Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

49.

Cofnodion. pdf eicon PDF 229 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2023 fel cofnod cywir.

 

50.

Tai Cyngor Abertawe.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Marie Muldoon at y pwysau presennol sy'n wynebu Cyngor Abertawe mewn perthynas â'r cynnydd enfawr yn y galw am Dai Cyngor gan eu hamlinellu.

 

Amlinellodd fod yr adran y mae'n ei goruchwylio yn gyfrifol am weinyddu polisi dyrannu a gwasanaethau atal digartrefedd y Cyngor.

 

Amlinellodd nad oedd hi erioed wedi gweld galw mor uchel â hyn ac roedd hyn o ganlyniad i ffactorau amrywiol o fewn y sector tai gan gynnwys lleihau argaeledd tai cymdeithasol a phreifat, cynnydd mawr mewn costau rhenti eiddo preifat a llai o symud o ran pobl sy'n byw yn eiddo'r Cyngor. Roedd hyn yn effeithio ar bob awdurdod lleol ar draws Cymru. Mae'r galw am lety bron wedi dyblu yn Abertawe yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Amlinellodd y system bwyntiau ar gyfer dyraniadau sydd gan Abertawe ar waith, sy'n cydnabod cyn-filwyr a'r bobl sy'n gadael y lluoedd, ond mae deddfwriaeth 'Pawb i Mewn' Llywodraeth Cymru wedi cael effaith fawr ar nifer y bobl sy'n gallu gwneud cais am dai.

 

Amlinellodd fod y Cyngor yn archwilio nifer o ffyrdd i gynyddu'r ddarpariaeth gan gynnwys prynu hen dai Cyngor yn ôl, cynyddu nifer y llety dros dro sy'n gallu sydd ar gael a helpu gyda rhent/blaendaliadau etc.

 

Amlinellodd y cysylltiad sydd gan yr adran â Charchar Abertawe a'r cynllun llwybr carcharorion sydd wedi bod ar waith ers 2015. Mae hyn yn cynnwys yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol amrywiol. Mae gan yr adran Swyddog Ailsefydlu Cyn-droseddwyr dynodedig sy'n ymdrin â'r materion hyn.

 

Cyfeiriodd at yr adolygiad parhaus o'r polisi dyrannu a'r arolwg y mae'r Cyngor yn ei gynnal, mae croeso i bob aelod o'r panel gymryd rhan a chânt eu hannog i wneud hynny. Gellir cael mynediad at yr arolwg trwy ddolen a fydd yn cael ei dosbarthu ar ôl y cyfarfod, sydd hefyd ar gael isod.

Arolwg dyrannu tai Cyngor: Dweud eich Dweud - Abertawe

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am ei chyflwyniad a'i diweddariad a diolchodd iddi am y gefnogaeth y mae'n ei rhoi iddi hi ac i aelodau eraill pan fyddant yn derbyn ceisiadau gan gyn-filwyr.

 

51.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Rhoddodd Spencer Martin ddiweddariad llafar a oedd yn ymwneud â'r meysydd canlynol yn absenoldeb Finola Pickwell;

Ar hyn o bryd mae un rhaglen cyllid grant sydd ar agor ar gyfer ceisiadau gan grwpiau;

Rhaglen Lleihau Digartrefedd ymysg Cyn-filwyr;

Mae Kings College London (KCMHR) yn chwilio am straeon go iawn ar gyfer oriel ar-lein o ddelweddau.

Mae manylion Cofeb Lluoedd Arfog LHDT bellach wedi'u cyhoeddi ynghyd ag argymhellion yr adolygiad.

 

Caiff y manylion llawn eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

Amlinellodd Ruth Birch fod y Llywodraeth bellach wedi derbyn 49 o argymhellion yr adolygiad, ac mae ffurflen gais ar-lein y gellir ei chwblhau. Unwaith eto, bydd manylion am hyn a dolen i'r ffurflen ar-lein yn cael eu hanfon at aelodau'r panel ar ôl y cyfarfod.

52.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

Adroddodd y Capten Huw Williams fod llawer o bethau wedi digwydd ers cyfarfod diwethaf y panel, gyda phenwythnos y Cofio a'r holl weithgareddau Nadolig yr oeddent yn gysylltiedig â nhw.

 

Bu ychydig o ddigwyddiadau arwyddocaol mewn perthynas â dathliadau pen-blwydd yn 100 oed lle'r oedd Arglwydd Faer Abertawe yn garedig iawn wrth ganiatáu'r defnydd o'r Plasty i ddymuno pen-blwydd hapus i Mr David Jones, a wasanaethodd yn y Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Cynhaliom wasanaeth eglwys hefyd ar gyfer Miss Kath Morris, un o weithwyr Parc Bletchley yn Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd.

 

Gofynnodd i aelodau'r panel roi gwybod iddo os oes ganddynt unrhyw gyn-filwyr sy'n cyrraedd carreg filltir arwyddocaol yn eu sefydliadau, neu os ydynt yn gwybod am unrhyw un, fel y gellir trefnu dathliadau a phresenoldeb priodol lle bo hynny'n bosibl.

 

Ers cyfarfod diwethaf y panel mae pethau wedi bod yn brysur iawn ac mae llawer o bersonél yn paratoi i fynd i weithio tramor gyda thua 250 o filwyr wrth gefn o'r Fyddin wrth Gefn yng Nghymru yn paratoi i fynd i weithio yn Ewrop yn ystod y misoedd nesaf.

 

Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd seremoni wobrwyo Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg lle cafodd 19 o bersonél o bob byddin wrth gefn, unedau cadetiaid ac elusennau eu canmol am eu gwaith caled a'u hymdrechion yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd hon yn noson braf iawn a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid.

 

Mae gwaith cynllunio'n mynd rhagddo i nodi 80 o flynyddoedd ers D-Day gan gynnal gwasanaeth yn Christchurch, Abertawe ar 9 Mehefin 2024. Gofynnodd a fyddai modd rhoi gwybod iddo os oes unrhyw ddigwyddiadau eraill sy'n cael eu cynllunio gan unrhyw sefydliadau eraill i nodi 80 o flynyddoedd ers D-Day ac yna fyddai'n gallu eu cefnogi os byddai ar gael i wneud hynny.

 

Mae gwaith cynllunio hefyd yn mynd rhagddo ar gyfer dathliadau Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a Diwrnod y Lluoedd Arfog a gynhelir dros benwythnos 6-7 Gorffennaf 2024. Caiff manylion ychwanegol eu cyhoeddi maes o law. Yn anffodus, o ganlyniad i gyfyngiadau cyllidebol, efallai y bydd graddfa'r asedau sydd ar gael i gefnogi'r penwythnos yn cael ei leihau eleni.

 

Mae nifer da o elusennau milwrol wedi dangos diddordeb hyd yn hyn, a nododd ein bod yn edrych ar yr elusennau hynny sy'n darparu cefnogaeth i gyn-filwyr ac nad ydynt yn defnyddio'r digwyddiad i godi arian. Os mai codi arian yw'r prif nod, cysylltwch â thîm Digwyddiadau Arbennig Cyngor Abertawe a byddant yn gallu rhoi cyngor ynghylch y ffordd ymlaen.

 

I'ch atgoffa, rydym yma i'ch helpu a'ch cefnogi, ac yn ddiweddar mae Sgwadron 223 wedi gweithio gydag Ysgol Gynradd Baglan i'w galluogi i ennill y Wobr Arian ar gyfer Cefnogi Plant Milwyr Cymru. Mae hyn yn gyflawniad gwych i'r ysgol, a rhoddwyd llongyfarchiadau iddynt ar y wobr.

Coffáu Rhyddhau Kosovo: Roedd milwyr tir Prydain a NATO wedi helpu i ryddhau Kosovo o drefn dreisgar Milosovic ym Mehefin 1999. Gellir dadlau mai Ymgyrch AGRICOLA 1 oedd yr ymyrraeth dramor gwbl lwyddiannus olaf gan y Fyddin Brydeinig, ar raddfa, yn ystod y 25 mlynedd diwethaf. Heddiw, er gwaethaf gwrthdaro parhaus gyda'u cymdogion i'r gogledd, mae Kosovo yn ddemocratiaeth Ewropeaidd ffyniannus.

Bydd Kosovo'n dathlu 25 o flynyddoedd ers eu rhyddhau yn Pristina ar 12 Mehefin 2024. Rydym wedi cael ein gwahodd i fynd â rhai o gyn-filwyr Prydeinig AGRICOLA 1 i helpu i nodi'r digwyddiad hwn sy'n garreg filltir. 

Bydd yr ymweliad hwn yn un answyddogol, a drefnir gan wirfoddolwyr, yn hytrach na digwyddiad swyddogol y Fyddin Brydeinig. Bydd disgwyl i'r rhai sy'n cymryd rhan drefnu a thalu am eu trafnidiaeth eu hunain - mae hediadau uniongyrchol o'r DU i Kosovo - ond rydym yn disgwyl i'n gwesteion yn Kosova ddarparu rhywfaint o lety.

Dylai unigolion a gymerodd ran yn AGRICOLA 1, ar y tir, sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â'r bobl isod gyda mynegiad o ddiddordeb, ac nad yw hyn yn rhwymol. Unwaith y byddwn yn derbyn rhagor o fanylion o'r ochr Kosofaidd gellid gwneud trefniadau. Mae'n debygol y bydd y dyddiadau rhwng 10 a 14 Mehefin 2024, gyda dwy neu dair noson yn y wlad.

Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch:

Rob Tomlinson robtomlinson7@gmail.com

Martin Browning martin@mbrowning.co.uk  

neu Dave Warner davidcritchleywarner@outlook.com

 

 

53.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Rhoddwyd ymddiheuriadau i swyddogion.

 

Caiff y diweddariadau eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

54.

Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth.

Cofnodion:

Nid oedd y Swyddog yn bresennol, ni roddwyd diweddariad.

 

 

55.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

 

Adroddodd Phil Flower fod y swm a gasglwyd ar gyfer apêl y pabi yn Abertawe yn 2023 wedi bod yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

 

Amlinellodd fod y lansiad yn Neuadd Branwyn gyda'r Arglwydd Faer wedi bod yn ddechrau gwych i'r apêl ac roedd cyfranogiad grwpiau cyn-filwyr gwahanol hefyd wedi bod yn llwyddiant mawr.

 

Byddai manylion y digwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer 2024 yn cael eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

Amlinellodd y bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn lansio cynnyrch i nodi 80 o flynyddoedd ers D-Day ym mis Mehefin ac roedd wedi cysylltu â Chanolfan y Quadrant yn gofyn i gael stondin yn yr ardal ganol i werthu eitemau ac i godi ymwybyddiaeth o grwpiau cyn-filwyr.

 

Nododd Clive Prior fod y cysylltiad â grwpiau'r cyn-filwyr wedi gweithio'n dda iawn, a byddai gwaith cynllunio cynnar yn dechrau'n fuan ar gyfer digwyddiadau eleni. Mae croeso i bob grŵp cyn-filwyr gymryd rhan.

 

Alabare

 

Dywedodd Michelle Mills fod gan ei sefydliad un swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer cyn-filwr unigol yn Bernard Street, Abertawe, gellir e-bostio hi yn m.mills@alabare.co.uk

 

Veterans RV/So Fit

 

Amlinellodd Paul Smith erthygl ddiweddar Wales Online a oedd yn ymwneud â'r grwpiau syrffio a'r grŵp ymdrochi/nofio. Roedd y niferoedd a oedd yn bresennol wedi codi o ganlyniad i'r erthygl ac mae'r poblogrwydd yn parhau i dyfu ac mae croeso i bawb.

 

Amlinellodd y cysylltiad a ddatblygwyd gydag Alabare a oedd wedi arwain at chwe chyn-filwr ychwanegol yn mynd i sesiwn ar y penwythnos.

 

Nododd Phil Jones eu bod yn parhau i ddarparu sesiynau iechyd meddwl i blant milwyr yn ysgolion Abertawe. Gellir cysylltu ag ef hefyd am gymorth a chyngor ar gyfer sefydliadau a grwpiau sy'n ceisio ennill achrediad.

 

Nododd fod cyllid wedi cael ei sicrhau yn ddiweddar iawn gan y Cyngor i gefnogi'r sesiynau dŵr oer ymhellach ac i drefnu taith i'r lagŵn glas yn Sir Benfro ar gyfer cyn-filwyr.

 

Cyngor Abertawe

 

Adroddodd y Cadeirydd fod yr awdurdod yn anelu at Safon Gwobr Aur, gofynnwyd ac anogwyd pob grŵp, sefydliad neu unigolyn i fynd i gyfarfod Fforwm Cyn-filwyr y Bwrdd Iechyd. Amlinellodd ei bod hi a Spencer ill dau wedi dod i'r cyfarfodydd ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn annog grwpiau etc. i fod yn bresennol.

 

Amlinellodd fod y Weinyddiaeth Amddiffyn am gael rhagor o gyfarfodydd rhanbarthol yn hytrach na chyfarfodydd awdurdod unigol.

 

Gellir dosbarthu'r ddolen i'r cyfarfod i Aelodau'r Panel maes o law.

 

Fighting With Pride

 

Cyfeiriodd Ruth Birch at y Safon Balchder mewn Cyn-filwyr y gall aelodau'r panel wneud cais i ymuno a chofrestru ar ei chyfer.

 

Mae'r safon yn dangos bod gan grwpiau/sefydliadau etc. yr ymwybyddiaeth gywir o faterion LHDT.

 

Byddai'r manylion llawn yn cael eu dosbarthu ar ôl y cyfarfod.