Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Panel a gynhaliwyd ar 18
Ionawr 2021 yn gofnod cywir. |
|
Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth. PDF 444 KB Cofnodion: Adroddodd Yasmin
Todd a Rhodri Jones ymhellach i'r adroddiad a ddosbarthwyd a oedd yn amlinellu manylion
cefndir a gwybodaeth ynghylch cyflwyno'r cynllun Cynorthwyo Plant Milwyr yn
Ysgolion Cymru, gan amlinellu bod 96 o blant bellach wedi'u nodi gan yr adran
addysg yn Abertawe. Amlinellwyd y
bydd grant Llywodraeth Cymru eleni yn cael ei ddefnyddio i gynnal ymarfer
hyfforddi/cynyddu ymwybyddiaeth staff ar gyfer aelod o staff o bob un o'r 30
ysgol y nodwyd bod ganddynt blant milwyr, gyda'r gweddill yn cael ei dargedu at
y myfyrwyr eu hunain. Darperir
diweddariadau rheolaidd ar y cynllun i'r Panel mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Dywedodd Grace
Halfpenny fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai Diwrnod y Lluoedd Arfog
ym mis Mehefin eleni ar-lein unwaith eto. Nododd fod y
gyfran ddiweddaraf o gyllid ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog newydd gael ei
rhyddhau. Nododd Finola Pickwell ei bod yn gallu cynnig cymorth anffurfiol gyda
cheisiadau pe bai angen. Cyfeiriodd Grace
at gyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr
yng Nghymru. Nododd fod Llywodraeth Cymru yn debygol o gyhoeddi deddfwriaeth ar
hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nododd fod
Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymarfer cwmpasu yn dilyn mewnbwn a gwybodaeth a
gyflwynwyd gan y swyddogion cyfamod ledled Cymru. Mae 2 is-grŵp newydd
wedi'u sefydlu a bydd gwybodaeth yn cael ei dosbarthu drwy gylchlythyr cyn bo
hir. Cafwyd trafodaeth
ynghylch rheoli a monitro atgyfeiriadau rhwng sefydliadau, a'r angen posib i
ddatblygu protocol i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael eu monitro'n briodol ac nad
ydynt yn cael eu "colli" yn y system. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Dywedodd y Capten
Chris Evans fod y cronfeydd wrth gefn yn
parhau â hyfforddiant rhithwir yn unol â phrotocolau a chanllawiau Llywodraeth
Cymru, ac mae recriwtio hefyd yn parhau ar-lein. Nododd fod gan
Gatrawd 157 5 swyddog ar hyn o bryd sy'n cefnogi byrddau iechyd ledled Cymru,
ac mae'r holl wasanaethau'n parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru yn yr ymdrechion
i fynd i'r afael â'r pandemig parhaus. Amlinellodd fod
Catrawd 157 wedi cynnal cyflwyniad ar-lein yn ddiweddar i'r Arglwydd Raglaw a'i
6 dirprwy. Yna cyhoeddodd
mai hwn fyddai ei gyfarfod olaf o'r Panel gan ei fod yn ymddeol o'r Fyddin ym
mis Mai ar ôl 41 mlynedd o wasanaeth. Diolchodd i aelodau'r Panel am eu cymorth
a'u cefnogaeth dros y blynyddoedd. Diolchodd y
Cynghorwyr Wendy Lewis a June Burtonshaw, Phil Flower, Grace Halfpenny ynghyd â
holl aelodau eraill y panel i Gapten Chris a thalwyd teyrnged iddo am ei waith
caled, ei ymroddiad a'i gefnogaeth i'r Panel, y Cadetiaid a'r lluoedd arfog
wrth gefn dros y blynyddoedd, a dymunodd yn dda iddo am ymddeoliad hir ac iach. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Yr Arglwydd
Raglaw Amlinellodd Steve
Fry, Dirprwy Raglaw fod yr Arglwydd Raglaw yn awyddus iawn i gymryd rhan a
chefnogi grwpiau a sefydliadau elusennol cyn-filwyr lleol ym mha ffordd bynnag
y gall, a gofynnodd i grwpiau gysylltu ag ef i drafod unrhyw bresenoldeb posib
mewn digwyddiadau a chymorth etc. Y Gweilch/Yr
Elyrch Nododd Tom Sloan
fod y sesiynau "in the squad - stand easy" ar-lein i gyn-filwyr yn
parhau ar-lein ar hyn o bryd a nododd y byddai'n dosbarthu'r wybodaeth
berthnasol ar ôl y cyfarfod. Hafal Amlinellodd Fiona
Pickwell fod 2 brosiect newydd yn cael eu datblygu gan ei sefydliad ar gyfer
cyn-filwyr sy'n ymwneud â Sgiliau Digidol a Mynd i'r afael ag Unigrwydd ac
Arwahanrwydd Cymdeithasol. Dywedodd y
byddai'n dosbarthu'r wybodaeth berthnasol yn dilyn y cyfarfod. Dywedodd Tom Hall
ac Adrian Rabey eu bod yn awyddus i gynorthwyo'r prosiectau drwy eu
rhwydweithiau gwirfoddolwyr a thrwy Veterans TV os oedd angen. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Amlinellodd yr
Arweinydd Sgwadron Phil Flower fod enwebiadau cadetiaid yr Arglwydd Faer a'r
Maer wedi cyrraedd y rhestr fer ac y byddent yn cael eu trosglwyddo i'r
swyddfeydd perthnasol cyn bo hir i'w hystyried. Mae'r holl
weithgareddau gyda chadetiaid yn aros ar-lein ar hyn o bryd, tra'n aros i
Lywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau. Nododd fod y
Lleng Brydeinig Frenhinol wedi cynllunio llawer o ddigwyddiadau pen-blwydd, ond
ei bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynigion. Byddai'n rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Panel pan fyddai'r penderfyniadau wedi'u
gwneud. Cyngor
Abertawe Amlinellodd y
Cynghorydd Wendy Lewis nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ar Sioe Awyr eleni ar
hyn o bryd, ac mae'r awdurdod yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru
ar y mater. |
|
Ethol Is-gadeirydd Cofnodion: Gofynnodd y
Cynghorydd Wendy Lewis yn dilyn ymddiswyddiad yr is-gadeirydd, am enwebiadau ar
gyfer ei olynydd. Enwebwyd,
cefnogwyd ac etholwyd Arweinydd Sgwadron Phil Flower. Derbyniodd swydd
yr is-gadeirydd a diolchodd i'r Panel am ei benodiad. |