Lleoliad: Ystafell Gyfarfod y Siambr - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Byron
Lewis, Peter Neville, Victoria Williams, Sophie O'Kelly a Tony Colburn. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim. |
|
Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y panel a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2016 yn gofnod
cywir. |
|
Cais am Gyllid: Corfflu Cadetiaid Môr, T.S.Ajax, Abertawe. Cofnodion: Amlinellwyd y
broses ddiwygiedig ar gyfer ceisiadau ariannu gan Spencer Martin, Cydlynydd Perthnasoedd
y Sector Gwirfoddol. Derbyniwyd cais gan
y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gofyn am farn y panel ar
gais ariannu gan Gorfflu Cadetiaid Môr, T.S.Ajax,
Abertawe. Trafodwyd gan
aelodau'r panel enw arbennig y Corfflu a'r cais ariannu ar gyfer gwaith gwella
i'w adeilad ger afon Tawe. Amlinellodd Sue
Richards-Hoskin fod Cruse Bereavement hefyd wedi cyflwyno cais am arian at ddiben
cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi hanner ddiwrnod ledled Abertawe,
Castell-Nedd a Phen-y-bont ar Ogwr. Manylodd Spencer Martin
hefyd gefndir cais am arian Cymru Gyfan gan FAON a byddai'n cael ei drafod
ymhellach mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf. Manylion y cais i'w e-bostio i holl
aelodau'r Panel. PENDERFYNWYD cytuno i gymeradwyo a chefnogi ceisiadau
am arian gan y Corfflu Cadetiaid Môr, T.S Ajax a Cruse. |
|
Y diweddaraf gan aelodau'r panel. Cofnodion: Rhoddwyd
diweddariadau ar lafar gan Swyddogion ac Aelodau'r Panel ynglŷn â'r gweithgareddau presennol ac arfaethedig, digwyddiadau a
llwythi gwaith eu grwpiau/sefydliadau priodol, yn cynnwys y meysydd canlynol. Diwrnod y
Lluoedd Arfog – 25 Mehefin Nododd bawb
llwyddiant y diwrnod a diolchwyd i'r holl sefydliadau a gymerodd ran am eu help
a'u cymorth. Nodwyd llwyddiant y
casgliadau ariannol a gafwyd ar draws y ddinas. Codwyd y mater ynghylch
y Polyn Baner sengl unwaith eto. Bu hyn yn anffodus gan fod yr un mater wedi'i
drafod yn flaenorol a chafwyd trafodaeth hir er mwyn datrys y broblem. Trafodwyd unwaith
eto y posibilrwydd o brynu dau bolyn baner dros dro. Awgrymodd Phil Flower y gallai'r Lleng Brydeinig
Frenhinol gynorthwyo gyda'r pryniad, pe bai nawdd yn broblem. Dywedodd Spencer
Martin y byddai'n gwirio gyda'i gyd-weithwyr yn yr Adran Digwyddiadau Arbennig
i ganfod pam oedd y mater wedi codi eto, ac i drafod ffordd ymlaen a datrysiad. Sioe Awyr – 2/3
Gorffennaf Croesawyd unwaith
eto lwyddiant a chyhoeddusrwydd da yn deillio o'r sioe gan bawb. Bu'r
arddangosfeydd awyr a thir yn boblogaidd iawn unwaith eto, er bu yna ymholiad
ynglŷn â diffyg gallu Aelodau'r Panel Cyfamod i gael stondinau arddangos
yn ystod y digwyddiad. Dywedodd Spencer
Martin y byddai'n holi ei gyd-weithwyr yn yr Adran Digwyddiadau Arbennig i
gadarnhau'r rhesymau am y cyfyngiad. Digwyddiadau ar
y Gweill Adroddodd Chris
Evans ar y ddau ddigwyddiad dilynol ·
Diwrnod
Trosglwyddo gyda'r AGPh – 14 Medi ·
Diwrnod
Ymwybyddiaeth o'r Hen Filwyr yn y Grange – Hydref
(Dyddiad i'w gadarnhau) Amlinellodd a
dosbarthodd Phil Flower gopïau o'r niferus digwyddiadau a gynhelir
dros Ŵyl y Cofio 2016. Mynegodd y byddai
Personél y Lluoedd Arfog yn mynychu, yn amodol ar gadarnhad, a chasgliad
ariannol yn y gêm rhwng Dinas Abertawe a Man Utd yn ystod penwythnos 5/6
Tachwedd. Dywedodd y
Cadeirydd y byddai'n siarad â'i chydweithwyr yn y Cyngor i geisio
trefnu digwyddiad i hen filwyr yn ystod y gêm, yn debyg i ddigwyddiad
llwyddiannus y llynedd. CGGA Dywedodd Alyx Baharie am wefan newydd InfoEngine a oedd bellach ar waith a mynegodd y byddai'n
trafod gyda Spencer Martin y ffordd orau i gael gafael ar ddolen o dudalen y
cyfamod ar wefan y Cyngor. Heddlu De Cymru Cyfeiriodd Alison
Fisher at y prif gynlluniau sydd ar waith i ymdrin â hen bersonél y Lluoedd
Arfog sy'n dod i gysylltiad â'r heddlu, sef y R IT
(Rheoli Integredig Troseddwyr) a STOMP (Supporting Transition
of Military Personnel). Nododd y berthynas
gydweithio arbennig rhwng yr Heddlu a Change Step, yn
enwedig wrth ddelio â materion yn y ddalfa. Manylodd hefyd ar y
polisi "dargyfeiriol" a defnyddir gan yr Heddlu wrth ymdrin â
man-droseddau. Adroddiad y
Cadeirydd Diolchodd June Burtonshaw
i'r holl asiantaethau am eu cefnogaeth ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe
Awyr. Amlinellodd y
mesurau a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod i roi cymorth i hen bersonél y
Lluoedd Arfog wrth ymgeisio am dai cyngor yn Abertawe. Mynegodd y byddai
nifer o hen filwyr yn derbyn gwahoddiad i gala nesaf yr Arglwydd Faer. |