Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2016 yn gofnod cywir, yn ddibynnol ar ddiwygio Cofnod 7 (tudalen 3) i ddarllen y Llynges Frenhinol |
|
Prosiect Cefnogi Trosglwyddo Staff Milwrol (SToMP). (Laura Dunn - y Gwasanaeth Prawf) Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
trosolwg llawn gwybodaeth i'r panel ar y prosiect SToMP
gan Laura Dunn, rheolwr prosiect Prosiect
Cefnogi Trosglwyddo Personél Milwrol (SToMP) y
Gwasanaeth Prawf gyda chefnogaeth gan Robert Wiltshire,
Swyddog Cyswllt â Charchardai SToMP. Amlinellwyd ganddynt
cefndir y cynllun a ddeilliodd o Adolygiad Philips yn 2014, yn ogystal â phrif
ffocws ac amcanion y prosiect, y cyllid a sicrhawyd gan Gronfa Cyfamod y
Weinyddiaeth Amddiffyn, y prif amcanion, y dulliau cyflwyno a'r cysylltiadau
ardderchog a sefydlwyd gyda swyddogion cyswllt â charchardai. Amlinellwyd eu bod
yn cyfweld ag unrhyw un sy'n cael ei nodi'n gyn-weithiwr y lluoedd arfog yn
ystod y broses arestio, mewn ymgais i ddatblygu ymagwedd gydlynol a rhoi
cymorth pan fydd pobl yn y system cyfiawnder troseddol. Nodwyd sut y maent
yn ceisio datblygu cyfeirlyfr o wasanaethau i gynorthwyo eu cleientiaid. |
|
Y diweddaraf gan aelodau'r panel. Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariadau ar lafar gan Swyddogion ac Aelodau'r Panel ynglŷn â'r
gweithgareddau presennol ac arfaethedig, digwyddiadau a llwythi gwaith eu
grwpiau/sefydliadau priodol, yn cynnwys y meysydd canlynol. Bwrdd
Hyfforddiant Prydeinig/Artic Training Dywedodd Adrian ac
Antony Rabey eu bod wedi cofrestru 220 o bobl yn genedlaethol ar gyrsiau
hyfforddiant ers y cyfarfod diwethaf, gyda 46 ohonynt yn dod o hyd i
gyflogaeth. Cyfeiriwyd at y
cysylltiadau a ddatblygwyd â Charchar Abertawe o ran hyfforddiant. Roedd y ganolfan
galw heibio yn Nhrefansel ar agor a gallai aelodau
o'r panel ymweld â hi a'i defnyddio. Dywedwyd eu bod
wedi cael eu hachredu'n ddiweddar fel darparwr BTEC a bydd hyn yn gymorth
pellach o ran datblygu cyrsiau hyfforddiant. Y Lleng Brydeinig
Frenhinol Rhoddwyd
diweddariad gan Tony Colburn ar y Gwasanaeth Coffa diweddar a llwyddiannus iawn
a gynhaliwyd yn Eglwys yr Holl Saint i goffáu 15 o ddynion o'r Rhyfel Byd
Cyntaf nas cofnodwyd ar y Gofeb wreiddiol yno. Bu llawer o ddisgynyddion y
milwyr hynny'n bresennol, a chynhaliwyd cyngerdd yn dilyn y digwyddiad i godi
arian dros yr Apêl Pabïau. Dywedodd Terry Bravin fod dros £100,000 wedi'i
godi yn Abertawe dros yr Apêl Pabïau'r llynedd. Gwasanaeth Tân Dywedodd Andy Grove fod y gwasanaeth yn cynnal cyfres o ddiwrnodau
agored yn y misoedd i ddod ac roedd croeso i aelodau'r panel fynychu a gosod
stondin yn y digwyddiadau. Y Llynges Dywodedd Steve
Jones fod yr uned newydd ym Mae Caerdydd ar gyfer y Llynges Frenhinol Wrth
Gefn, y Mor-filwyr Brenhinol Wrth Gefn a Chadetiaid yn agor ym mis Hydref 2019.
Bydd hyn yn helpu gyda recriwtio a chyfleoedd am hyfforddiant. Dywedodd fod y
Llynges Frenhinol Wrth Gefn wedi bod yn Sgwâr y Castell gyda'i hôl-gerbyd ar
sawl achlysur ac amlinellwyd cost yr ymweliadau. Gofynnodd y cadeirydd iddo
e-bostio manylion costau iddi'n uniongyrchol oherwydd
bod arian penodol yn y gyllideb ar gyfer digwyddiadau'r lluoedd arfog bellach. Age Cymru Rhoddwyd adroddiad
gan Nicola Russel-Brooks, gan amlygu'r pynciau canlynol: ·
Taflen
ymgyrch newydd Jo Cox ·
Gwasanaeth
cyfeillio ·
Mae
dau wasanaeth newydd wedi cael eu lansio – y Gwasanaeth Atwrneiaeth
Arhosol a'r Gwasanaeth Apelio (yn erbyn penderfyniadau'r Lwfans Byw i'r Anabl,
y DLA, a'r Taliad Annibyniaeth Bersonol,PIP). ·
Gwasanaeth
cyfreithiol am ddim unwaith yr wythnos ·
Gwasanaeth
Cynllunio Gydol Oes, i'w lansio ym mis Ebrill ·
Rhoi cyfarpar gan Tesco - blychau cadw allweddi'n
ddiogel/cloeon ffenestri etc a pheth setiau o ddillad
sydd ar gael am ddim i'r cyhoedd ·
Gwasanaethau
newydd yn cael eu lansio ym Mhen-y-Bont ar Ogwr a Gwasanaeth Cynghori Ariannol Digwyddiadau
Arbennig Cadarnhaodd John
Birmingham fod Diwrnod y Lluoedd Arfog wedi'i gadarnhau ar gyfer 24 Mehefin a
Distawrwydd yn y Sgwâr ar gyfer 11 Tachwedd. Cynhelir y Sioe
Awyr ar 1 a 2 Gorffennaf a bydd cynrychiolaeth sylweddol gan y Lluoedd Arfog. Y Fyddin Cyfeiriodd Chris
Evans at y materion canlynol: ·
Digwyddiad
llwyddiannus GIG/Cyn-filwyr a gynhaliwyd yn y Grange
gyda dros 90 o bobl yn bresennol ·
Cyllid
wedi'i sicrhau a phaneli'r gasebo wedi cyrraedd, ar
gyfer digwyddiadau ·
Mae recriwtio
ar 102% ar hyn o bryd gyda phobl ar y rhestr aros ·
Cynhelir
Diwrnod Ymwybyddiaeth o'r Diwydiant Brigâd ym mis Mai, gyda mwy na 20 o
stondinau ·
Diwrnod
y Lluoedd Arfog – trefniadau wedi'u gwneud
a bydd nifer o unedau’n bresennol ar y diwrnod ·
Sioe Awyr
– trafodaethau gyda swyddogion DASA yn parhau ·
Cadarnhad
presenoldeb yng Ngŵyl Traeth Aberafan ·
Cyllid
ar gael o hyd ar gyfer cynlluniau o gronfa gyllido'r Weinyddiaeth Amddiffyn Cadeirydd Dywedodd y
Cynghorydd Burtonshaw fod yna bellach gyllideb benodol ar gyfer digwyddiadau'r
lluoedd arfog, a dywedodd ei bod wedi bod mewn cysylltiad â Chymdeithas y
Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA) ar amrywiaeth o faterion sy’n
ymwneud â chyn-filwyr. Amlinellodd y digwyddiad llwyddiannus i gyn-filwyr a
phobl ifanc yn Stadiwm Liberty ar gyfer gêm yr Elyrch
yn erbyn Burnley. Spencer Martin Dywedodd fod rhestr
benodol gan Lywodraeth Cymru o fudd-daliadau y gallai'r sawl a oedd yn gymwys
i’w derbyn hefyd elwa o wasanaethau ychwanegol am ddim. Serch hynny, nid oedd y
rhestr hon yn cynnwys pensiynau cyn-filwyr. Mae'n ymchwilio i'r rhesymau dros
hyn a dywedodd y byddai'n adrodd yn ôl ar ei gynnydd maes o law. |