Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a
gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Capten Chris Evans at lwyddiant y digwyddiad Criw Croch a gynhaliwyd yn y Grange ym mis Mehefin, a dywedodd y byddai'r digwyddiad yn
cael ei ailadrodd ym mis Mehefin 2020, gyda'r nod o gael dros 1000 o bobl ifanc
i ddod iddo. Dywedodd fod gwaith
cynllunio a thrafodaethau ar gyfer y Sioe Awyr a Diwrnod y Lluoedd Arfog yn
2020 yn parhau gyda Thîm Digwyddiadau Arbennig y cyngor a sefydliadau partner
eraill. Y nod yw gwneud yr arddangosiadau ar y tir yn fwy ac yn well nag erioed
ac i babell fawr y cyfamod fod yno eto. Amlinellodd y
digwyddiad a gynlluniwyd gyda'r DVLA ar gyfer mis Gorffennaf 2020. Amlinellodd hefyd
fod y Gweilch yn bwriadu cynnal Diwrnod y Lluoedd Arfog yn eu gêm gartref ar 7
Rhagfyr, ond ni chafwyd y manylion llawn eto. Cyfeiriodd at yr
amrywiol ddigwyddiadau yr oedd yr uned wedi bod ynghlwm â hwy yn ystod cyfnod
Dydd y Cofio. |
|
Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg. Cofnodion: Cyfeiriodd Grace Halfpenny at y ffaith bod CLlLC
yn hyrwyddo'r prosiect sy'n ymwneud â'r uchod. Dywedodd ei bod hi a Millie
Taylor o CLlLC yn bwriadu cwrdd â phenaethiaid
cynradd ac uwchradd yn Abertawe i esbonio pwysigrwydd cynyddu ymwybyddiaeth o
fater plant milwyr mewn ysgolion, a'u hanghenion a'u problemau arbennig hwy. Dywedodd fod CLlLC yn gwneud cais am swyddog cefnogi rhanbarthol ar
gyfer plant milwyr a fyddai'n gweithio yn yr ardal o Bort Talbot i orllewin
Cymru. Amlinellodd fod
Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo yn ei gais am arian ar gyfer aelod
o staff. Dywedodd ei bod
wedi cysylltu â'r bwrdd Iechyd ynghylch problemau pobl ifanc, yn enwedig o ran
cefnogaeth iechyd meddwl. |
|
Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Cofnodion: Dywedodd Grace Halfpenny ei bod ar fin anfon ei hadroddiad hanner
blynyddol i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Byddai'n dosbarthu'r adroddiad wedi iddo
gael ei gyflwyno. Amlinellodd fod
yr arian gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer ei swydd yn dod i ben ym mis
Mawrth 2020, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu'r swydd tan 2022.
Ni fydd y trefniadau ariannu newydd yn cynnwys arian ar gyfer
marchnata/hyrwyddo. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Mynegodd Grace Halfpenny ei bod wedi gofyn eto a all y Bwrdd Iechyd anfon
cynrychiolydd i gyfarfodydd y panel. Ni fu'r cais hwn yn llwyddiannus hyd yn
hyn. Mynegodd ei bod
hi ac aelodau eraill y panel wedi bod i gyfarfod diweddaraf Bwrdd Iechyd
Lluoedd Arfog. Yn anffodus, nid yw presenoldeb gweithwyr iechyd proffesiynol
wedi bod yn foddhaol. Cynigiwyd yr awgrym a drafodwyd yng nghyfarfod diwethaf y
panel ynghylch cael hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ym mhob ward. Roedd hefyd wedi
codi mater tynnu cymorth y Groes Goch i gleifion sy'n gadael yr ysbyty yn ei
ôl, a'i effaith ar ryddhau cleifion o'r ysbyty â'r Bwrdd Iechyd, ond nid oedd
wedi cael ateb hyd yn hyn. Roedd y Bwrdd
Iechyd wedi llunio cylch gorchwyl yn ddiweddar ar gyfer materion y Lluoedd
Arfog, a mynegodd y byddai'n dosbarthu hyn i aelodau'r panel. Dywedodd y
byddai'n e-bostio'r Bwrdd Iechyd i amlinellu siom y panel ynghylch diffyg
presenoldeb gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn y cyfarfodydd amrywiol. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Cyngor
Abertawe Amlinellodd David
Price Deer fod gwaith cynllunio'n parhau ar gyfer y Sioe Awyr a Diwrnod y
Lluoedd Arfog ar 4/5 Gorffennaf 2020. Dywedodd nad oedd
cynlluniau wedi'u ffurfioli eto ar gyfer dathliadau Diwrnod VE oherwydd
trafodaethau cyfredol am y gyllideb o fewn yr awdurdod. Cyfeiriodd at y sylwadau/cwynion a dderbyniwyd ynghylch y materion sy'n
ymwneud â'r gwasanaeth Distawrwydd yn y Sgwâr a'r gwasanaeth wrth y senotaff. Amlinellodd, oherwydd natur y digwyddiad yn y
sgwâr, ei fod bob amser wedi'i gynnal am 11am ar yr 11eg. Roedd yn hapus i
drafod ymhellach yr opsiynau ar gyfer cynnal y digwyddiad hwn o bosib ar Sul y
Cofio, gyda'r gwasanaeth o Lundain yn cael ei ddangos ar y sgrîn fawr. Bydd y
gwasanaeth swyddogol wrth y senotaff yn parhau fel yn
y blynyddoedd diwethaf, ac yn cael ei gynnal am 11am ar yr 11eg. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Diolchodd John
Williams i'r holl asiantaethau am eu cymorth wrth ddarparu'r gwasanaethau a'r
digwyddiadau amrywiol sy'n ymwneud â Dydd y Cofio. Dywedodd y
byddai'r Lleng Brydeinig Frenhinol, fel rhan o ymgyrch yr Etholiad cyffredinol
sydd ar ddod, yn ymgyrchu'r pleidiau gwleidyddol amrywiol ar faterion sy'n
cynnwys ffïoedd visa ar
gyfer cyn-filwyr y gymanwlad a diystyru taliadau
iawndal fel incwm sy'n gysylltiedig â Threth y Cyngor a'r Budd-dal Tai. Cymdeithas y
Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA) Cododd Dave Singletary
fater ynghylch gallu cysylltu â sefydliadau amrywiol y tu allan i oriau swyddfa
ac ar benwythnosau/gwyliau banc. Gofynnodd am rifau cyswllt i gynorthwyo'i
sefydliad wrth helpu cyn-filwyr mewn sefyllfaoedd argyfwng. Amlinellodd aelodau'r panel nad oes gan y mwyafrif helaeth o sefydliadau'r
sector cyhoeddus rifau neu gysylltiadau y tu allan i oriau swyddfa erbyn hyn.
Dywedwyd y gellir dod o hyd i lawer o wybodaeth ar-lein drwy wefannau amrywiol
megis gwe-dudalen y Cyfamod, Dowis, Veterans Gateway, Swansea Info etc. Mae gan y Lleng Brydeinig
ganolfan alwadau sy'n gweithredu ar benwythnosau hefyd. Age Cymru Amlinellodd
Danielle Welsh fod y sefydliad yn parhau i wneud cynnydd â'u hymgyrch pensiynau
i bobl dros 60 oed. Byddai'n dosbarthu'r wybodaeth ar ôl y cyfarfod. Blesma Adroddodd Thomas
Hall am fater lle bu'n cynorthwyo cyn-filwyr yr oedd ei fudd-dal tai wedi'i
atal yn sydyn yn dilyn problem â'i daliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dywedodd y
Cadeirydd y byddai'n cwrdd â Thomas a swyddogion perthnasol i drafod yr achos. Dyfodol Barics Aberhonddu/Y fyddin yng Nghymru Trafododd
aelodau'r panel yn fyr y materion sy'n ymwneud â dyfodol y Fyddin yng Nghymru. Dywedodd Capten Chris Evans eu bod yn aros am gadarnhad gan y Weinyddiaeth
Amddiffyn ynghylch yr holl fater, ond mynegodd y byddai'r fyddin yn dal i gadw
presenoldeb sylweddol yng Nghymru yn dilyn unrhyw newidiadau. |