Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

76.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

 

77.

Cofnodion. pdf eicon PDF 221 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Panel a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2020 yn gofnod cywir.

 

78.

Diweddariad Covid 19 Cyngor Abertawe.

Cofnodion:

Amlinellodd David Price Deer fod Sioe Awyr 2020 a'r holl ddigwyddiadau eraill a gynlluniwyd wedi'u canslo oherwydd y pandemig.

 

Dywedodd fod y Cyngor yn aros am gyngor gan Lywodraeth Cymru ynghylch a allai unrhyw ddigwyddiadau Dydd y Cofio gael eu cynnal eleni; byddai trafodaeth yn cael ei chynnal â'r Lleng Brydeinig Frenhinol os rhoddir caniatâd, byddai math a maint unrhyw ddigwyddiadau’n amlwg yn dibynnu ar ffigurau'r gyfradd heintio ac os oedd unrhyw gyfyngiadau lleol neu genedlaethol mewn grym ar y pryd.

 

Amlinellodd y Cadeirydd fod cyfnod y cyfyngiadau symud wedi bod yn un anodd iawn i'r holl grwpiau a sefydliadau sy'n ymwneud â'r Panel a diolchodd iddynt am eu hymdrechion a'u cymorth wrth helpu cyn-filwyr yn ystod y cyfnod hwn.

 

Amlinellodd, oherwydd y cyfyngiadau symud a'r rheolau cadw pellter cymdeithasol dilynol, mai un digwyddiad yn unig yr oedd wedi gallu mynd iddo ers mis Mawrth.  Er hynny, roedd wedi ffilmio ychydig o fideos byr ar gyfer gwefan y cyngor i gyd-fynd â Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a Diwrnod y Lluoedd Arfog.

 

Amlinellodd Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell, fod y Lluoedd Arfog bellach yn dod o dan ymbarél ei phortffolio a'i bod yn dod i’w chyfarfod cyntaf a'i bod yn awyddus i gysylltu ag Aelodau'r Panel a’u cynorthwyo lle bynnag y bo modd.

 

79.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

 

 

 

 

Cyfeiriodd Capten Chris Evans at gronfeydd y fyddin leol a oedd wedi'u defnyddio yn ystod y cyfnod cloi i gynorthwyo'r GIG.

 

Amlinellodd ei fod, fel yr adroddwyd eisoes, yn aros am arweiniad ynghylch unrhyw ddigwyddiadau posibl ar gyfer Dydd y Cofio. Dywedodd fod y cynlluniau presennol yn nodi na fyddai gorymdeithau'n cael eu cynnal eleni yn anffodus.

 

Nododd nad oedd unrhyw recriwtio wedi digwydd yn ystod y cyfyngiadau symud ond bod hyfforddiant ar-lein rhithwir wedi dychwelyd yn ôl i hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ddiweddar ar ôl i fesurau cyfyngiadau symud gael eu llacio.

 

Dywedodd Is-gomander Tim Williams mai hwn oedd ei gyfarfod cyntaf ers cymryd lle Ruth Fleming yn yr haf.

 

Amlinellodd hefyd gyfraniad milwyr wrth gefn y llynges wrth gynorthwyo'r GIG a hefyd bod hyfforddiant wedi symud ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud ond ei fod wedi ailgychwyn ar ffurf wyneb ym mis Medi yn Nhŷ John Chard. Dywedodd fod y niferoedd a ddaeth wedi bod yn dda iawn a'r gobaith yw y byddent yn cynyddu pan fyddai’r prifysgolion yn dychwelyd yn y man.  Amlinellodd y cyswllt rhagorol sydd ganddynt â'r prifysgolion yn Abertawe.

 

80.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Adroddodd Grace Halfpenny fod problemau digartrefedd wedi dod yn fater o bwys ac yn destun pryder yn ystod y cyfyngiadau symud.

 

Cyfeiriodd at ganllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ystod y cyfyngiadau symud ac amlinellodd ei bod wedi rhannu cymaint o wybodaeth/erthyglau/cyngor â phosibl yn ystod y cyfnod, a drosglwyddwyd gan Aelodau'r panel i'w cysylltiadau, a oedd i'w groesawu fel enghraifft wych o gymorth rhwydwaith ar draws y rhanbarth.

 

Amlinellodd fod rhan o araith y frenhines yn cynnwys ac yn cyfeirio at gyn-filwyr gan roi mwy o gydnabyddiaeth iddynt, ac roedd hyn i'w groesawu'n fawr ond y gobaith yw y caiff rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut y byddai hyn yn datblygu yn y dyfodol yn cael eu rhoi dros y misoedd nesaf.  Fodd bynnag, nodwyd y dylid bod yn ofalus wrth wrando ar unrhyw gyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU neu'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn â'r ddeddfwriaeth hon, gan fod yr holl faterion dan sylw wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Felly, bydd deddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i ni yma yng Nghymru maes o law. 

 

Amlinellodd y penodwyd swyddog newydd i gefnogi plant personél y gwasanaeth mewn ysgolion yn ddiweddar a bydd yn gyfrifol am yr ardal sy'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Gorllewin Cymru.

 

Dywedodd ei bod wedi cyflwyno’i hadroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru ac y byddai'n ei ddosbarthu i aelodau'r panel ar ôl y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd hefyd at daflen wybodaeth y byddai awdurdodau lleol yng Nghyngorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ei dosbarthu'n fuan i bob aelwyd sy'n ymwneud â gwybodaeth am COVID-19.

 

81.

Cynllun Grant Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Cyhoeddodd Finola Pickwell fod dau lwybr arall ar gyfer cyfleoedd ariannu drwy lwybrau cadarnhaol wedi'u cyhoeddi yn yr haf i gynorthwyo cynlluniau menter iechyd meddwl.

 

Dywedodd fod 10 o'r 23 prosiect cychwynnol a gyflwynwyd wedi symud ymlaen drwy'r rownd gyntaf o geisiadau am gyllid a byddai'n gweithio gyda'r cyrff amrywiol i'w cynorthwyo.

 

Dywedodd fod 3 phrosiect lleol wedi bod yn llwyddiannus mewn rowndiau blaenorol, sef y rheini gyda Dinas Abertawe, Rygbi'r Gweilch a 65 Degrees North.

 

Mae gan gyfle arall am arian ar gyfer cynlluniau sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael ag unigrwydd ddyddiad cau ym mis Rhagfyr.

 

Roedd rhagor o arian hefyd ar gael ar gyfer cynlluniau sydd â'r nod o fynd i'r afael â hunanladdiad a chamddefnyddio sylweddau ac amlinellodd ei bod yn hapus i roi unrhyw gymorth a chyngor i unrhyw sefydliadau a chanddynt syniadau posibl ar gyfer prosiectau.

 

82.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Amlinellodd Jackie Davies mai dyma oedd ei chyfle cyntaf i ddod i gyfarfod y panel a diolchodd i'r Cadeirydd am y cyfle i ddod a chyfrannu.

 

Dywedodd nad oedd llawer o'r materion a godwyd gan y panel hwn yn flaenorol wedi'u datrys eto yn anffodus o ganlyniad i bandemig COVID-19 a'i effaith enfawr ar y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, ond rhoddodd y diweddaraf i'r panel am yr eitemau canlynol.

 

Amlinellodd fod y bwrdd iechyd yn bwriadu mabwysiadu cynllun peilot a ddatblygwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan a fu’n llwyddiannus wrth ymwneud â phlant y lluoedd arfog a oedd yn profi problemau iechyd meddwl.

Dywedodd fod cefnogaeth y Groes Goch i bobl sy'n gadael yr ysbyty wedi'i hadfer a bod y cynllun yn bwriadu cael ei ehangu.

 

Roedd hyrwyddwr y lluoedd arfog sy'n gweithio mewn wardiau yn gobeithio cael ei ddatblygu ymhellach wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio.

 

Dywedodd fod cyfarfodydd Fforwm Iechyd y Lluoedd Arfog yn amlwg wedi'u gohirio yn ystod COVID-19 ond eu bod wedi ailymgynnull ym mis Awst, ac roedd y cyfarfod wedi mynd yn dda iawn. Amlinellodd y Cadeirydd ei bod wedi mynd i’r cyfarfod hwn ac adleisiodd a chefnogodd y sylwadau am y cyfarfod.

 

Roedd yr ysbytai maes a ddatblygwyd gyda'r awdurdodau lleol wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio a diolchodd i'r nifer mawr o gyn-filwyr a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd am eu cymorth a'u harbenigedd wrth ddatblygu'r cyfleusterau hyn.

 

Amlinellodd fod y gwasanaeth ar gyfer trychedigion wedi parhau gyda llai o staff yn ystod y pandemig a bod y presenoldeb bellach wedi cyrraedd oddeutu 70% yn dilyn ailagor yr adeilad ym mis Mehefin.

 

Dyfarnwyd arian ychwanegol yn ddiweddar i’r gwasanaeth trychedigion, felly dylai hyn helpu i ddatblygu'r gwasanaeth ymhellach yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd at y gwasanaethau parhaus sydd ar gael i gyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl a manylodd ar y niferoedd a oedd yn mynd iddynt.

 

Dywedodd y byddai'n dosbarthu diweddariad ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod.

 

83.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel. pdf eicon PDF 319 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y diweddariadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â'r gweithdrefnau newydd ar gyfer cyfarfodydd a chyfeiriodd atynt a diolchodd i'r sefydliadau hynny am wneud hynny a werthfawrogir yn fawr. Gofynnodd a allai rhagor o gyrff gyflwyno’u hadroddiadau ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd 'ar-lein' y dyfodol gan y bydd yn fuddiol wrth gynnal y cyfarfodydd 'ar-lein'.

 

Cafwyd cyflwyniadau ysgrifenedig a ddosbarthwyd gyda phapurau'r agenda gan Help for Heroes, Blesma, Cyngor ar Bopeth, The Poppy Factory, Woody's Lodge a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe Cyn-filwyr GIG Cymru.

 

Rhoddwyd diweddariadau pellach hefyd i gefnogi'r adroddiadau ysgrifenedig yn y cyfarfod gan Woody's Lodge, The Poppy Factory a GIG Cyn-filwyr Cymru a rhoddwyd diweddariadau llafar yn y cyfarfod gan Rygbi'r Gweilch ac Action on Hearing Loss.