Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ymadawol Cofnodion: Dywedodd Grace Halfpenny ei bod wedi mynd i gyfarfod yn ddiweddar gyda
Kath Morgans o'r Clwb Cyn-filwyr, sy'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd. Nododd fod
nifer siomedig o gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn bresennol. Dywedodd fod y
Bwrdd Iechyd wedi penodi hyrwyddwr lluoedd arfog newydd yn ddiweddar, sef
Jackie Davies. Gofynnodd i aelodau'r panel a oedd ganddynt unrhyw faterion o
ran y bwrdd iechyd yr hoffent eu trafod â hi, ac y gallai eu codi mewn cyfarfodydd
yn y dyfodol. Awgrymodd Kath
Morgans syniad ar gyfer hyrwyddwyr lluoedd arfog/milwrol ar bob ward mewn
ysbytai. Gallai gynnig y syniad yn y gwaith. Nododd aelodau'r
panel y ffaith eu bod yn ymwybodol bod y Bwrdd Iechyd wedi terfynu'i
drefniant â'r Groes Goch a'i gynllun Home from Hospital. Nodwyd bod hyn yn
cael effaith ar gleifion sy'n gyn-filwyr a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Dywedodd Grace Halfpenny y byddai'n codi materion hyrwyddwyr wardiau, yn
ogystal â threfniadau er mwyn cefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty yn y
dyfodol, yng nghyfarfod nesaf Fforwm Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis
Medi. |
|
Ethol Cadeirydd Panel Llofnodwyr Cyfamod Cymuned y lluoedd arfog. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Wendy Lewis fel
Cadeirydd Panel Cyfamod y Lluoedd Arfog Bu'r Cynghorydd Wendy Lewis (Cadeirydd) yn
llywyddu. |
|
Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Panel Llofnodwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog Cofnodion: Penderfynwyd ail-ethol Capt Chris Evans yn is-gadeirydd
Panel Cyfamod y Lluoedd Arfog. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd
ar 25 Mawrth 2019 yn gofnod cywir. (Sylwer:
Ailadroddodd y Cynghorydd June Burtonshaw ei chynnig o'r cyfarfod blaenorol i
gynorthwyo gydag unrhyw gostau i Aelodau'r Panel mewn perthynas â'r
stondinau/pabell yn y Sioe Awyr o'i Chyllideb Gymunedol. Nododd Capt Chris
Evans ei fod wedi darparu'r babell am ddim. Nododd y
Cynghorydd June Burtonshaw y byddai'n gwneud grant yn awr i'r Cyfamod.) |
|
Maria Muldoon - Adran Dai Cyngor Abertawe. Cofnodion: Amlinellodd Maria
Muldoon, Rheolwr Opsiynau Tai yng Nghyngor Abertawe, Strategaeth Digartrefedd y
Cyngor a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2018 a chyfeiriodd ati. Amlinellodd fod y
strategaeth yn uchelgeisiol a manylodd ar brif nodau ac amcanion y cynllun newydd,
a gyflwynwyd yn dilyn adolygiad o'r hen bolisi ac adborth oddi wrth rhanddeiliaid. Amlinellodd y
mesurau sydd ar waith i geisio nodi cyn-filwyr/personél a fu'n gwasanaethu fel
rhan o'r broses cyfweld a chyflwyno ceisiadau. Nododd fod y niferoedd wedi bod
yn isel yn hanesyddol yn Abertawe. Amlinellodd y
cysylltiadau hen sefydledig â Charchar Abertawe. Gofynnodd
aelodau'r panel gwestiynau amrywiol ac ymatebodd y swyddog iddynt. Awgrymwyd gwe
ddolen trwy dudalen y cyfamod i dudalennau perthnasol yr Adran Tai fel ffordd
dda ymlaen, ac roedd rheoli disgwyliadau ar gyfer unrhyw dai y byddent yn symud
iddynt ar ôl gadael y lluoedd arfog yn fater allweddol yn enwedig o ran y rhai
a fu'n gwasanaethu, yn enwedig os oeddent yn gyfarwydd â byw ar y safle. Amlinellwyd y
cysylltiadau da ag elusennau/grwpiau gwirfoddol gwahanol etc. a geir eisoes o
ran help gyda dodrefn, nwyddau gwyn etc., a'r posibilrwydd o ddatblygu
"pecyn croeso", sy'n cynnwys gwybodaeth a manylion cyswllt defnyddiol
er mwyn i denantiaid newydd gael cymorth, a allai fod o fudd i denantiaid
newydd. |
|
Dan Garner & Peter Russell -Tîm Cydlynu Ardal Leol-Cyngor Abertawe. Cofnodion: Amlinellodd Dan
Garner a Peter Russell, aelodau o dîm cydlynu ardaloedd lleol Cyngor Abertawe,
eu rolau eu hunain a rolau eu cydweithwyr yn eu cymunedau ar draws y ddinas. Nododd mai eu nod
yw rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un yn eu cymunedau ac i
feithrin cysylltiadau. Mae'r tîm yn gyfrifol am oddeutu hanner y ddinas ar hyn
o bryd. Amlinellwyd bod
eu hymagwedd yn wahanol i ymagwedd y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i bod yn
seiliedig ar ganolbwyntio ar ymagwedd gadarnhaol a cheisio adeiladu ar sgiliau,
cryfderau a galluoedd pobl. Mynegwyd eu bod
yn canolbwyntio'n llai ar ddata ac yn fwy ar bobl yn eu gweithredoedd pob dydd
yn y gymuned. Manylwyd ar enghreifftiau o brofiadau lle roeddent wedi ymwneud â
chyn-filwyr yn eu cymunedau. |
|
Diweddariadau. Y Weinyddiaeth Amddiffyn. Prosiect Cyfamod
y Lluoedd Arfog Rhanbarthol. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog. Cofnodion: Adroddodd Capt
Chris Evans ar ailgyflwyno menter y "Criw Croch" mewn partneriaeth
â'r Uchel Siryf. Cynhaliwyd digwyddiad yn y Grange ym
mis Mehefin a daeth dros 1,000 o bobl ifanc iddo. Mae'r digwyddiad wedi'i
drefnu eto ar gyfer 2020. Cyfeiriodd at
lwyddiant ysgubol y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog a nododd ei fod yn
gobeithio y gellid ei ailadrodd y flwyddyn nesaf yn ogystal â seremoni codi'r
faner. Dywedodd y
byddai'r babell ar gael eto'r flwyddyn nesaf, ac
roedd yn gobeithio cynyddu nifer y bobl ifanc/cadetiaid sy'n cael eu cynnwys ar
y diwrnod. |
|
Prosiect Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog Cofnodion: Adroddodd Grace Halfpenny ei bod wedi mynd i'r ffair swyddi'n ddiweddar a
thrafododd cyflogi cyn-filwyr gyda thros 30 o gyflogwyr, ac roedd pob un yn ymddangos
eu bod yn awyddus i gyflogi cyn-filwyr. Amlinellodd yr adborth cadarnhaol a
dderbyniodd gan gyflogwyr a oedd eisoes wedi cyflogi cyn-filwyr a oedd yn
croesawu eu hymagwedd gadarnhaol, eu prydlondeb, eu golwg a'u manylder. Cyfeiriodd at y
gyllid o'r Gronfa Cefnogi Plant Aelodau o'r Lluoedd Arfog yng Nghymru y gall
ysgolion wneud cais amdano. Nododd y byddai'n cwrdd â'r Cynghorwyr a
phenaethiaid ym mis Tachwedd i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfle hwn i gael
arian. Amlinellodd ei
hymweliad diweddar â HMS Cambria gydag Arglwydd Faer Abertawe a'r Cynghorydd
Wendy Lewis, Hyrwyddwr newydd y Lluoedd Arfog. Nododd yr angen i
ddatblygu cysylltiadau ymhellach â'r Adran Tai a Chyngor ar Bopeth. Amlinellodd fod
Llywodraeth Cymru wedi cynnal arolwg cwmpasu'n ddiweddar y byddai nifer o bobl
wedi cyfrannu ato. Cynhaliodd Peter Evans o Lywodraeth Cymru weithdy yng
Nghanolfan Bulldogs ym Maglan ar 22 Gorffennaf, a
oedd yn trafod y canlyniadau ac yn ystyried ble mae'r bylchau a nodwyd a sut y
gellid eu cefnogi. Aeth nifer o aelodau'r panel hwn i'r gweithdy. Manylodd hi a Spencer Martin fod yr arian ar gyfer
hyrwyddo/masnachu a digwyddiadau'n rhan o'r cyllid a dderbyniwyd gan Gyngor
Castell-nedd Port Talbot ar gyfer swydd y Swyddog Cyswllt Rhanbarthol.
Trafodwyd awgrymiadau ar sut y gellid defnyddio'r arian hwn. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Fforwm y Lluoedd Arfog Cofnodion: Dywedodd Grace Halfpenny ei bod wedi mynd i gyfarfod yn ddiweddar gyda
Kath Morgans o'r Clwb Cyn-filwyr, sy'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd. Nododd fod
nifer siomedig o gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn bresennol. Dywedodd fod y
Bwrdd Iechyd wedi penodi hyrwyddwr lluoedd arfog newydd yn ddiweddar, sef
Jackie Davies. Gofynnodd i aelodau'r panel a oedd ganddynt unrhyw faterion o
ran y bwrdd iechyd yr hoffent eu trafod â hi, ac y gallai eu codi mewn
cyfarfodydd yn y dyfodol. Awgrymodd Kath
Morgans syniad ar gyfer hyrwyddwyr lluoedd arfog/milwrol ar bob ward mewn
ysbytai. Gallai gynnig y syniad yn y gwaith. Nododd aelodau'r
panel y ffaith eu bod yn ymwybodol bod y Bwrdd Iechyd wedi terfynu'i
drefniant â'r Groes Goch a'i gynllun Home from Hospital. Nodwyd bod hyn yn
cael effaith ar gleifion sy'n gyn-filwyr a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi. Dywedodd Grace Halfpenny y byddai'n codi materion hyrwyddwyr wardiau, yn
ogystal â threfniadau er mwyn cefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty yn y
dyfodol, yng nghyfarfod nesaf Fforwm Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis
Medi. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Rhoddodd
aelodau'r panel ddiweddariadau llafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi
gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau perthnasol. Cyngor
Abertawe Dywedodd Spencer
Martin fod y digwyddiad arwyddo ar gyfer Aelodau newydd y Panel a gynhaliwyd ym
mis Mai wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd Sioe
Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog 2019 hefyd wedi bod yn ddigwyddiad gwych. Cadarnhaodd Emma
Thomas fod y Sioe Awyr wedi'i chadarnhau ar gyfer 4 a 5 Gorffennaf 2020. Dywedodd na
chadarnhawyd unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer digwyddiadau coffáu Diwrnod VE
ym mis Mai 2020. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Dywedodd Adrian
Rabey fod gan y cwmni 20 o swyddi hyfforddi gwag yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Dywedodd fod 10 o
leoedd diogelu wedi'u rhoi i'r Clwb Cyn-filwyr, ac roedd ei gwmni wrthi'n trafod
â Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe am ganfod cyfleuster/canolfan ar gyfer
cyn-filwyr sy'n addas ar gyfer pobl anabl yng nghanol y ddinas. Action on Hearing Loss
Dywedodd Charis Moon y gallai ei sefydliad
gynorthwyo gydag unrhyw broblemau clyw, ac y gall aelodau'r Panel gyfeirio ati. The Poppy Factory Cyfeiriodd
Natalie McCombe at y digwyddiad diweddar a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty, lle derbyniodd 7 o gyfeiriadau. Nododd fod ganddi
35 o achosion gweithredol ar ei llwyth achosion ar hyn o bryd. Clwb
Cyn-filwyr Nododd Kath Jenning, Kat Morgans a Sandy Shaw
fod y Sioe Awyr a'r digwyddiad Rhwydwaith Cyn-filwyr diweddar wedi ehangu ei
sylfaen gleientiaid. Mae eu llwyth gwaith a'u cyfeiriadau'n parhau i gynyddu a
nododd fod gan y grwpiau gysylltiadau cryf â'r carchar. Dywedodd eu bod
yn parhau i feithrin cysylltiadau a pherthynas â Veterans UK, yn enwedig o ran
materion pensiynau. Sefydlwyd
canolfan galw heibio wythnosol newydd yn YMCA Castell-nedd, felly mae hyn yn
golygu y cynhelir 10 o sesiynau galw heibio bob wythnos erbyn hyn, a chaiff 2
neu 3 arall eu hychwanegu'n fuan. Mae cysylltiadau
â Hugh James Solicitors yn parhau i ddatblygu, a
chaiff elfen o gyd-gyfeirio a chyd-gynorthwyo ei datblygu gyda'r cwmni o ran
materion cyfreithiol. Bydd y grŵp
yn cynnal digwyddiad cymunedol yng ngwesty The Commercial yn Nhre-gŵyr
ddydd Sadwrn 3 Awst. Dylai gynnwys amrywiaeth o stondinau, gan gynnwys reid
efelychydd hediad yr RAF. Bydd croeso i bawb ddod iddo. Y Llynges Dywedodd yr
Is-lefftenant Matthew Hendery fod y Sioe Awyr/Diwrnod y Lluoedd Arfog wedi bod
yn llwyddiant, ond hoffai pe bai ei wasanaeth yn cael lleoliad mwy canolog yn y
dyfodol. Cyfeiriodd at
ddathliadau 25 mlwyddiant HMS Dragon
sydd ar ddod. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Cyfeiriodd Anna Looker at y grantiau cefnogaeth cymunedol y gall y Lleng
Brydeinig Frenhinol eu rhoi ar gyfer materion megis cefnogaeth profedigaeth,
materion iechyd, etc. Mae croeso i'r Panel gysylltu â hi am gyngor a chymorth. Nododd fod y Lleng
Brydeinig Frenhinol yn gweithio ar fater sy'n berthnasol ar draws y DU mewn
perthynas â diwygio budd-daliadau a'r problemau sy'n gysylltiedig â hynny ar
hyn o bryd. |