Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig, Abertawe - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2017 yn gofnod
cywir. |
|
Cyflwyniad: swyddog cyswllt ar gyfer cyfamod y lluoedd arfog rhanbarthol. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Grace Halfpenny i'w cyfarfod cyntaf gyda'r panel, yn sgîl ei
phenodiad diweddar. Diolchodd Grace Halfpenny
i'r Cadeirydd am ei chroesawu a nododd ei bod yn edrych ymlaen at weithio
gyda'r holl sefydliadau partner. |
|
Diweddariad gan Aelodau'r Panel. Cofnodion: Rhoddodd
aelodau'r panel y diweddaraf ar lafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi
gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau, gan gynnwys y
meysydd canlynol: Y Fyddin Adroddodd Chris Evans â phleser fod Dinas a Sir Abertawe wedi ennill gwobr aur fel rhan o'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr yn ddiweddar. Nododd fod y gwaith cefndir a'r ymdrech a wnaed dros y 12 mis diwethaf wedi helpu i ennill y wobr ar ôl i'r awdurdod ennill y wobr arian yn flaenorol. Abertawe yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflawni'r llwyddiant hwn. Caiff y wobr ei chyflwyno mewn seremoni yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Nododd fod cyfle i gynnal seremoni codi'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ystod penwythnos Sioe Awyr Cymru unwaith eto'r flwyddyn nesaf, a byddai angen trafod y pwnc hwn ymhellach. Mae cynlluniau hefyd i gynnal digwyddiadau amrywiol i nodi 50 mlynedd ers cyhoeddi statws Abertawe fel dinas. Nododd fod yr holl waith papur angenrheidiol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y gorymdeithiau sydd ar ddod. Nododd fod dau ddiwrnod agored ychwanegol yn cael eu cynnal yn The Grange ar 22 a 29 Tachwedd, yn ogystal â digwyddiad i gyflogwyr ar 28 Tachwedd. Nododd fod Catrawd 157 wedi ffurfio trefniant partneriaeth gydag Academi Chwaraeon Llandarcy yn ddiweddar. Soniodd am y gampfa wych gan Bulldogs a agorwyd ym Maglan yn ddiweddar, ac a ariannwyd yn rhannol trwy grant cyfamod. Roedd y cyfleuster ar gael i'w ddefnyddio gan gyn-filwyr am ddim. Dywedodd y byddai adolygiad o drefniant cyfamod yn dechrau cyn bo hir, ac y byddai'n rhaid cysylltu â'r holl asiantaethau partner gan ofyn iddynt ymddiswyddo, gan annog sefydliadau newydd i ymuno. Digwyddiadau
Arbennig Nododd David Price-Deer fod digwyddiad 'Nawr yr Arwr' yn cael ei gynnal yn Neuadd Brangwyn ac o'i chwmpas rhwng 25 a 29 Medi, a bod tocynnau ar gael o hyd ar gyfer rhai perfformiadau. Nododd y byddai'r
digwyddiad 'Distawrwydd yn y Sgwâr' yn cael ei gynnal yn Sgwâr y Castell am
11am ar Sul y Cofio. Help for
Heroes Adroddodd Nick Vanderpump am y digwyddiad 'Diwrnod Darganfod' llwyddiannus a gynhaliwyd ym Mhontypridd ym mis Awst. Soniodd am lwyddiant y cynllun hyfforddi a gynhaliwyd gyda'r Gweilch/URC, sydd wedi arwain at sawl cyn-filwr yn ennill cymwysterau hyfforddi. Cyngor ar
Bopeth Adroddodd Jackie Preston fod y gwasanaeth wedi symud i fangre newydd ar Stryd y Gwynt yn ddiweddar. Dywedodd hefyd y byddai'r gwasanaeth yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 y flwyddyn nesaf. Bellyful CIC Cyflwynodd Gemma Lelliott, Rheolwr Datblygu Busnes Bellyful CIC, y cwmni, sydd wedi'i leoli yn Abertawe ac sy'n gweithredu fel menter gymdeithasol sy'n ceisio mynd i'r afael â thlodi bwyd trwy ddarparu gwasanaeth bwyd o safon i'r cyhoedd, yn enwedig pobl hŷn a phobl fwyaf diamddiffyn y gymuned. Nododd fod y busnes yn ceisio ehangu o'i wreiddiau yn ardal Abertawe, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Y Ffatri
Babïau Adroddodd Natalie Mccombe fod ei sefydliad yn rhan o'r grŵp 'Abertawe'n Gweithio', a oedd yn bwriadu datblygu ei gyswllt cyn-filwyr ei hun. Atgoffodd hi'r panel fod ei sefydliad yn gallu darparu cefnogaeth a chyngor cyflogadwyedd i gyn-filwyr. Clwb
Cyn-filwyr Adroddodd Sandy Shaw fod y sefydliad a ffurfiwyd 7 mis yn ôl bellach wedi ehangu o gynnal 2 gyfarfod yr wythnos i gynnal 5, a'i fod bellach yn cynnwys ardaloedd ar draws y ddinas. Blesma Adroddodd Jason Suller ei fod wedi cael ei benodi yn swyddog allgymorth ar gyfer y sefydliad yn ddiweddar, a'i fod yn bwriadu cynnal digwyddiadau yn yr ardal hon ac ehangu aelodaeth ar draws y wlad. Amlinellodd y cynigion dros ddatblygu 'Rhaglen Gwirfoddolwyr Digidol' sy'n ceisio annog pobl i fynd ar-lein a mynd i'r afael â materion TG sylfaenol, megis e-bost/bancio etc. Tîm Cyfnodau
Bywyd Nododd Dominic Nutt ei fod wedi derbyn cyfrifoldeb am y rhwydwaith 50+ yn ddiweddar a'i fod yn bwriadu ei ehangu a denu aelodau newydd i'r grŵp. Nododd fod rhai o aelodau presennol y rhwydwaith yn ceisio dod yn wirfoddolwyr ar gyfer grwpiau, a'i fod yn hapus i rannu unrhyw gais/wybodaeth oddi wrth Aelodau'r Panel â'r grŵp hwn. Y Llynges Dywedodd Ruth Fleming ei bod wedi mynd i ddigwyddiad lansio cyfleuster campfa 'Bulldogs' ym Maglan, ac roedd yn canmol y cyfleuster gwych. Croesawodd y syniad o osod meinciau 'Cofio' ar draws y ddinas. Cyfeiriodd at y digwyddiad 'Cofio' posib yn Sgwâr yr Amgueddfa mewn cydweithrediad â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac at y cynlluniau i gynnal gêm rygbi i fenywod rhwng y Llynges Frenhinol ac Abertawe. CGGA Nododd Alex Baharie fod ei sefydliad hefyd yn rhan o'r rhwydwaith "Cyflogadwyedd", a soniodd am wefan 'Gwirfoddoli Cymru' gan nodi efallai byddai Aelodau'r Panel yn meddwl ei bod yn ddefnyddiol. EFT Cyfeiriodd Adrian Matthews at y Cynllun Peilot Lles y mae ei gwmni'n gobeithio ei gyflwyno a fydd, gobeithio, yn cynnwys cyn-filwyr. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Nododd Adrian Rabey fod y cynllun y mae ei gwmni'n ei gynnig mewn perthynas ag ailhyfforddi yn cael ei ehangu i gyn-swyddogion Heddlu De Cymru yn ogystal â chyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Nododd fod angen ailgyflwyno cais Cyfamod Cymunedol y cwmni'n fuan. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Adroddodd Antony Rabey am y gwaith parhaus a wnaed gyda Training for Heroes mewn perthynas â'r cynllun cyfweliadau gwarantedig. Nododd fod y cwmni hefyd yn y broses o gyflwyno cais am Wobr Aur Cydnabod Cyflogwyr. Cyngor
Abertawe Adroddodd June Burtonshaw ei bod yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner ar achosion unigol a ddaw i'w sylw. Cyfeiriodd at y cynnig i osod y meinciau 'Cofio' ar draws y ddinas, a noddodd ei bod yn bwriadu cwrdd â Phil Flower yn fuan i drafod cynigion ar gyfer digwyddiadau sydd ar ddod. Diolchodd Spencer Martin i'r holl asiantaethau partner am eu cymorth i ennill y wobr aur. |