Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Sam Pritchard – Cofnod Rhif 88 –
Datganodd y Cynghorydd Sam Pritchard fuddiant personol a rhagfarnol a thynnodd yn
ôl o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Sam Pritchard – Cofnod Rhif 88 – Datganodd y Cynghorydd Sam
Pritchard gysylltiad personol a rhagfarnol a thynnodd
yn ôl o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Mae’n
rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd
democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y
cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â
chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. PDF 257 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet dros
Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd), y Dirprwy
Brif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gweithredol – Iechyd y Cyhoedd, y Comisiynydd
Arweiniol Strategol a Rheolwr y Tîm Partneriaeth a Chynhwysiad i gyd yn
bresennol i Graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Roedd y ffocws allweddol
ar Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PBS) 2020/21, a chafwyd
trafodaeth benodol am Amcanion Lles y Blynyddoedd Cynnar a Heneiddio'n Dda y
BGC. Rhoddwyd anerchiad llafar gan gynrychiolwyr, yn ychwanegol at yr adroddiad
ysgrifenedig, gan gynnwys y pwyntiau canlynol: - ·
Roedd
Cyd-bwyllgor y BGC wedi bod yn gwella data sylfaen, roedd yn datblygu asesiad
lles a fframwaith newydd a fyddai'n cefnogi'r gwaith o adrodd ar berfformiad. ·
Roedd
y Cydbwyllgor wedi cytuno ar fatrics cwmpasu i sicrhau eglurder ynghylch
amcanion a phrosiectau a oedd yn destun gwaith ar hyn o bryd, o ran cyfraniad y
BGC a chyfranogiad y Cydbwyllgor ·
Roedd
yr ymateb i COVID-19 wedi dominyddu'r flwyddyn ddiwethaf, gan effeithio ar ei
waith ·
Gwnaed
gwaith sylweddol ar draws y grwpiau cyflwyno Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda a'r
Blynyddoedd Cynnar, a chyfeiriwyd at y canlynol: - o Cynllun Hawliau Plant o Rhwydwaith Hawliau Plant o Gwaith parhaus i wneud Abertawe'n
Ddinas sy'n Ystyriol o Oedran o Grŵp Llywio Heneiddio'n Dda o Recriwtio Swyddog Partneriaeth a
Chyfranogiad o Cyfleoedd cyfranogi ac ymgynghoriadau o Diogelu a Chydraddoldeb yn y Gymuned
LHDTC+ o Roedd gwaith wedi dechrau ar annog
pleidleisio yn 16+ Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Fframwaith
perfformiad a threfniadau rheoli i ddangos y gwahaniaeth y mae'r BGC yn ei
wneud yn ogystal ag adrodd am gyflawniadau a chanlyniadau cyfarfodydd ·
Gwella'r
data sylfaen dan yr asesiad lles ·
Datblygu
fframwaith i gefnogi'r gwaith o adrodd am berfformiad ·
Model
gwell ar gyfer cyflawni a mesur llwyddiant – dangosyddion perfformiad allweddol
caled a meddal a'r olrheiniwr cynnydd canfyddiad ar gyfer partneriaid ·
Cytunwyd
ar fatrics cwmpasu i sicrhau bod ffrydiau gwaith ac amcanion yn glir ·
Adroddwyd
am rai enghreifftiau o welliannau/fentrau a roddwyd ar waith fel Ymrwymiad i
Ddinas Hawliau Dynol, diwylliant cymunedol, agenda iechyd meddwl, argyfwng
hinsawdd ac argyfwng natur, gwelliannau ar y Stryd Fawr, cryfhau'r berthynas â
phartneriaid a chyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru ·
Gwelededd
y cyhoedd o ran gwaith y BGC ac ymgysylltu'n well â'r cyhoedd ·
Trefniadau
ar gyfer prosesu a defnyddio barn a gesglir mewn digwyddiadau ymgysylltu ·
Effaith
y ffordd ddosbarthu newydd ar ansawdd yr aer yn yr Hafod – gwelwyd gostyngiad o
30% yn N02 ers ei hagor yn 2016 (nid oedd y ffigur hwn yn cynnwys y lefel is o
draffig oherwydd COVID-19) a gostyngiad o 28% mewn traffig drwy'r Hafod ar hyd Neath Road yn y 2 flynedd gyntaf o'i hagor ·
Llwyddiant
y Cynllun Men's Shed a'r
Cynllun Teithio Llesol gyda phwysigrwydd cynyddol ar fannau gwyrdd ·
Dyfodol
Ysbyty'r Bae – ymestyn y caniatâd cynllunio dros dro Diolchodd y
Cadeirydd i'r holl Aelodau, Swyddogion ac Aelodau'r Bwrdd. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Craffu Cyn Penderfynu: - Adferiad a Buddsoddiad Covid. PDF 237 KB a) Rôl y
pwyllgor. b)
Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau. c) Barn
y pwyllgor i'r Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr arweinydd, gan amlinellu barn y pwyllgor cyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Ionawr 2022. Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet dros
Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd), Aelod y
Cabinet dros Wella Busnes a Pherfformiad a Swyddogion i gyd yn bresennol er
mwyn i'r Pwyllgor ystyried adroddiad y cabinet ar 'Adfer o COVID a Buddsoddiad' Roedd yr
adroddiad yn cynnwys casgliad o fuddsoddiadau a symiau o arian a gynigiwyd i
gefnogi nifer o fentrau allweddol gan gynnwys isadeiledd ar systemau TG y
cyngor i sicrhau cadernid wrth symud i'r cwmwl. Roedd arian ar gyfer ardaloedd
chwarae ychwanegol ledled y ddinas yn ogystal â rhai buddsoddiadau i wrthbwyso
rhai o'r pwysau a oedd wedi codi o ganlyniad i COVID Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Yr oedi o ran gwneud y gwaith i uwchraddio Oracle a'r
effaith ar y rhaglen a'r costau. Eglurwyd bod y buddsoddiad o £3.62m yn
ychwanegol at gyllideb flaenorol o £4.8m ar gyfer y rhaglen felly byddai'n
cynrychioli cyfanswm gwariant o ychydig dan £8.5m – ni ddisgwylid iddo godi
ymhellach ar yr amod nad oedd unrhyw amrywiolion pellach na materion nas
rhagwelwyd yn codi ·
Effaith COVID – roedd angen tua £1 miliwn o bunnoedd ar
gyfer trwyddedau ychwanegol yn ogystal â'r angen i ddarparu mwy o ddyfeisiau i
alluogi pobl i weithio gartref. Roedd yn rhaid cynllunio systemau i ddarparu cymorth
i fusnesau a gweinyddu grantiau, systemau ar gyfer talu prydau ysgol, taliadau
ar-lein ar gyfer tai gyda phorth tai yn cael ei lansio cyn bo hir etc., ac
roedd y rhain i gyd yn cael blaenoriaeth dros uwchraddio Oracle yn ogystal â'r
holl systemau a oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, megis Profi, Olrhain,
Diogelu ·
Cadernid yr isadeiledd digidol a'r systemau TG - y system
Oracle oedd yr olaf mewn cyfres o waith uwchraddio angenrheidiol ac roedd yr
holl systemau corfforaethol mawr/hanfodol mor gadarn ag y gallent fod, gyda
chynlluniau cadernid ac adfer/parhad ar waith ·
Y dull ar gyfer y buddsoddiad arfaethedig mewn
Cyfleusterau Parc Sglefrio ar draws ardal y cyngor - roedd arolwg o
gyfleusterau presennol yn cael ei gynnal gan swyddogion a byddent yn ceisio
diddordeb cynghorwyr lleol ynghylch cyfleusterau yn y man, ond byddai ymagwedd
strategol yn cael ei dilyn i sicrhau defnydd effeithiol o arian, gan roi
cyfleusterau yn y mannau lle mae galw clir amdanynt. Awgrymwyd y dylid cynnwys
dichonoldeb cyfleuster symudol mewn unrhyw opsiynau ar gyfer arfarnu, y gellid
eu rhannu gan ardaloedd ledled Abertawe ·
Rhagdybiaethau ynghylch gweithio gartref yn y tymor hwy,
y tu hwnt i'r pandemig, a'r goblygiadau i'r cyngor o
ran gofod swyddfa yn y dyfodol a chostau cysylltiedig – disgwylid y byddai'r
cyngor yn parhau â'r polisi gweithio ystwyth gyda chymysgedd o weithio yn y
swyddfa a gweithio gartref ·
Clywodd y Pwyllgor fod galw o hyd am ddatblygu swyddfa
breifat ·
Symud i system deleffoni ar y
we – y gallu i'r cyhoedd gysylltu â swyddogion Diolchodd y
Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan amlinellu barn y Pwyllgor cyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Ionawr 2022. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n
ysgrifennu at yr arweinydd, gan amlinellu barn y Pwyllgor. Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd) a'r Dirprwy Brif
Weithredwr yn bresennol i Graffu ar Ei Gyfrifoldebau Portffolio Aelod y
Cabinet. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Brexit - Goblygiadau
disgwyliedig i Abertawe a'r effaith ar gyllid ar gyfer Abertawe, gan y
rhagwelir y byddai disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE gyda'r Gronfa Ffyniant
Gyffredin yn cael effaith negyddol fawr ar yr economi yn gyffredinol.
Amcangyfrifwyd bod tua £100 miliwn wedi'i golli mewn cyllid yn Abertawe drwy
wahanol bartneriaid. Roedd yn dal i aros am fanylion am y Gronfa Ffyniant
Gyffredin ·
Canol y Ddinas – cynnydd/diweddariad ar siopau/unedau
gwag yng nghanol y ddinas yn enwedig Debenhams a
Chanolfan Siopa'r Cwadrant – Clywodd y Pwyllgor fod COVID wedi effeithio ar bob
canol dinas a bod cwmnïau cenedlaethol yn methu. Roedd Abertawe wedi dod drwy
dipyn o hynny ac roedd y buddsoddiadau niferus parhaus o amgylch y ddinas yn
helpu i wneud Abertawe'n lle deniadol i fuddsoddi
ynddo. Roedd 7 siop wag yn y Cwadrant, ac mae 4 ohonynt bellach wedi'u
hail-osod ac roedd trafodaethau'n parhau mewn perthynas â Debenhams ·
Cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas - llety
myfyrwyr, swyddfeydd gan gynnwys Theatr y Palas, swyddfeydd pellach ar Princess Way, ail-leoli'r
Ganolfan Ddinesig, hwb cymunedol, buddsoddiadau yn y sector preifat ynghyd â
digwyddiadau y gellir eu cynnal yn yr arena newydd, Neuadd Albert
yn ogystal â Neuadd Brangwyn, Stadiwm Liberty a Pharc
Singleton yn ogystal â lleoliadau eraill fel mannau
cyhoeddus, Gerddi'r Castell a Wind Street a fydd hefyd yn ychwanegu at gynnig Abertawe ·
Rhaglen Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru –
amlinelliad ac amserlenni ·
Ailddylunio Wind Street
– cynllun gwella mannau cyhoeddus gwerth £3 miliwn gyda'r nod o ehangu apêl yr
ardal a darparu amgylchedd mwy diogel, mwy hygyrch a deniadol. ·
Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â
dyfodol yr ystadau tai ar Emrys Road a Tudno Place ym Mhen-lan a'r uwchgynllun –
Ymgynghoriadau ac ymgysylltu i barhau o wanwyn 2022 ·
Y ddarpariaeth westai yn Abertawe a'r camgyfathrebu
ynghylch ffoaduriaid yn ymgartrefu yng ngwesty'r Dragon
Diolchodd y Cadeirydd i'r holl Aelod a'r Swyddogion Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr arweinydd, gan amlinellu barn y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, Adroddiad Diweddaru'r Panel Perfformiad
Addysg a thynnodd sylw at y ffaith fod y Panel wedi bod yn canolbwyntio ar y
canlynol, ymysg gwaith arall: - ·
Prosiect
Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig, a phryderon am y cyfleoedd i blant
ddysgu'r sgiliau cywir mewn ysgolion i gael mynediad at swyddi i gefnogi holl
brosiectau'r Fargen Ddinesig ·
Perfformiad
y plant hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim Diolchodd y
Cynullydd i athrawon, penaethiaid a staff am eu holl waith caled. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynullydd am yr adroddiad. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 229 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth y paneli a’r gweithgorau craffu. Ni nodwyd
unrhyw newidiadau. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 263 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar y Rhaglen Waith Craffu. Trefnwyd cyfarfod
nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 15 Chwefror 2022. Y brif eitem a
drefnwyd oedd Craffu ar Drosedd ac Anhrefn – Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Rhoddodd y
Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf am gais cyhoeddus i graffu ar anawsterau'r
rheini heb ddarpariaeth parcio oddi ar y stryd i wefru cerbydau trydan gartref.
Nid oedd angen cymryd unrhyw gamau ar unwaith o ran craffu, ond awgrymodd
efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno craffu ar strategaeth ddrafft y cyngor ar
gyfer gweithredu pwyntiau gwefru cerbydau trydan, a fydd yn ystyried gwefru ar
y stryd fel rhan o'r strategaeth, wrth iddi ddod ar gael. Mater i'w drafod ar
ôl yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai fyddai hwn. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi'r llythyrau Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 201 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Nodwyd dyddiadau
ac amserau cyfarfodydd nesaf y panel/gweithgor. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu PDF 110 KB |
|
Llythyr at Gyd-gadeiryddion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 135 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (Economi, Cyllid a Strategaeth ) - Sesiwn Holi ac Ateb PDF 148 KB |