Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2017 yn gofnod cywir |
|
Prosiectau Cymunedol Newydd, Ymgeiswyr posib am Gyllid Cyfamod · Y Gweilch yn y Gymuned · SA1ute Cofnodion: Y Gweilch yn y
Gymuned Amlinellodd Paul
Whapham, Rygbi'r Gweilch, gefndir a'r rhesymeg dros y cynnig roeddent eisoes wedi'i
gyflwyno i Gronfa'r Cyfamod. Amlinellodd eu bod nhw eisoes wedi cyflwyno'r
cynnig oherwydd graddfeydd amser. Amlinellodd fod y
prosiect yn seiliedig ar "atgof chwaraeon" ac yn seiliedig ar raglen
"atgofion o'r byd chwaraeon" sydd eisoes wedi sefydlu yn Lloegr. Mae
ei nodau'n cynnwys mynd i'r afael ag eithrio cymdeithasol ac arwahanrwydd ac yn
ymdrechu i integreiddio hen bersonél y Lluoedd Arfog a phobl hŷn yn ôl i'r
gymuned, drwy gyfarfodydd, digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd. Nododd y gallai'r
chwaraewyr presennol fod yn rhan o hyn ac os yw'r cyfarfodydd/sesiynau'n
llwyddiannus, gallai gweithgareddau corfforol a grwpiau, megis cerdded/bowlio,
gael eu trefnu. Atebodd gwestiynau
gan aelodau'r panel a oedd yn ymwneud â thrafnidiaeth, lleoliadau, targedu
cynrychiolwyr etc. Atgoffodd Capt Chris Evans y panel o'r broses bresennol y mae'r cais
am gyllid yn ei ddilyn ar hyn o bryd drwy'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r bwrdd
lleol yn Aberhonddu. Nododd, os bydd cyfle, yr angen i hyrwyddo'r cysylltiadau
posib â'r cynlluniau lleol sydd eisoes wedi'u hariannu drwy gronfa'r cyfamod
yng nghlwb rygbi Tregŵyr, Cruse
Bereavement a gall y prosiect Bulldogs
gynorthwyo gyda'u llwyddiant. Gallai fynediad i gronfa ddata'r cwsmeriaid
posib, fel pob grŵp yn y sector hwn, fod yn broblem wrth symud ymlaen Croesawodd y
Cadeirydd ac aelodau'r panel y prosiect a chefnogwyd y cais yn llwyr. SA1ute Amlinellodd Reeco Rees y cefndir a'r rhesymau dros ddatblygu'r prosiect
sy'n ceisio darparu ystod o weithgareddau awyr agored i hen bersonél y Lluoedd
Arfog, a'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, a'u teuluoedd. Nododd fod y tir
angenrheidiol wedi'i addo i'r grŵp a bod trefniadau i godi arian ar waith.
Amlinellodd ei gysylltiadau â'r milwr presennol, Lee West a'r grŵp Trampface. Nododd ei fod yn
ceisio cyngor, cymorth a chefnogaeth i wireddu'r syniad yn gyfleuster go iawn.
Amlinellodd ei fod eisoes wedi dechrau'r broses o gofrestru'r grŵp gyda'r
Comisiwn Elusennau. Roedd y panel yn
gefnogol o'r prosiect yn gyffredinol ond roedd hi'n hanfodol bod Mr Rees yn
cofrestru'r prosiect gyda'r Comisiwn Elusennau, gan mai elusennau cofrestredig
yn unig all wneud cais am gyllid y cyfamod. Byddai angen i'r cynllun gael ei
gymeradwyo'n ffurfiol unwaith iddo gael ei gymeradwyo fel elusen. Amlinellodd aelodau'r panel y materion posib sy'n ymwneud â chostau yswiriant, trafnidiaeth, ac, unwaith eto, sefydlu cronfa ddata o bobl sy'n gymwys. |
|
Y diweddaraf gan aelodau'r panel. Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariadau ar lafar gan Aelodau'r Panel ynglŷn â'r gweithgareddau
presennol ac arfaethedig, digwyddiadau a llwythi gwaith eu grwpiau/sefydliadau
priodol, gan gynnwys y meysydd canlynol: Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe Cyfeiriodd Alyx Baharie at y cysylltiadau
posib rhwng rhaglen Cynnydd, NEETs, profiad milwrol a
chyllid posib o gyllid LIBOR. Amlinellodd Spencer
Martin y byddai'n ymchwilio ymhellach i'r mater. Y Fyddin Nododd Chris Evans fod
Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 24 Mehefin wedi bod yn llwyddiant mawr, a bod y Sioe
Awyr hefyd wedi bod yn ddigwyddiad gwych i bawb a oedd yn rhan ohonynt. Nododd fod y Ffair
Cyflogaeth i Gyn-filwyr wedi'i threfnu ar gyfer y Grange,
West Cross ar 7 Medi rhwng 10am-2pm, ac mae'n agored i hen bersonel
y Lluoedd Arfog a'r personél presennol. Mae hefyd yn
ymchwilio gyda'r awdurdod lleol i osod y garafan
recriwtio yng nghanol y ddinas yn fwy rheolaidd. Nododd unwaith bydd
y cyfamod yn cael ei ailarwyddo, bydd yn cael ei arddangos yn y Ganolfan
Ddinesig ac mewn digwyddiad a gynhelir yn y Grange er
mwyn hyrwyddo'r digwyddiad. Y Llynges Ailadroddodd Ruth
Fleming lwyddiant Diwrnod y Lluoedd Arfog. Cyfeiriodd at
ddigwyddiad Wrens Walking
Wales a'r ymateb gwych a gafwyd yn Abertawe, yn enwedig gan y Lleng Brydeinig
yn y Mwmbwls, yr ymweliad gan yr Arglwydd Raglaw a'r digwyddiad a gynhaliwyd
gyda'r Arglwydd Faer yn y Plasty. Cyfeiriodd at
ddigwyddiad ffederasiwn ar gyfer teuluoedd y Llynges Frenhinol sy'n ceisio cyfuno'r
wybodaeth am bersonél y Llynges Frenhinol leol a'u teuluoedd sydd i'w gynnal yn
fuan, a bydd y manylion hynny'n cael eu rhannu ag aelodau'r panel. Digwyddiadau
Arbennig Cyfeiriodd Nigel
Jones at lwyddiant y Sioe Awyr a nododd fod trafodaethau'n parhau ynghylch
digwyddiad blwyddyn nesaf. Amlinellodd efallai y bydd angen iddo gael ei gynnal
ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog oherwydd ymrwymiadau'r Awyrlu Brenhinol, lle bydd
angen gwneud newidiadau priodol er mwyn cynnal y ddau ddigwyddiad ar y
blaendraeth. Esboniodd fod
Distawrwydd yn y Sgwâr wedi'i drefnu unwaith eto ar gyfer 11 Tachwedd. Age Cymru
Bae Abertawe Nododd Nicola
Russel-Brooks mai hwn oedd ei chyfarfod olaf ar y panel cyn ei hymddeoliad.
Byddai'n trosglwyddo'r manylion ei holynydd maes o law. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig Soniodd Adrian
Rabey am "lansiad cychwynnol" diweddar prosiect newydd Academi
Gymunedol y Lluoedd Arfog (AFCA), sy'n ceisio cynorthwyo personél ymhellach wrth
iddynt symud o fywyd milwrol i fywyd bob dydd.Nododd
fod dros 600 o bobl wedi ymuno â'r cynllun hyd yn hyn, a manylodd ar y
cysylltiadau â chwmniau sydd eisoes wedi'u gwneud,
sy'n sicrhau cyfweliadau i'w cleientiaid. Rygbi'r Gweilch Adroddodd Paul Whapham
fod y Gweilch wedi derbyn Gwobr Efydd y Lluoedd Arfog, ac atgoffodd aelodau'r
panel o'r tocynnau i gemau cartref y Gweilch sydd ar gael ar gyfer personél
sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr. Y Lleng
Brydeinig Frenhinol Adroddodd Tony
Colburn ar gyfranogiad cangen y Mwmbwls a Gŵyr gyda digwyddiad Wrens Walking Wales. Cyfeiriodd at
ddiffyg ymwybyddiaeth gyhoeddus o ddigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn y
Mwmbwls, a nododd fod y gangen leol wedi prynu baner er mwyn hyrwyddo'r
digwyddiad. Cruse Bereavement Nododd Sue
Richards-Hoskin fod ei sefydliad yn parhau i geisio
cynyddu ymwybyddiaeth o'u gwasanaethau i deuluoedd, personél a chyn-filwyr. Cadeirydd Nododd y Cynghorydd
June Burtonshaw ei bod wedi siarad â'r Dirprwy Arweinydd ynghylch prynu polyn
fflag ychwanegol, a nododd y dylai'r mater fod wedi'i ddatrys nawr. Llongyfarchodd bawb
a oedd yn rhan o lwyddiant Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr. |