Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

106.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim.

107.

Cofnodion. pdf eicon PDF 206 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021 fel cofnod cywir

 

108.

Prosiect Boots on the Ground.

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod Melvin Watts wedi anfon ei ymddiheuriadau i'r cyfarfod, yn dilyn profedigaeth deuluol ddiweddar.

 

Byddai'r eitem yn cael ei gohirio tan gyfarfod mis Tachwedd.

 

109.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Dywedodd Bethan Dennedy y byddai'n dechrau ei swydd newydd fel swyddog cyswllt rhanbarthol y lluoedd arfog yn ffurfiol yr wythnos nesaf.

 

Roedd hi'n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau'r panel.

 

110.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

Dywedodd Capten Huw Williams fod y milwyr wrth gefn wedi dychwelyd i hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ddiweddar a oedd yn cydymffurfio'n llawn â COVID.

 

Cyfeiriodd at y grŵp "croesi ffiniau" sy'n cyfarfod ddydd Gwener, gyda'r bwriad o ddechrau menter dros fisoedd yr haf i gysylltu â grwpiau cymunedol lleol.  Dywedodd y byddai'n hapus i gynorthwyo unrhyw aelodau o'r panel a grwpiau i gymryd rhan.

 

111.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Dywedodd Steve Spill fod y bwrdd iechyd wedi cynnal ei gyfarfod ym mis Mai, ac roedd presenoldeb yn y cyfarfod yn dda.

 

Amlinellodd fod yr awdurdod yn cynnal arolwg staff o'i 12,500 o staff ar hyn o bryd, a rhan o waith yr arolwg yw cadarnhau faint o staff sydd ag unrhyw gysylltiadau milwrol a chefndir milwrol.

 

Nododd fod y tîm prosthetig wedi cyflogi sawl aelod o staff ychwanegol yn ddiweddar, sydd wedi cynyddu eu gallu i gynorthwyo gyda chyn-filwyr a'r cyhoedd.

 

Amlinellodd ei fod wedi mynd i seremoni codi'r faner yng Nghastell-nedd ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog.

 

Amlinellodd Victoria Williams ei bod wedi derbyn 34 o atgyfeiriadau i'w gwasanaeth, yr oedd 27 ohonynt wedi dewis defnyddio'r gwasanaeth drwy'r gwasanaeth ar-lein newydd ac maent yn cadw mewn cysylltiad â'i thîm.

 

Amlinellodd fod y ddarpariaeth ddigidol newydd yn gweithio'n dda.

 

Amlinellodd ei bod wedi cynnal cyfweliadau radio gyda'r Wave o gwmpas Diwrnod y Lluoedd Arfog, a chyfeiriodd at brosiect rhandir ym Maglan sydd wedi'i sefydlu gyda chymorth clwb Bulldogs.

 

112.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

 

 

Adroddodd Yasmin Todd fod nifer y plant lluoedd arfog a nodwyd yn ysgolion Abertawe wedi codi i 114 mewn 34 o ysgolion, mae hyn yn gynnydd mawr o'r 92 a fu ar adeg y cyfarfod diwethaf ac amlinellodd ei bod wedi ymweld ag 20% o'r ysgolion yn Abertawe hyd yma, yn ogystal ag ysgolion mewn ardaloedd eraill.

 

Nododd fod 6 ysgol yn Abertawe yn cymryd rhan mewn sesiynau DPP ar hyn o bryd. Lansiwyd y sesiynau hyn ym mis Ebrill sef mis y plentyn milwrol.

 

Soniodd am y nod a'r uchelgais i greu rhwydwaith gwasanaeth rhwng ysgolion yn y flwyddyn ysgol newydd.

 

Amlinellodd ei bod yn aros am gadarnhad ynghylch cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith a chyswllt ychwanegol rhwng ysgolion

113.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Amlinellodd yr Arweinydd Sgwadron Phil Flower, fod Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cynllun diwygiedig Cadetiaid yr Arglwydd Faer yn ddiweddar, lle penodir 1 cadét o bob un o'r lluoedd.

 

Amlinellodd ei fod yn disgwyl i cyhoeddiad a chynigion ar gyfer Wythnos y Cofio cyn bo hir. Bydd llawer yn dibynnu ar unrhyw gyfyngiadau ar y pryd.

 

Amlinellodd fod trafodaethau'n parhau gyda Chyngor Abertawe ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2022 a'r Sioe Awyr. Bydd angen trafodaethau pellach gyda'r gwahanol grwpiau milwyr wrth gefn ynghylch y cynigion ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Amlinellodd y potensial ar gyfer ehangu digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog.

 

 

Cyngor Abertawe

Nododd Emma Thomas y byddai angen i'r Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog gael eu cynnal ar yr un penwythnos am resymau logistaidd.

 

Nododd hi a'r Cadeirydd fod y seremoni codi'r faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog eleni wedi gweithio'n dda iawn, ac y gellid ei hailadrodd yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiadau, cyfeiriodd y Cadeirydd at y digwyddiadau amrywiol a gynhaliwyd dros wythnos y lluoedd arfog, y bu'r rhan fwyaf ohonynt ar-lein oherwydd y cyfyngiadau.

 

Amlinellodd y Cadeirydd hefyd fod yr awdurdod wedi cytuno i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw'r holl gofebion yn ei ardal yn y dyfodol.  Dylai hyn fod o gymorth mawr i'r gwahanol grwpiau cyn-filwyr wrth symud ymlaen.

 

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Amlinellodd Sarah Mallaghan fod ei sefydliad wedi sefydlu 11 o arweinwyr y lluoedd arfog ledled y DU, gyda 3 yng Nghymru. Hi yw pencampwr cyn-filwyr yr ardal hon.

 


Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)

Nododd David Griggs fod canghennau Caerfyrddin a Gorllewin Morgannwg bellach wedi uno, a'u bod yn cael eu rhedeg o'r safle yn Alamein Road yn Abertawe.

 

Dywedodd ei fod yn mynd i’w gyfarfod cyntaf o'r grŵp hwn ac yn edrych ymlaen at weithio gydag aelodau'r panel.

 

 

Cronfa Les yr Awyrlu Brenhinol

Amlinellodd Neil Tomlin y cynhyrchwyd canllaw diwygiedig wedi'i ddiweddaru i'w gwasanaethau’n ddiweddar a'i fod yn hapus i'w rannu ag aelodau'r panel yr oedd ei angen arnynt.

 

Amlinellodd fod y cyswllt a sefydlwyd gyda'r gwasanaeth carchardai ar ôl y cyfarfod blaenorol wedi bod yn gweithio'n dda iawn.

 

Mae cysylltiadau'r grŵp â'r GIG yn parhau i ehangu hefyd.