Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

 

21.

Y Cyn-gynghorydd ACS (Tony) Colburn

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd gyda thristwch at farwolaeth y cyn-gynghorydd Tony Colburn, a oedd hefyd yn aelod o'r Panel, ac a gynrychiolai'r Lleng Brydeinig Frenhinol (Cangen y Mwmbwls a De Gŵyr).

 

Safodd pawb a oedd yn bresennol mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

22.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 25 Medi 2017 yn gofnod cywir.

 

23.

Y diweddaraf gan aelodau'r panel. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd aelodau'r panel y diweddaraf ar lafar am weithgareddau, digwyddiadau a llwythi gwaith presennol ac arfaethedig eu grwpiau a'u sefydliadau, gan gynnwys y meysydd canlynol:

 

Y Llynges

Adroddodd Ruth Fleming y bydd cyfarfodydd y Rhwydwaith Teuluoedd Llyngesol yn dechrau ym mis Mawrth. Dywedodd fod Adran Tawe wedi mynd i ddeg digwyddiad coffa.

 

Y Fyddin

Adroddodd Chris Evans ei fod wedi bod i gyfarfod Cyfamod Cymru Gyfan yn Wrecsam yn ddiweddar. Nododd y bu'r digwyddiad STOMP yn y Grange yr wythnos diwethaf yn llwyddiant ac y byddai Diwrnod y Lluoedd Arfog yn 2017 ar yr un diwrnod â'r Sioe Awyr, felly cynhelir digwyddiadau o gwmpas y Senotaff oherwydd y logisteg ar gyfer y penwythnos. Dywedodd fod yr Adran wedi cymryd rhan mewn tair gorymdaith dros gyfnod y cofio. Adroddodd fod Cyngor Abertawe wedi ennill gwobr arian yn ddiweddar mewn seremoni yng Nghaerdydd a'i fod ef ei hun wedi dod yn ail yn y categori personol.

 

Digwyddiadau Arbennig

Crybwyllodd Nigel Jones fod yr ail bolyn baner bellach yn ei le yn Sgwâr y Castell ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yno. Cyfeiriodd eto at drefniadau ar gyfer y sioe awyr a diwrnod y Lluoedd Arfog lle cynhelir digwyddiadau o gwmpas ardal y senotaff. Cyfeiriodd hefyd at y prosiect Nawr yr Arwr a fydd yn dechrau ym mis Medi.

 

Y Lleng

Dywedodd Anna Looker fod yr arweiniad  'Service Children in Education' bellach ar gael ar eu gwefan, ac y byddai'n ddefnyddiol pe bai aelodau'n gallu ei rannu a'i hyrwyddo. Dywedodd ei bod hi'n ymddangos y bydd yr ymgyrch 'Count Them In' (Cyfrifwch Nhw) yn llwyddiannus os profir bod yr adborth anffurfiol yn gywir, a bydd yn golygu y byddai'r cwestiwn sy'n ymwneud â "Gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog" yn cael ei gynnwys yng nghyfrifiad 2021. Cyfeiriodd hefyd at ddigwyddiad "Y Bererindod Fawr" i Gât Menin yn Ypres a gaiff ei gynnal i goffáu digwyddiad tebyg a gynhaliwyd 90 mlynedd yn ôl. Y gobaith yw y bydd 2,000 o bobl yn mynd iddo, gyda chynrychiolwyr o bob cangen yn y wlad. Cynhelir gweithgareddau codi arian i helpu i gynorthwyo gyda chost y daith i gynrychiolwyr.

 

Help for Heroes

Adroddodd Shelly Elgin eu bod newydd benodi Amanda Thomas yn brif weithiwr ar gyfer ardal y de-orllewin. Dywedodd hefyd eu bod hefyd wedi sicrhau dros £500 mil o gyllid ar gyfer 7 aelod o staff cefnogi newydd a fydd yn gweithio mewn cydweithrediad â Change Step.

Heddlu De Cymru

Adroddodd Alison Fisher fod swyddogion wedi mynychu digwyddiadau hyfforddi camddefnyddio sylweddau, ac y dylai swyddogion mewn dalfeydd geisio nodi "cyn-filwyr" ar bob cyfle.

 

 

Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig

Adroddodd Adrian Rabey bod 22 o gwmnïau eraill wedi ymuno â'r cynllun sicrwydd o gyfweliad. Nododd fod y ganolfan galw heibio yn Heol Eaton, Brynhyfryd yn parhau i fod yn llwyddiannus, gyda Greggs bellach yn rhoi peth bwyd ar gyfer digwyddiadau, ac mae croeso i holl aelodau'r panel fynd iddynt.

 

Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)

Adroddodd Dave Singleton fod y gwaith achos y parhau i gynyddu a bod yn fwy technegol, yn enwedig oherwydd y newidiadau diweddar i fudd-daliadau. Dywedodd fod aelod newydd o staff wedi'i benodi'n ddiweddar a chanddo arbenigedd mewn materion sy'n ymwneud â budd-daliadau/pensiynau, felly dylai hyn fod o gymorth mawr i'r sefydliad. Amlinellodd y byddai dawns yr SSAFA yn cael ei chynnal unwaith eto yn Ngwesty'r Aberavon Beach ym mis Chwefror ac bod croeso i holl aelodau'r panel ddod iddi.

 

Blesma

Dywedodd Tom Hall ei fod yn falch o fod yn mynd i'w gyfarfod cyntaf, ac amlinellodd brif ffocws ei sefydliad wrth helpu cyn-filwyr heb goesau/breichiau ac aelodau eu teulu.

 

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Dosbarthwyd manylion bwrsariaeth sydd ar gael ar gyfer cyrsiau yn y Brifysgol i gyn-filwyr/Bersonél y Lluoedd Arfog.

 

Dinas a Sir Abertawe

Rhoddodd Spencer Martin fwy o wybodaeth am y wobr arian a enillwyd gan yr awdurdod yn y seremoni Cyfamod diweddar yng Nghaerdydd, a dywedodd y byddai'r awdurdod yn parhau i anelu at gyflawni'r wobr aur. Cyfeiriodd at gronfa'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer cryfhau perthnasoedd mewn awdurdodau iechyd y mae Cyngor CNPT yn cydlynu cais ariannu ar ei chyfer. Os bydd y cais yn llwyddiannus, byddai'n arwain at benodi swyddog amser llawn yn yr ardal awdurdod iechyd PABM leol i gasglu data perthnasol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Chris Evans am fynd i'r digwyddiad yn Wrecsam ar ei ran, gan ddweud ei bod yn parhau i ymwneud ag achosion tai unigol lle gall gynorthwyo sefydliadau ac unigolion. Dywedodd fod Cyngor Abertawe wedi cyflwyno pwyntiau ychwanegol ar gyfer personél y lluoedd arfog/cyn-filwyr sy'n  llwyddiannus. Soniodd am y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau'r flwyddyn nesaf i goffáu 100 mlynedd o'r Awyrlu Brenhinol, ac y byddai mwy o fanylion yn dilyn maes o law.  Dywedodd hefyd y byddai Catrawd Frenhinol Cymru'n cael eu gwahodd i ddod i gemau'r Elyrch yn Stadiwm Liberty ym mis Chwefror. Amlinellodd yr adborth o Wasanaeth Dydd y Cofio a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair, gan ddweud bod yr Archesgob wedi nodi ei fod yn awyddus i'r eglwys gymryd mwy o ran yn y cyfamod.

 

24.

Adrian Bailey, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe - Cydgynhyrchu. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Adrian Bailey, un o swyddogion datblygu CGGA gyflwyniad Powerpoint manwl i'r panel a oedd yn ymwneud â mater cyd-gynhyrchu.

 

Amlinellodd yr hanes, y cyd-destun a'r egwyddorion sylfaenol a oedd wrth wraidd datblygu'r syniad cyd-gynhyrchu, yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd o ran ymgynghori ac opsiynau a phosibiliadau ar gyfer y dyfodol.

 

Cyfeiriodd at y newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sydd mewn gwirionedd yn golygu y dylid ymgynghori ag unrhyw un y mae newidiadau'n effeithio arno, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol, ac y gallant hwy hefyd ofyn i fod yn rhan o'r broses cyd-gynhyrchu .

 

Dylai hyn olygu y dylid cyd-gynhyrchu'r holl gynlluniau a mentrau gyda sefydliadau a phobl y mae eu canlyniadau posib yn effeithio arnynt.

 

Dywedodd fod strategaeth cyd-gynhyrchu newydd yn cael ei datblygu ar hyn o    bryd gan Gyngor Abertawe, a bydd ei nodau'n cynnwys ymgysylltu'n well â'r cyhoedd, yn enwedig y bobl hynny ag anableddau a namau y byddai'r newidiadau i'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn effeithio arnynt.