedd y cyswllt arfaethedig â Help for Heroes wedi datblygu yng Nghaerfyrddin,
erys cyfleusterau'r campws megis y gampfa, y pwll etc ar gael i'w defnyddio gan
gyn-filwyr. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Dywedodd Adrian
Rabey fod 147 o gwmnïau bellach wedi ymuno â'r cynllun sicrwydd o gyfweliad. Dywedodd fod y
cwmni wedi bod yn aflwyddiannus wrth gyflwyno cais am gyllid y cyfamod, ond
roedd wedi derbyn adborth a chyngor pellach ar ei gynnig a bydd yn cyflwyno
cais arall. Aartic
Training Dywedodd Antony
Rabey fod y cwmni wedi derbyn 4 cyn-filwr arall i gyflwyno ei gyrsiau a rhoi
cyngor ar draws y wlad. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Adroddodd Phil
Flower am restr o ddigwyddiadau amrywiol a fydd yn nodi canmlwyddiant ers
diwedd yr Ail Ryfel Byd a'i dosbarthu. Nododd ei fod
wedi ysgrifennu i'r Elyrch a'r Gweilch i drefnu digwyddiadau yng ngemau cartref
priodol. Cyfeiriodd at
gynnig y mae'n ei drafod â Chyngor Abertawe ar gyfer digwyddiadau amrywiol yn y
ddinas megis goleuo adeiladau amlwg, gosod pabïau ar bolion lampau ac
arddangosfa "llygad sy'n wylo".
Dywedodd fod 2019 yn nodi canmlwyddiant ers ehediad trawsatlantig di-stop
cyntaf Alcock a Brown, a digwyddiad a oedd yn cael ei drefnu yn ardal y
Mwmbwls, y gobeithir y byddai'n cynnwys awyrennau'n "hedfan heibio". Cyfeiriodd hefyd at Ganmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2021 ac
amlinellodd gynigion drafft y byddai'n eu trafod â Chadeirydd y panel ac
Arweinydd y Cyngor ar gyfer digwyddiadau amrywiol, a fydd o bosib yn cynnwys
gorymdaith gyda phob uned y Lluoedd Arfog a oedd wedi derbyn rhyddid y ddinas. Blesma Dywedodd Tom Hall fod ei sefydliad wedi derbyn swyddog allgymorth a fydd yn
cynorthwyo wrth wneud eu gwaith achosion. Gofynnodd i aelodau'r panel argymell eu gwasanaethau i unrhyw gyn-filwyr y
gall fod angen cymorth arnynt. Amlygodd gyfranogiad ei sefydliad yn natblygiad Rhwydwaith Trawma
Cyn-filwyr Cymru. Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd
(SSAFA) Cyfeiriodd Dave Singletary at y digwyddiad codi arian a gynhelir ar 4 Awst
yn nhafarn The Twelve Knights ym Mhort Talbot. Dywedodd y cynhelir diwrnod golff Cymdeithas y Milwr, Morwyr, Awyrenwyr a'u
Teuluoedd ar 10 Awst ar gwrs Coed y Mwstwr. Dywedodd fod y gampfa awyr agored a'r ganolfan galw heibio Bulldogs bellach
yn cael eu hadeiladu a chynhelir digwyddiad agoriadol ar 15 Medi. Dywedodd fod croeso i bob aelod o'r panel ddod i unrhyw un o'r
digwyddiadau. Y Llynges Amlygodd Ruth Fleming ei gwerthfawrogiad am yr holl waith ac ymdrech a wnaed
gan bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog. Cyfeiriodd at ddigwyddiad elusennol posib sy'n gysylltiedig â HMS Scott y
gweithir arno ar hyn o bryd. Y Ffatri Babïau Adroddodd Natalie Mccombe am y digwyddiad a gynhelir i ddathlu'r cyflawniad
o gael 1000 o gyn-filwyr i ddychwelyd i'r gwaith. Y Fyddin Talodd Chris Evans deyrnged hefyd i lwyddiant ac ymdrech pawb a gymerodd
ran yn y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog. Dywedodd fod ei uned wedi recriwtio
20 o wirfoddolwyr newydd ac roedd 6 eisoes wedi dechrau. Dywedodd y cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr ar ddyddiadau
gwahanol yn 2019, felly bydd angen trafodaeth bellach ynghylch sut i ymdrin â'r
digwyddiadau yn y modd gorau. Cyfeiriodd at ddigwyddiad y Cyfamod yng Nghastell-nedd Port Talbot a
drefnwyd ar gyfer 20 Hydref ac mae croeso i bawb ddod iddo. Dywedodd ei fod yn hapus i gynghori/gynorthwyo unrhyw un sydd am gyflwyno
cais am grant cyllid y cyfamod. Dywedodd fod y cyngor, yn dilyn y wobr "arian" ddiweddar, wedi
cyflwyno cais am y safon "aur" ac adroddir am ganlyniad hyn yn y
cyfarfod nesaf. Cyngor Abertawe Diolchodd June Burtonshaw i'r holl Luoedd Arfog, y sefydliadau partner ac
is-adrannau perthnasol y cyngor am eu cymorth wrth gyflwyno digwyddiad y Sioe
Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog, a oedd yn hynod lwyddiannus. Cyfeiriodd at gystadleuaeth a gynhelir i blant ysgol ddylunio torch.
Byddai'r enillydd yn cael gosod y dorch ar y Senotaff ar 11 Tachwedd. Cyfeiriodd hefyd at ddadorchuddio meinciau coffa o gwmpas ardal y Senotaff. |