Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Borsden - 01792 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 221 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Diwrnod y Lluoedd Arfog / Sioe Awyr.

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd fod Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr unwaith eto wedi bod yn llwyddiant mawr.

 

Diolchodd i bawb a gymerodd ran am eu cefnogaeth a'u cymorth dros y ddau ddigwyddiad.

 

Dywedodd y bydd y Sioe Awyr yn cael ei chynnal dros benwythnos 1 a 2 Gorffennaf 2023.

 

Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog 2023 ar 24 Mehefin.

 

4.

Prosiect Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol.

Cofnodion:

Amlinellodd Bethan Dennedy fod cylchlythyr diweddar Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi'i ddosbarthu ym mis Mehefin.

 

Nododd ei bod yn ceisio cryfhau'r ymddiriedolaethau a'r grantiau sydd ar gael i grwpiau ac mae'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn nigwyddiadau amrywiol y Cofio.

 

5.

Diweddariadau gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cofnodion:

Nododd yr Is-gomender Andy Davies ei fod, yn ogystal â bod yn swyddog ar wasanaeth, yn gysylltiedig â HMS Cambria, Is-adran Tawe a Chadetiaid Môr Abertawe.

 

Dywedodd fod HMS Scott yn parhau ar ei ymfyddiniad cyfredol a gobeithiai y gallai'r llong ymweld â'r ddinas eto.

 

Amlinellodd y Cadeirydd ei bod wedi cael galwad Skype ddiweddar gyda chomander y llong a fynegodd bod cynlluniau ar gyfer ymweliad arall.

 

Yna amlinellodd Andy Davies y bydd 50 o chwaraewyr a staff y Gweilch yn treulio rhywfaint o'u hyfforddiant cyn y tymor yng nghyfleuster y Llynges yn Portsmouth.

 

Nododd fod y gwasanaeth wedi cefnogi'r gwahanol ddigwyddiadau i Goffáu Falkland a gynhaliwyd yn ddiweddar a bod y Cadetiaid Môr wedi bod yn rhan o'r Sioe Awyr. Gofynnodd a oedd yn bosib cael mwy o le yn sioe'r flwyddyn nesaf fel y gellid cynnwys cyfarpar ac arddangosfeydd ychwanegol.

 

Roeddent wedi bod yn nigwyddiad codi'r faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ac yn ddiweddar roedd wedi mynd i ddigwyddiad y Lluoedd Arfog ym Mharc y Scarlets.

 

Amlinellodd fod y Cadetiaid Môr ar gael i fynd i ddigwyddiadau a hyrwyddo'u grŵp a'u bod wedi mynd i sioe hen geir a hanner marathon Abertawe.

 

Roedd yr Arglwydd Raglaw wedi bod mewn seremoni ym mis Ebrill i roi gwobrau a nododd y byddai hi a'r Arglwydd Faer yn mynd i ddigwyddiad ym mis Gorffennaf sy'n gysylltiedig â Jiwbilî Blatinwm y Frenhines.

 

Byddai'r gwasanaeth yn bresennol yn Sioe Frenhinol Cymru'r wythnos nesaf ac amlinellwyd bod y gwasanaeth yn awyddus i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ddigwyddiadau'r Cofio gan gynnwys unrhyw ddigwyddiad yn y Brangwyn a'r orymdaith ar y Sul.

 

Dywedodd Capten Huw Williams y daeth llawer o bobl i ddigwyddiad llofnodwyr y Lluoedd Arfog yn stadiwm Swansea.com ond bod lle o hyd i gael rhagor o gwmnïau a sefydliadau i ymwneud â'r cyfamod.

 

Amlinellodd fod wythnos y Lluoedd Arfog wedi bod yn un brysur iawn gyda digwyddiadau yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot a Doc Penfro.

 

Er mwyn sicrhau'r gynrychiolaeth fwyaf posib o'r holl wasanaethau yn y gwahanol seremonïau a digwyddiadau, dywedodd ei fod wedi gofyn am y rhybudd cynharaf posib gan fod yn rhaid iddo gyflwyno gwaith papur y digwyddiadau milwrol cyhoeddus i Heddlu De Cymru o leiaf 6 wythnos cyn digwyddiad, er mwyn sicrhau presenoldeb digonol gan yr heddlu a bod y chwiliadau perthnasol yn cael eu cynnal.

 

Amlinellodd gyfraniad y gwasanaethau yn y Sioe Awyr a dywedodd mai dyma'r tro cyntaf iddo gymryd rhan ac roedd yn credu ei fod wedi bod yn ddigwyddiad gwych ac yn llwyddiant mawr gyda llawer o gefnogaeth ac arddangosfeydd gan wahanol unedau milwrol.

 

Yn anffodus bu'n rhaid i rai o'r grwpiau dynnu'n ôl ar fyr rybudd oherwydd COVID-19 a oedd yn gysylltiedig â digwyddiad arall ym Mhort Talbot.

 

Amlinellodd fod mater wedi'i godi gydag ef sef y gost o £380 y mae'n rhaid i'r elusennau milwrol ei thalu yn y digwyddiad, a olygai fod rhai ohonynt yn colli cryn dipyn o arian dros y penwythnos, a gofynnodd i'r mathau hyn o sefydliadau gael eu rhoi ym mhabell y cyfamod.

 

Roedd pob un o'r 3 gwasanaeth wedi cymryd rhan yn nigwyddiad diweddar y Lluoedd Arfog yn Wrecsam a ras gyfnewid baton y Frenhines.

 

Byddai'r Fyddin hefyd yn bresennol yn Sioe Frenhinol Cymru a mynegodd y byddent fel catrawd yn mynd i'r Almaen ym mis Awst ar gyfer ymarfer hyfforddi pythefnos.

 

Mae'r ffocws hefyd yn awr yn symud tuag at bresenoldeb a chyfranogiad mewn digwyddiadau Cofio yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

 

Yn 2023, cynhelir dathliadau Cymreig y Lluoedd Arfog yng Nghasnewydd ond yn 2024 bydd yn Abertawe.

 

Cyfeiriodd at y digwyddiadau posib y gellid eu cynnal yn Abertawe, gan gynnwys cyfuno Diwrnod y Lluoedd Arfog a'r Sioe Awyr o bosib dros benwythnos y 6 a 7 Gorffennaf gan gynnwys presenoldeb sawl band milwrol.

 

Mae digwyddiad milwrol posib gyda'r nos yn y Brangwyn yn opsiwn.

 

Mae angen i drafodaethau cynnar rhwng yr holl asiantaethau dan sylw barhau er mwyn sicrhau yr eir ati i gyflawni'r lefel ofynnol o gynllunio.

 

Mae 5 o bersonél wedi'u lleoli yn Birmingham i gefnogi gemau'r Gymanwlad sydd ar y gweill.

 

Mae Brigâd 160 hefyd yn datblygu cysylltiadau â Chyngor Hil Cymru a'r ganolfan gymunedol Affricanaidd, y mae'r ddau ohonynt yn Abertawe ac yn cefnogi mentrau LHDT Cyngor Abertawe.

 

Rhoddodd ddiweddariad hefyd gan yr Arweinydd Sgwadron Adam Davies yn Sain Tathan a oedd wedi mynychu digwyddiadau'r Jiwbilî ym Mae Caerdydd a Llundain ac wedi bod yn rhan o Wythnos y Lluoedd Arfog.

 

Roeddent hefyd yn bresennol yn y Sioe Awyr ac roedd y sioe yn llwyddiant enfawr iddynt o ran cysylltiadau cyhoeddus a recriwtio. Byddant hefyd yn bresennol yn Sioe Frenhinol Cymru a disgwylir iddynt hefyd fynd i ddigwyddiad coffa ar 6 Awst yng Nghaeriw/Cheriton a byddant yn rhan o ddigwyddiad treftadaeth De Asiaidd yng Nghaerdydd ar yr un diwrnod.

 

Maent hefyd bellach yn canolbwyntio ar gymryd rhan yn nigwyddiadau'r Cofio ar gyfer yr hydref.

 

Yna rhoddodd yr Arweinydd Sgwadron Phil Flower ddiweddariad ar ran y cadetiaid awyr.

 

Amlinellodd fod y cadetiaid, ar ôl y pandemig, bellach yn dechrau cymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau awyr agored â phosib, gyda gweithgareddau amrywiol sy'n cynnwys dringo yn yr awyr agored, saethu colomennod clai, caiacio, marchogaeth etc.

 

Cyfeiriodd at y digwyddiad a gynhaliwyd yng nghyfleuster St Madocs ym Mhenrhyn Gŵyr, a oedd wedi bod yn ganolfan ragorol mewn lleoliad gwych.

 

Roedd y cadetiaid hefyd wedi bod yn rhan o gario ffagl Jiwbilî'r Frenhines ac fe fuon nhw'n cynorthwyo gyda'r hanner marathon. Byddant yn bresennol yn Sioe Gŵyr, y Treiathlon a 10k Bae Abertawe.

 

Mynegodd ei fod wedi cysylltu'n ddiweddar â swyddogion arweiniol lleol Cadetiaid y Fyddin a'r Môr i geisio cael mwy o weithio cydlynol a defnyddio gweithgareddau ac adnoddau a allai fod o fudd i bawb.

 

Mae dros 150 o gadetiaid bellach yng Ngorllewin Morgannwg, gyda 46 o gadetiaid yn mynd i wersyll yr haf eleni, ond mae recriwtio'n parhau lle bynnag y bo modd.

 

Cyfeiriodd at y grant a dderbyniwyd gan Gyngor Abertawe o £6,500 a ddefnyddiwyd i ddarparu gweithgareddau awyr agored a hyrwyddo gweithgarwch corfforol, a fu'n llwyddiannus gyda'r bobl ifanc.

 

Roedd y cadetiaid wedi codi tua £1,600 yn ystod apêl y Pabi a £4,000 ar gyfer apêl Wings.

 

Manylodd y bydd y cadetiaid yn cymryd rhan yng ngwasanaeth y Sul Brwydr Prydain yng Nghilâ ar 11 Medi.

 

Mae manylion llawn holl ddigwyddiadau'r Cofio yn cael eu coladu a byddant yn cael eu dosbarthu i'r grŵp pan fyddant wedi'u cwblhau.

 

Diolchodd hefyd i'r Capten Huw Williams am ei holl waith a'i ymdrech yn y Sioe Awyr a oedd yn ddiamau wedi helpu tuag at ei lwyddiant.

 

6.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Fforwm y Lluoedd Arfog.

Cofnodion:

Amlinellodd Steve Spill fod Fforwm Lluoedd Arfog y Bwrdd Iechyd wedi cyfarfod ar 25 Mai gyda'r cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 8 Medi.

 

Amlinellodd fod y fforwm wedi derbyn cyflwyniad diddorol iawn gan aelod o staff sydd wedi bod yn filwr wrth gefn ers blynyddoedd lawer ac a fu'n gwasanaethu am 3 mis yn ddiweddar i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

Yn anffodus, bu'n rhaid gohirio'r diweddariad arferol o'r uned aelodau artiffisial tan y cyfarfod nesaf.

 

Bydd arolwg gweithlu'r bwrdd iechyd a fydd yn ceisio data a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â chyfranogaeth yng ngwasanaeth y lluoedd arfog/milwyr wrth gefn yn cael ei ddosbarthu'n fuan.

 

Amlinellodd Victoria Williams fod GIG Cymru i Gyn-filwyr, yn ystod y chwarter diwethaf, wedi derbyn 23 o atgyfeiriadau i'w gwasanaeth, ac roedd 19 ohonynt wedi dewis defnyddio'r gwasanaeth.

 

Amlinellodd y cynhaliwyd cyfarfod diwethaf y Rhwydwaith Clinigol ar 2 Mehefin a chynhelir yr un nesaf ar 22 Medi. Mae croeso i bawb ac mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn bersonol yng nghanolfan Bulldogs ym Maglan.

 

Roedd hi wedi bod i ddigwyddiad diweddar gan y Lluoedd Arfog a gynhaliwyd ar y cyd â gorsaf radio The Wave a fu'n llwyddiannus ac roedd y gwasanaeth wedi derbyn 3 atgyfeiriad o ganlyniad i'r digwyddiad a oedd i'w groesawu.

 

Dywedodd fod treial clinigol yn ymwneud ag EMDR (Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau'r Llygaid) a thrawma sy'n gysylltiedig â brwydro i gymharu therapi ar-lein â therapi wyneb yn wyneb ar fin dechrau.

 

Yna chwaraeodd fideo yr oedd fforwm y bwrdd iechyd hefyd wedi'i weld gan filwr wrth gefn lleol a oedd wedi bod yn ymwneud â'r gwasanaeth yn dilyn 2 daith ddyletswydd o Affganistan.

 

Roedd y fideo'n amlinellu ei brofiadau o fod yn filwr wrth gefn a'r problemau y bu'n rhaid iddo ddelio â hwy ar ôl ei ymfyddiniadau a dywedodd pa mor ddiolchgar yr oedd am y gefnogaeth a gafodd gan GIG Cymru i Gyn-filwyr.

 

 

 

7.

Cefnogi Disgyblion o Deuluoedd Gwasanaeth.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Yasmin Todd at lansiad swyddogol y cynllun Ysgolion sy'n Gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog. Dywedodd mai ysgol gynradd Pontarddulais yw'r ysgol gyntaf yn Abertawe i dderbyn y wobr. Mae saith ysgol ledled Cymru wedi ennill y wobr hyd yma.

 

Mae'r cynllun yn ymwneud â gwreiddio arfer da mewn ysgolion a sicrhau bod ysgolion yn defnyddio rhestr wirio SSCE Cymru (Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru) i ddewis camau gweithredu a gweithgareddau sy'n briodol i blant y lluoedd arfog. Byddai'n ymweld â'r ysgol yfory gan eu bod yn cynnal prynhawn coffi i blant a theuluoedd y lluoedd arfog.

 

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i'r plant ddatblygu cyfeillgarwch newydd ac yn caniatáu i deuluoedd gymysgu ac o bosib adeiladu eu rhwydweithiau cefnogaeth eu hunain, gan fod gan o leiaf hanner ysgolion Abertawe fwy nag un plentyn sy'n blentyn y lluoedd arfog. Mae'r Awdurdod Lleol yn awyddus i ddatblygu rhwydwaith clwstwr i gefnogi'r broses.

 

Amlinellodd fod gweithgareddau gwyliau'r haf yn cael eu datblygu gyda Forces Fitness a bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn yn fuan.

 

Mae cylchlythyr haf SSCE Cymru ar gael a gall aelodau'r panel gyfrannu at rifynnau yn y dyfodol os dymunant.

 

8.

Diweddariad gan Aelodau'r Panel.

Cofnodion:

Hwb Cyn-filwyr Abertawe

 

Amlinellodd Phil Jones a Wayne Jenkins eu bod wedi cynnal digwyddiad yn San Helen ar ddydd Sadwrn y Sioe Awyr a oedd wedi denu dros 100 o ymwelwyr.

 

Roedd yr Arglwydd Raglaw hefyd yn bresennol a bu'r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

 

Mae'r Hwb bellach wedi'i lansio'n swyddogol ac yn cyfarfod bob dydd Sadwrn yn San Helen rhwng 10am a 12pm.

 

Bwriedir i'r Hwb hefyd fod ar agor cyn ac ar ôl Seremoni'r Senotaff ar Sul y Cofio i alluogi pobl i ymgynnull a chymdeithasu.

 

Nododd fod rhai gweithgareddau iechyd a lles yn cael eu cynllunio ar gyfer yr haf, a bydd manylion y rhain yn cael eu dosbarthu'n fuan.

 

Cynigiodd gymorth a gwasanaethau'r grŵp i holl aelodau'r panel ac amlinellodd fod aelodau'r grŵp yn awyddus ac yn barod i gymryd rhan mewn cynifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau â phosib.

 

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

 

Amlinellodd John Williams fod y sefydliad yn dechrau casglu gwybodaeth ynghylch pa bolisïau a mentrau y dylai'r sefydliad ymdrechu i'w cynnwys yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

 

Croesewir unrhyw fewnbwn.

 

Cyngor Abertawe

 

Diolchodd Emma Thomas i'r holl wasanaethau, grwpiau a sefydliadau amrywiol am eu cefnogaeth a'u cymorth i wneud y Sioe Awyr yn gymaint o lwyddiant.