Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a
gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Dywedodd Grace
Halfpenny fod yr aelod newydd o staff, Yasmin Todd, wedi ymgymryd â'i rôl yn ddiweddar fel swyddog
'Cefnogi Plant mewn Ysgolion' dan brosiect ysgolion Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru ac y byddai'n dod i'r cyfarfod nesaf i drafod ei rôl. Byddai'n cyfarfod
ag adran addysg Cyngor Abertawe cyn bo hir i drafod materion a phroblemau y
gallai gynorthwyo gyda nhw. Cynigiodd Tom Sloan ei gymorth i gynorthwyo'r swyddog newydd drwy
gysylltiadau a rhwydweithiau sefydledig rygbi'r Gweilch yn yr ysgolion a'r
gymuned. Amlinellodd Grace
Halfpenny ei bod hi a'i chydweithwyr swyddogion cyfamod y lluoedd arfog ledled
Cymru yn cysylltu â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
gyda'r nod o wella cyfathrebu ymhellach rhwng y cyrff hynny a chymuned y
lluoedd arfog ledled Cymru. Y nod yw cynhyrchu gwefan newydd a chylchlythyr
rheolaidd yn y dyfodol agos. Nododd hefyd fod
rhaglen gynhwysfawr i gynyddu ymwybyddiaeth o gyfamod y lluoedd arfog yn cael
ei datblygu a fyddai'n cael ei chyflwyno i ddechrau i staff rheng flaen y
cyngor gyda'r bwriad o'i hehangu i'r gymuned ehangach. Amlinellodd, yn dilyn sylwadau a wnaed gan Gydlynwyr y Lluoedd Arfog ledled Cymru yn ystod y pandemig, fod Llywodraeth Cymru hefyd yn sicrhau bod anghenion cyn-filwyr yn cael eu hystyried mewn cefnogaeth genedlaethol ar gyfer rhaglenni atal hunanladdiad a chymorth tai. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Dywedodd y Prif
Is-swyddog Rob Evans (HMS Cambria) fod gweithgareddau wyneb yn wyneb a chyda
milwyr wrth gefn wedi dod i ben oherwydd y cyfyngiadau symud diweddaraf, ond
nododd fod Rob Govier a'i dîm yn parhau â'u
gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu ar-lein lle bynnag y bo modd. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Dywedodd Chris Morrell fod y bwrdd iechyd wedi cynnal ei banel lluoedd
arfog cyntaf ym mis Tachwedd ers y cyfyngiadau symud cychwynnol. Amlinellodd fod y
bwrdd iechyd wedi cynnal gwasanaeth coffa Dydd y Cofio ar-lein i staff. Manylwyd ar y
datblygiadau cynnar sy'n ymwneud â'r gefnogaeth ar gyfer profedigaeth a rhaglen
a chanolfan 'gofal ar ôl marwolaeth', caiff rhagor o wybodaeth ei rhannu pan
fydd ar gael. Nododd fod y
bwrdd iechyd yn archwilio'r materion sy'n ymwneud â chyflawni statws y cyflogwr
aur mewn perthynas â'r lluoedd arfog a'u bod wrthi'n ceisio ehangu eu
cysylltiadau â milwyr wrth gefn yn eu cyflogaeth a'r rheini sydd â
chysylltiadau milwrol. Amlinellodd fod y
gwasanaeth aelodau artiffisial wrthi'n recriwtio staff a ddylai wella'r
gwasanaeth i gleifion. Amlinellodd
Victoria Williams (GIG Cymru i Gyn-filwyr) fod y gwasanaeth yn parhau i fod yn
brysur iawn gyda 33 o atgyfeiriadau yn ystod y 3 mis diwethaf; ymdrinnir â phob
atgyfeiriad bellach ar-lein, sydd wedi helpu i gyflymu'r broses a chynorthwyo o
ran ymgysylltu a defnyddio'r gwasanaeth. Cyfeiriodd at y
newidiadau staff sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn y gwasanaeth. |
|
Cronfa Les yr Awyrlu Brenhinol. PDF 909 KB Cofnodion: Amlinellodd Neil Tomlin, Cyfarwyddwr Ardal, De
Lloegr a De Cymru, gefndir a hanes y gronfa i'r panel. Dywedodd fod unrhyw un a oedd
wedi gwasanaethu yn yr awyrlu brenhinol, waeth beth fo hyd y gwasanaeth, a'u
partneriaid a'u teuluoedd yn gymwys i gael cymorth a chyngor. Amlinellodd fod swm o £27m
wedi'i wario yn 2020, yr oedd pob rhan ohono wedi'i godi drwy roddion. Roedd
nifer y bobl a gafodd gymorth wedi codi i saith deg un mil y llynedd, i fyny o
bum deg dau mil y flwyddyn flaenorol. Amlinellodd y gwahanol fathau
o gymorth lles, grantiau a chymorth sydd ar gael i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Cyfeiriodd at effaith y pandemig ar y gwasanaeth, ei ymdrechion i godi arian a'i
allu i ddarparu rhai o'i wasanaethau. Dywedodd amryw o aelodau'r
panel y gallent gysylltu â'r gwasanaeth a chefnogi ymdrechion a gwaith y gronfa
a dywedwyd hefyd y byddai sgyrsiau a deialog yn parhau y tu allan i'r cyfarfod,
yn enwedig o ran y posibilrwydd o ddefnyddio cadlanciau, milwyr wrth gefn a
chyn-filwyr mewn gweithgareddau ac ehangu'r cysylltiad â gwasanaethau cymorth y
GIG. Roedd llyfryn argraffedig y
gronfa ‘a guide to our services’ wedi'i ddosbarthu
gyda phapurau'r agenda. Mae
gwybodaeth fanylach ar gael ar-lein yn https://www.rafbf.org/ |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Hafal Amlinellodd
Stephen Sullivan mai dim ond 1 cais o Abertawe a gyflwynwyd yn ystod y gyfran
ddiwethaf o geisiadau am gyllid yn ymwneud â chwmni budd cymunedol Garrison Farm. Amlinellodd fod
Hafal wedi llwyddo yn eu cais gyda'r rhaglen 'force
for change' a fydd yn cynnwys elfen o gynhwysiant
digidol i gyn-filwyr. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Siaradodd Phil
Flower ynghylch y drafodaeth yn yr eitem flaenorol, ac amlinellodd y byddai lluoedd
y cadetiaid yn yr ardal, sy'n parhau'n weithgar iawn ar-lein ar hyn o bryd, bob
amser yn croesawu cyfranogaeth cyn-filwyr yn eu gweithgareddau. Gallai hyn fod
yn fanteisiol i bob parti. Gallai hyn
gynnwys cymryd rhan ar-lein a phresenoldeb corfforol gwirioneddol yn y dyfodol
pan gaiff y cyfyngiadau symud eu llacio. Dywedodd fod
80fed pen-blwydd Cadlanciau Awyr y Llu Awyr Brenhinol yn 2020. Amlinellodd y
cynlluniau ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau a fyddai'n cynnwys, os byddai
cyfyngiadau'r pandemig yn caniatáu, gystadleuaeth
poster ysgolion, rali hen geir a beiciau modur, mochyn rhost, cinio tei du, awyrblymio, cystadleuaeth ciciau cosb yn un o gemau'r
Elyrch a dringo Pen y Fan. Nododd hefyd y
byddai gorymdaith a gwasanaeth eglwys rhithwir yn cael eu cynnal ar 7 Chwefror
ac y byddai'n dosbarthu manylion i unrhyw un a oedd yn dymuno cymryd rhan. Blesma Amlinellodd
Thomas Hall fod ei sefydliad yn parhau i weithredu drwy'r pandemig,
ar-lein yn bennaf, ond gydag ymweliadau corfforol gwirioneddol â phobl os oes
angen. Amlinellodd
faterion a amlygwyd iddo yn ymwneud â thaliadau tanwydd y gaeaf a bod yr Adran
Gwaith a Phensiynau wedi bod yn cael problemau gyda system gyfrifiadurol
newydd, a oedd wedi arwain at dynnu rhai pobl oddi ar y rhestr ar gam, gan
olygu nad oeddent wedi derbyn eu taliadau. Cyfeiriodd hefyd
at broblem yr oedd cleient wedi bod yn ei chael gyda Chyngor ar Bopeth ym
Mhen-y-bont ar Ogwr. Amlinellodd Pat
Dunmore (Cyngor ar Bopeth) y gweithdrefnau gweithio cyfredol o ganlyniad i COVID-19
yn Abertawe/Castell-nedd Port Talbot a dywedodd y dylai fod yn debyg ym
Mhen-y-bont ar Ogwr. |