Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

5.

Cofnodion. pdf eicon PDF 63 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016 yn gofnod cywir.

 

6.

Cyflwyniad gan Aartic Training/Bwrdd Hyfforddi Prydeinig.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad llawn gwybodaeth i'r panel ynghylch gwaith Aartic Training a The British Training Board gan Adrian Rabey.

 

Sefydlwyd y cwmnïau ganddo a'i frawd Antony yn 2014 yn dilyn diwedd eu gyrfaoedd yn y fyddin wedi 22 o flynyddoedd o wasanaeth.

 

Roeddent wedi sylweddoli ar ôl eu rhyddhad nad oedd y cymwysterau yr oeddent wedi eu hennill yn y fyddin yn drosglwyddadwy i'r farchnad lafur sifil a gwelson nhw gyfle i sefydlu gwasanaeth pontio er mwyn cynnig cymorth i gyn-aelodau'r lluoedd arfog wrth sefydlu eu hunain mewn cyflogaeth sifil.

 

Nododd Adrian gronfa dysgu uwch gan y Weinyddiaeth Amddiffyn y gall pobl fanteisio arni er mwyn talu tuag at gostau cyrsiau, er bod rhaid iddynt wneud cyfraniad at yr hyfforddiant. Mae gan y ddau gwmni dros 200 o gyrsiau erbyn hyn ar amrywiaeth eang o weithgareddau cyflogaeth. Amlinellodd y cwmnïau amrywiol y maent yn gysylltiedig â nhw er mwyn darparu cyfleoedd cyflogaeth.

 

Dywedodd fod y cwmnïau’n cyflogi dros 1,800 o gyn-weithwyr o’r lluoedd arfog erbyn hyn a'u bod newydd ennill "gwobr arian".

 

Amlinellodd fod canolfan galw heibio wedi'i sefydlu'n ddiweddar ar Heol Eaton, Trefansel ar y cyd â SSAFA ac roedd croeso i aelodau'r panel fynd iddi.

 

Nododd y byddai'n ddiolchgar i aelodau'r panel os byddent yn hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigir gan y ddau gwmni cymaint â phosib.

 

7.

Y diweddaraf gan aelodau'r panel.

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariadau ar lafar gan Swyddogion ac Aelodau'r Panel ynglŷn â'r gweithgareddau a’r digwyddiadau presennol ac arfaethedig, llwythi gwaith eu grwpiau/sefydliadau priodol, gan gynnwys y meysydd canlynol.

 

GIG Cymru i Gyn-filwyr

Adroddodd Victoria Williams fod y gwasanaeth wedi derbyn 35 o atgyfeiriadau yn ddiweddar ond bod y rhestr aros wedi lleihau i chwe mis yn awr.

 

Amlinellodd y bu'r digwyddiad Diwrnod Ymwybyddiaeth a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Heddlu De Cymru ar 6 Hydref yng nghanolfan y fyddin yn llwyddiannus a’u bod wedi derbyn adborth ardderchog gan y rheiny a ddaeth iddo.

 

Cyfeiriodd at y cysylltiad â Barnardo's a Military Families.

 

Rhoddodd fanylion hefyd am gynllun peilot sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ynglŷn â chymorth cyfreithiol a'i argaeledd i gyn-aelodau'r lluoedd arfog.

 

Newid Cam

Dywedodd Kev Bogdan fod y gwasanaeth yn brysur o hyd gyda rhwng 10 a 12 o atgyfeiriadau'r mis. Nododd eu bod nhw wedi dechrau cymryd rhan mewn cynllun yng Ngharchar Abertawe yn dilyn llwyddiant cynllun o'r fath yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Heddlu De Cymru

Cyfeiriodd Alison Fisher at y prosiect "Cerdyn Ymweld Cadw'n Ddiogel" sydd wedi'i gyflwyno. Nododd fod pob  cyn-aelod o’r lluoedd arfog yn cael ei annog i gofrestru ar ei gyfer.

 

Gall fod yn gymorth mawr wrth nodi cefnogaeth a chymorth addas i gyn-aelodau'r lluoedd arfog, yn enwedig y sawl â phroblemau iechyd meddwl, PTSD etc, yn enwedig ar adeg eu haestio.

 

Nododd fod yr heddlu'n annog meddygfeydd meddygon teuluol i gymryd rhan yn y cynllun a dywedodd y byddai'n dosbarthu gwybodaeth i'r panel yn y cyfarfod nesaf.

 

Age Cymru Bae Abertawe

Rhoddodd Nicola Russel-Brooks gyflwyniad ar ran y panel ar botensial ei sefydliad hi i fod yn rhan o gais am gyllid gyda Chynghrair Henoed Cymru. Nododd y byddai rhan fwyaf o’r cyllid posib yn cael ei ddefnyddio ar waith adnewyddu yn Cambria ac yn cynllun y "Woodies".  Dywedodd Steven Jones o'r Llynges Frenhinol ei fod dan yr argraff y byddai Cambria yn cael ei wacáu yn y blynyddoedd nesaf ac felly roedd yn ansicr beth gallai'r cefndir i'r cais fod.

 

Cyfeiriodd at amcanion amlinellol a sail elfen rhaglen ddigyfalaf y prosiect a dywedodd ei bod wedi cael anhawster wrth gael gwybodaeth lawn ac, o ganlyniad, ei bod hi'n ansicr a ddylai ymrwymo i gefnogi'r cynllun. Amlinellwyd a thrafodwyd amcanion y cynllun a theimlai aelodau'r panel fod llawer o'r cynigion eisoes yn cael eu gweithredu yn Abertawe ac y gallai arwain at ddyblygu gwaith ac felly nid oedd hi’n gallu argymhell cefnogi'r cynllun.

 

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Dywedodd John Howells fod Cam 1 o'r gwaith adeiladu yn SA1 wedi cychwyn a disgwylir y bydd yn cael ei gwblhau ym mis Medi 2018. Cyfeiriodd hefyd at gwrs gradd newydd ar Reoli Gwestai y byddai’r brifysgol yn ei gynnal, gan ddosbarthu gwybodaeth amdano. Byddai'r cwrs yn derbyn 3 myfyriwr y flwyddyn a byddai cyswllt profiad gwaith cryf â Gwesty'r Marriott.

 

SSAFA

Estynnodd Dave Singletary wahoddiad i holl aelodau'r panel i ddawns flynyddol y SSAFA yng Ngwesty Traeth Aberafon ar 4 Chwefror 2017.

 

Cododd y mater am yr awdurdod yn cynnwys holiadur ar gefn ei holl ffurflenni sy’n ymwneud â gwasanaeth milwrol. Rhaid i’r swyddogion ystyried y mater ac adrodd yn ôl.

 

Dywedodd hefyd ei fod ar banel Castell-nedd Port Talbot a nododd y manteision posib o gyfarfod neu ddigwyddiad ar y cyd rhwng y 3 phanel er mwyn rhannu gwybodaeth, syniadau, arfer gorau etc. Croesawyd yr amgrwm gan aelodau'r panel.

 

Holodd hefyd ynghylch "blychau" Age Concern a ddarparwyd yn flaenorol i bobl hŷn at ddiben trefnu meddyginiaeth/manylion cyswllt y teulu ar gyfer achos argyfwng a ph'un a oeddent ar gael o hyd. Nododd Nicola Russel-Brooks ei bod hi'n meddwl bod y cynllun yn gweithredu o hyd ond y byddai'n sefydlu pwynt cyswllt ac yn adrodd yn ôl.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Adroddodd Tony Colburn fod digwyddiad Dydd y Cofio a gynhaliwyd yn y Mwmbwls wedi bod yn llwyddiannus ac y cafwyd presenoldeb da. Er hynny, nododd fod ei gangen ef, fel llawer eraill, yn cael anhawster wrth recriwtio gwirfoddolwyr gweithgar i drefnu digwyddiadau.

 

Y Llynges

Cadarnhaodd Steve Jones o'r Llynges Frenhinol ei farn ef mai’r bwriad oedd gwacáu'r Cambria dros y blynyddoedd nesaf i adeilad newydd ym Mae Caerdydd.

 

Holodd hefyd ynghylch y gost uchel i'r ganolfan o leoli'r cerbyd yng nghanol y ddinas ac yn ardal Sgwâr y Castell.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i ddymuniadau gorau'r panel gael eu trosglwyddo i'r Is-gomander Ruth Fleming ar ôl genedigaeth ddiweddar ei merch.

 

 

 

 

Cadeirydd

Adroddodd June Burtonshaw ar drafodaethau yr oedd wedi'u cynnal â’r arweinydd ynghylch sicrhau cyllid ar gyfer gwaith y cyfamod ar gyfer digwyddiadau megis Diwrnod y Lluoedd Arfog, Distawrwydd yn y Sgwâr a chefnogaeth ar gyfer defnyddio canol y ddinas ar gyfer hyrwyddo'r lluoedd arfog a chyhoeddusrwydd ar eu cyfer. Meddai y byddai'n parhau i drafod cyllido â'r arweinydd.

 

Nododd fod y cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr wedi cefnogi'n unfrydol y cynnig ynglŷn â holiadur "Cyfrwch nhw" y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer y cyfrifiad. Nododd hefyd ei bod wedi derbyn cefnogaeth i'r ymgyrch gan 2 AS lleol.

 

Aartic Training/The British Training Board

Ychwanegodd Adrian Rabey at ei gyflwyniad cynharach drwy nodi bod eu sefydliad wedi cynnal cwrs "lletygarwch" yn ddiweddar a bod pob un o'r pedwar cyn-aelod o’r lluoedd arfog a’i fynychodd wedi cael cyflogaeth ers hynny. Cyfeiriodd hefyd at ddigwyddiad codi arian diweddar yn Nhregŵyr yr oeddent wedi cyfranogi ynddo a oedd wedi codi dros £1,400 o bunnoedd.

 

Digwyddiadau Arbennig

Cyfeiriodd Nigel Jones at y "Distawrwydd yn y Sgwâr" llwyddiannus a gynhaliwyd ac a ddenodd bron i 1,000 o bobl, a chroesawodd waith y cadeirydd i sicrhau cyllid ar gyfer digwyddiadau'r cyfamod