Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

114.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim.

115.

Cofnodion. pdf eicon PDF 222 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir.

 

116.

Prosiect Boots on the Ground.

Cofnodion:

Rhoddodd Melvin Watts drosolwg byr o'r cynllun yr oedd yn ymwneud ag ef sy'n ceisio helpu cyn-filwyr, yn enwedig y rheini â phroblemau iechyd meddwl. Amlinellodd ei fod yn cwmpasu ardal De-orllewin Lloegr a Chymru gyfan.

 

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn:

Boots on the Ground - Alabare

 

 

 

117.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Nid oedd Bethan Dennedy yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Byddai diweddariadau'n cael eu darparu yn y cyfarfod nesaf.

 

118.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

Dywedodd y Capten Huw Williams fod Sgwadron 223 wedi cysylltu â'r Gweilch ar gyfer y gêm ddiweddar yn erbyn Munster. Trefnwyd y digwyddiad i hyrwyddo'r ffaith bod yr uned a'r broses recriwtio'n gweithredu eto ac roedd yr arddangosfeydd a'r ymgysylltiad â'r dorf wedi bod yn llwyddiannus.

 

Cyfeiriodd at y cysylltiadau a ddatblygwyd yn ddiweddar gyda Choleg Llanymddyfri a Choleg Sir Gâr a'r gwaith ymgysylltu a wnaed gyda Chyngor Mwslimiaid Cymru.

 

Dywedodd, yn anffodus eto oherwydd pandemig COVID, fod cyfranogiad mewn digwyddiadau i goffáu Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio yn llawer llai, ond amlinellodd y byddai cadetiaid o Abertawe a Chastell-nedd yn cymryd rhan mewn gorymdaith ym Mhort Talbot ddydd Sul.

 

Amlinellodd fod cadetiaid yn ôl yn hyfforddi wyneb yn wyneb, ond manylodd ar rai materion yn ymwneud â COVID sy'n effeithio ar hyfforddiant a datblygiad.

 

119.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Amlinellodd Victoria Williams ei bod wedi derbyn 16 o atgyfeiriadau i'w gwasanaeth, a bod ganddi 18 o bobl ar y rhestr aros.

 

Nododd fod cyfarfod y rhwydwaith Clinigol wedi'i gynnal yr wythnos diwethaf a bod llawer o bobl wedi dod iddo.

 

Cyfeiriodd at wahanol ffrydiau gwaith a phrosiectau eraill sy'n cael eu cynnal.

 

Oherwydd ymddiheuriadau gan gynrychiolwyr eraill y Bwrdd Iechyd, byddai diweddariad ysgrifenedig yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

120.

Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth.

Cofnodion:

Adroddodd Yasmin Todd ar lafar gan ddiweddaru'r panel ar faterion amrywiol yn ymwneud â mentrau a phrosiectau sydd â'r nod o helpu plant y lluoedd arfog, gan gynnwys y cynllun newydd sy'n cael ei ddatblygu gydag SSCE Cymru (Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru) i ddatblygu gwobrau aur, arian ac efydd i ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y cyllid gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei ddefnyddio yn Abertawe, yn enwedig y cynllun "milwyr bach".

 

Nododd y byddai diweddariad ysgrifenedig llawn yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod.

 

 

121.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Rygbi'r Gweilch

 

Amlinellodd Katie Ruddock fod y cynllun 'Yn y Garfan' bellach ar waith yn ei ail leoliad yn Meadowview, yn ogystal â'r un yn Llansawel.

 

Amlinellodd nad oedd lefelau cyfranogiad yn wych, ond cynhaliwyd trafodaeth ynghylch effaith Taliad Annibyniaeth Personol a chyn-filwyr yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Amlinellwyd bod cyswllt yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn-filwyr lleol wedi nodi mewn fforwm arall na fyddai cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath yn effeithio ar fudd-daliadau. Gofynnir am eglurder gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a byddai gwybodaeth yn cael ei hadrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf.

 

Cyngor Abertawe

 

Dywedodd y Cynghorydd Wendy Lewis fod Arweinydd y Cyngor wedi cyhoeddi a sefydlu cronfa newydd yn ddiweddar i gefnogi a chynorthwyo grwpiau o gyn-filwyr gyda chymorth ariannol. Byddai'r meini prawf manwl ar gyfer ceisiadau a ffurflenni cais yn cael eu cwblhau'n fuan a'u dosbarthu i holl aelodau'r Panel.