Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 68 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.

 

3.

Y diweddaraf gan aelodau'r panel.

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariadau ar lafar gan Swyddogion ac Aelodau'r Panel ynglŷn â'r gweithgareddau presennol ac arfaethedig, digwyddiadau a llwythi gwaith eu grwpiau/sefydliadau priodol, yn cynnwys y meysydd canlynol.

 

Hyfforddiant Aartic/Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig

Dywedodd Anthony ac Adrian Rabey fod eu sefydliadau wedi delio â thros 1000 o bobl ers ei sefydlu, gyda thros 900 o ganlyniadau llwyddiannus o bobl yn canfod gwaith amser llawn/rhan-amser.

 

Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi ychwanegu mwy o gyrsiau hyfforddi ac wedi symud i eiddo ychwanegol sy'n cynnwys canolfan galw heibio SSAFA. Maent yn gobeithio ymestyn i ardaloedd Caerdydd a Merthyr yn y dyfodol agos.

 

CYMDEITHAS Y MILWYR, MORWYR, AWYRENWYR A'U TEULUOEDD

Soniodd Dave Singletary am y materion sy'n ymwneud â phrinder stondinau yn y Sioe Awyr. Gwahoddodd holl aelodau'r panel i ddod i noson gwis codi arian yng Nghlwb Rygbi Dynfant ar 8 Hydref.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Adroddodd Peter Evans ar yr ymgyrch "Count Them In" a arweinir gan y Lleng i newid y cyfrifiad i gynnwys cwestiwn sy'n ymwneud â'r gwasanaeth milwrol. Mae nifer o awdurdodau lleol, AS ac AC ar draws Cymru a'r DU eisoes wedi cefnogi'r cynnig. Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd yn cefnogi'r ymgyrch, ac maent yn mynd i gyflwyno achos i'r SYG ynghylch y mater.

 

Nododd June Burtonshaw y byddai Cyngor Abertawe'n trafod y cynnig yn ei gyfarfod ar 27 Hydref.

 

Cyfeiriodd hefyd at gynllun Llwybr Tai newydd y Lleng yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd a sylwadau.

 

Dywedodd Spencer Martin y byddai'r Adran Tai'n cyflwyno sylwadau ar y cynllun llwybr yn fuan.

 

Cyn-filwyr GIG Cymru

Dywedodd Victoria Williams fod y gwasanaeth wedi cael 76 o gyfeiriadau yn ddiweddar, ac mae'n parhau i fod y prysuraf yng Nghymru. Yn anffodus mae hyn yn golygu oedi o 6 i 10 mis i gleifion.

 

Dywedodd fod digwyddiad Diwrnod Ymwybyddiaeth yn cael ei gynnal ar y cyd â Heddlu De Cymru ar 6 Hydref yn y cyfleuster Byddin Wrth Gefn yn West Cross. Dywedodd y byddai rhwng 8 a 10 elusen yn dod i'r digwyddiad a cheir trafodaethau a sgyrsiau yn ystod y digwyddiad ar bynciau megis PTSD, Pryder, Iselder, Pontio o fywyd yn y fyddin i fywyd dinesydd.

 

Cruse

Dywedodd Sue Richards-Hoskins fod ei sefydliad yn dal i aros am newyddion llwyddiant ei gais am grant.

 

 

Y Llynges

Dywedodd Ruth Fleming ei bod yn cael trafferthion gyda'r hysbysiad 12 wythnos angenrheidiol i gael cymeradwyaeth y Llynges i ddefnyddio'r trelar a bod yng nghanol y ddinas yn rheolaidd a digwyddiadau eraill i hyrwyddo'r gwasanaeth.

 

Dywedodd fod oddeutu 200 o deuluoedd personél presennol/cyn-bersonél y llynges yn ardal Abertawe.

 

Soniodd am lwyddiant diweddar y digwyddiad Cynnwys Cyflogwyr a gynhaliwyd yn ddiweddar yn HMS Cambria, a Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn.

 

Age Cymru Bae Abertawe

Dywedodd Nicola Russel-Brooks mai dyma ei chyfarfod cyntaf gyda'r panel. Prif ddiben ei sefydliad oedd cynnig cyngor, cymorth a help i bobl dros 50 oed yn yr ardal leol.

 

Dywedodd yr hoffai weld ei sefydliad yn datblygu ei gysylltiadau a chysylltu mwy â sefydliadau panel eraill yn y dyfodol.

 

Newid Cam

Dywedodd Kev Bodgan fod ei wasanaeth yn dal i fod yn brysur gyda 10 cyfeiriad yn y 3 mis diwethaf. Maent wedi cyflogi mentor cyfoedion amser llawn newydd i helpu gyda materion.

 

Digwyddiadau Arbennig

Dywedodd Nigel Jones nad oedd cyllideb i brynu ail bolyn baner. Gallai un gael ei roi ond byddai'n rhaid iddo basio’r profion iechyd a diogelwch perthnasol.

 

Cyfeiriodd at y digwyddiad "Distawrwydd yn y Sgwâr" a gynhaliwyd y llynedd, ond nododd nad oedd cyllideb ar gyfer digwyddiadau o'r fath mwyach. Gofynnodd am roddion/nawdd i barhau gyda'r digwyddiad hynod lwyddiannus a ddenodd dros 1,000 o bobl y llynedd.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n siarad â'r Arweinydd ynghylch opsiynau cyllido posib ar gyfer y digwyddiad.

 

Aelodaeth Panel

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n hoffi adolygu a diweddaru aelodaeth y Cyfamod a'r llofnodwyr, gan nad yw rhai sefydliadau'n dod i'r cyfarfod ac nid oes ganddynt unrhyw fewnbwn. Gofynnodd i swyddogion gysylltu â'r holl sefydliadau a restrir i gadarnhau eu hymrwymiad.

 

Eitemau ar gyfer Cyfarfodydd y Panel yn y Dyfodol

Cyflwyniadau rheolaidd gan aelodau'r panel (cyfarfod Aartic/Hyfforddiant Prydeinig mis Rhagfyr).

Cynllun Cydnabyddiaeth Gweithiwr.

Cynlluniau Hyfforddeion.

Cynnwys Cyflogwyr

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2017.

Proses bresennol ar gyfer cyflwyno cyllid grant y cyfamod ar gyfer prosiectau.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Dyddiad y cyfarfod nesaf wedi'i symud o 19 i 5 Rhagfyr.