Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim.

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 235 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

Amlinellodd a manylodd Neil Cornish a Mallika Singh ar y cynllun sy'n cael ei ariannu gan FiMT ar y cyd â Phrifysgol Northampton a Nacro i geisio adolygu a gwella nodi cyn-filwyr yn y system gyfiawnder a monitro’u defnydd o gefnogaeth ddilynol unwaith y cânt eu nodi.

Mae'r cynllun yn cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban ac mae cam cenedlaethol o gyfweliadau wedi’i gwblhau, ond ystyrir datblygu cam mwy lleol yn awr yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd eu bod wedi cysylltu ag arweinwyr y Lluoedd Arfog yng  ngwasanaeth yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf lleol ac y bydden nhw'n ceisio datblygu'r cysylltiadau hyn ymhellach. Cysylltwyd hefyd â Charchar Abertawe a threfnwyd ymweliad yno ym mis Tachwedd.

Gofynnodd i unrhyw wirfoddolwyr o'r grwpiau a’r sefydliadau amrywiol o fewn y panel ddod ymlaen i gael eu cyfweld.

Gellir cysylltu â hwy drwy e-bost ynNeil.Cornish@northampton.ac.uk a Mallika.Singh@nacro.org.uk

12.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Nid oedd Bethan Dennedy yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, byddai diweddariad yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod.

13.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

Adroddodd Capten Huw Williams fod 3 mis prysur wedi bod ers y cyfarfod diwethaf gyda phob uned filwrol yn yr ardal yn gweithio'n galed i ddarparu digwyddiadau a rhoi cefnogaeth i ddigwyddiadau amrywiol.

Cafodd llawer o bersonél milwrol eu defnyddio ar ymgyrch UNITY yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst i gefnogi Gemau'r Gymanwlad. Roedd hyn yn ddigwyddiad gwych a chafodd ein bechgyn a'n merched fynediad am ddim i rai o'r digwyddiadau a gynhaliwyd.

Yn fwy diweddar, roedd yr holl wasanaethau wedi coffáu marwolaeth drist EM Y Frenhines Elizabeth II drwy gynnal gwasanaethau coffa a diolchgarwch yn lleol, yn genedlaethol ac ar draws y DU.

Cawsom gyfle hefyd i groesawu'r Brenin Siarl III i Gymru a oedd yn anrhydedd fawr i'r bobl hynny yn y lluoedd arfog a gymerodd ran yn y digwyddiad arwyddocaol hwn.

Mae dyddiadur llawn gennym o ddigwyddiadau sydd ar ddod, dyma rai o'r uchafbwyntiau allweddol:

22 Hydref: Mae'r Gweilch yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog cyn eu gêm yn erbyn y Stormers.  Mae'r Gweilch yn cynnig mynediad am ddim i'w gemau ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog rheolaidd ac wrth gefn sydd ar wasanaeth.

29 Hydref 22: Lansio Apêl y Pabïau

11 Tachwedd: Diwrnod y Cadoediad

11 Tachwedd: Gŵyl Lluoedd Arfog y Maer – Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot

12 Tachwedd: Gŵyl Lluoedd Arfog yr Arglwydd Faer – Neuadd Brangwyn, Abertawe

13 Tachwedd: Gorymdeithiau Cofio ar draws yr ardal gyda Gwasanaeth Eglwys yn Eglwys y Santes Fair am 14:00

Amlinellodd fod y gatrawd wedi dychwelyd yn ddiweddar o'i hymarfer Hyfforddiant Parhaus flynyddol draw yn yr Almaen. Bu’n llwyddiant mawr.

Os oes unrhyw ddigwyddiadau ar ddod yr hoffai sefydliadau i ni fynd iddynt, ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosib i ni gan fod angen 6 wythnos o rybudd i gyflwyno'r ffurflenni clirio digwyddiadau milwrol cyhoeddus angenrheidiol a byddwn yn ceisio mynd lle bynnag y bo modd.

Amlinellodd y Swyddog Gwarantedig Rob Govier y cysylltiadau agos sy'n bodoli rhwng HMS Cambria ac Adran Tawe yn Abertawe.

Dywedodd nad oedd wedi gweld rhaglen ar gyfer Cyfnod y Cofio eto, ond roedd yn hapus i ddarparu presenoldeb mewn lifrai i ddigwyddiadau lle bynnag y bo'n bosib.

14.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

15.

Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth.

Cofnodion:

Nid oedd Yasmin Todd yn gallu dod i’r cyfarfod, byddai diweddariad yn cael ei ddosbarthu yn dilyn y cyfarfod.

16.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Cyngor Abertawe

Gofynnodd Wendy Lewis i aelodau'r panel pe bai ganddynt gyn-filwr sy'n chwilio am gymorth gan y cyngor, a fyddai modd eu cyfeirio ati hi yn y lle cyntaf er mwyn iddi geisio eu cyfeirio at y bobl briodol yn yr adrannau perthnasol.

Amlinellodd Spencer Martin fod cronfa cyn-filwyr y cyngor yn dal ar gael ar gyfer ceisiadau.

Rygbi'r Gweilch

Ailadroddodd Tom Sloane y bydd y Gweilch yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog cyn eu gêm yn erbyn y Stormers ddydd Gwener hwn.

Diolchodd i'r 3 gwasanaeth am eu cefnogaeth yn y cyfnod cyn y gêm, a mynegodd y byddai gweithgareddau amrywiol yn digwydd cyn y gêm ac y byddai cadetiaid yn gorymdeithio o amgylch y cae yn ystod hanner amser y gêm.

Byddai 9 ysgol leol hefyd yn bresennol yn y gêm.

Dywedodd y byddai'n gwneud cais am arian ar gyfer y fenter In The Squad y maent ei chynnal, gan fod y lefel bresennol o gyllid yn dod i ben.

The Poppy Factory

Nododd Kirsty Gronow, os yw aelodau'r panel yn gwybod am unrhyw un a allai elwa o gefnogaeth a chymorth ei sefydliada, fod croeso iddynt eu cyfeirio ati.

Amlinellodd y byddai'n awyddus i fynd i unrhyw ddigwyddiadau hwb y cyn-filwyr yn yr ardal sy'n digwydd ar ddyddiau'r wythnos.

Bwrdd Hyfforddiant Prydeinig

Amlinellodd Adrian Rabey fod pobl yn dal i allu ymuno â'r rhaglen Proud, sy'n ceisio cael swyddi i gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd yn y Gwasanaeth Sifil ac mae'n cael ei hariannu'n llawn yng Nghymru.

Manylodd ar ddigwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ar 27 Hydref yng ngwesty'r Village Hotel sy'n gysylltiedig â rolau diogelwch gyda Border Force.

Dywedodd eu bod yn parhau i weithio gyda Busnes Cymru ar eu rhaglen Veterans Enterprise UK sydd â grantiau o £2,000 ar gyfer busnesau newydd, ac mae ar gael tan fis Mawrth 2023. Os oes angen cymorth ar unrhyw un i wneud cais, cysylltwch.

SO Fit

Amlinellodd Phil Jones eu bod wedi cynnal rhai sesiynau rhagflas iechyd meddwl mewn ysgolion yn CNPT a fu'n llwyddiannus. Nod y sesiynau oedd cefnogi plant y gwasanaeth sydd â rhieni/gwarcheidwaid sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd.

Y gobaith yw eu cyflwyno i ysgolion eraill yn CNPT ac Abertawe yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd rydym yn ysgrifennu rhaglen les i gyn-filwyr, sy'n aros am rywfaint o gyllid a sefydliadau partner i gysylltu â nhw, a nododd y byddai'n cysylltu â Tom yn y Gweilch i geisio cysylltu â menter In The Squad sydd eisoes yn bodoli. Rhaglen fydd hon i gyn-filwyr ag Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Amlinellodd fod SO Fit wedi ennill gwobr arian yng Ngwobrau Cyfamod y Lluoedd Arfog diweddar ac mae 90% o weithwyr y cwmni’n gyn-filwyr ar hyn o bryd. Maent yn bwriadu cyflogi rhagor o gyn-filwyr a milwyr wrth gefn.

Dywedodd ei fod ef ei hun ac eraill wedi ymddiswyddo o fwrdd Hwb Cyn-filwyr Abertawe ym mis Gorffennaf, felly nid oedd bellach yn ymwneud â'r grŵp.

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Siaradodd Phil Flower ymhellach am y diweddariad gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn a manylodd ar 23 o ddigwyddiadau o gwmpas Cyfnod y Cofio. Byddai'n dosbarthu rhestr i aelodau'r panel ar ôl y cyfarfod.

Amlinellodd fod y Lleng Brydeinig Frenhinol bob amser yn ceisio recriwtio pobl i gasglu ar gyfer Apêl y Pabïau yn yr ardal leol er mwyn ceisio adfer y swm a gasglwyd i lefelau cyn y pandemig.

Nododd Tom Sloane y byddai cyfle i gael casgliad bwced yn ystod gêm ddydd Gwener os oedd yn ymarferol

Amlinellodd Phil y bydd aelodau o’r Lluoedd Arfog yn bresennol yng ngêm Yr Elyrch yn erbyn Wigan ar 5 Tachwedd.

Amlinellodd hefyd y bydd Arddangosfa Goffa Brwydr Prydain yn cael ei lansio gan Swyddog Awyr Cymru ddydd Sadwrn 22 Hydref am 10.30am yng Nghanolfan y Cwadrant, Abertawe.

Beicwyr y Lluoedd Arfog

Amlinellodd Dai Williams fod canolfan galw heibio newydd i gyn-filwyr yn cael ei lansio ddydd Sul ym Mae Copr yn Castle Street, Abertawe, rhwng 10am a 12pm, ac mae croeso i bawb.

Y nod yw cyflwyno'r sesiynau galw heibio yn ystod yr wythnos hefyd.