Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

70.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Clive Lloyd – Cofnodion rhif 74 ac 82 - datganodd y Cynghorydd Clive Lloyd gysylltiad personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitemau.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Clive Lloyd – Cofnodion rhif 74 a 82 – Datganodd y Cynghorydd Clive Lloyd fuddiant personol a rhagfarnol a thynnodd yn ôl o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau.

71.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

72.

Cofnodion. pdf eicon PDF 243 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir.

73.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

None.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

74.

Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Polisi, Rheoli a Gorfodi Parcio. pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, Arweinydd y Grŵp Isadeiledd Trafnidiaeth a Rheolwr y Gwasanaethau Parcio'n bresennol ar gyfer yr adroddiad ar Bolisi, Rheoli a Gorfodi Parcio.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: -

 

·                Gyllideb Weithredol y Gwasanaethau Parcio – Eglurhad ar y gydberthynas rhwng y Gyllideb Weithredu, Targedau Incwm ac Incwm Gwirioneddol

 

·                Gorfodi parcio sifil – Nodwyd bod hwn yn weithrediad hunangyllidol. Cafwyd trafodaeth ynghylch clustnodi refeniw o Hysbysiadau o Dâl Cosb i'r gyllideb priffyrdd er mwyn gwella Priffyrdd a/neu ddiogelwch

 

·                Anawsterau posib gorfodi cilfachau parcio preswylwyr gyda hawlenni di-bapur a'r posibilrwydd o ddatblygu ap neu wasanaeth ar-lein i ganiatáu i breswylwyr wirio am hawlenni – dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd Swyddogion am i breswylwyr herio'r cyhoedd ar hawlenni ac y byddai Swyddogion yn gwirio am hawlenni cyn mynd i'r safle i ymchwilio; ond byddai'r mater yn cael ei ystyried ymhellach

 

·                Parcio ar Balmentydd – prin oedd y pwerau gorfodi ar ffyrdd anghyfyngedig. Gellid cymryd camau fel gosod celfi stryd yng nghanol y ddinas i wella'r estheteg wrth annog pobl hefyd i beidio â pharcio ar balmentydd

 

·                Cynnydd o ran gwella'r ddarpariaeth parcio beiciau'n ddiogel – Disgwylid i ddau safle ar gyfer parcio beiciau'n ddiogel gael eu cwblhau'n fuan ar Fabian Way ac ym Maes Parcio'r Cwadrant yn ogystal â'r man parcio beiciau nad yw'n ddiogel y tu allan i McDonalds yng Ngerddi'r Castell. Byddai man parcio beiciau diogel hefyd ym maes parcio newydd yr Arena

 

·                Lefelau staffio o fewn y gwasanaethau parcio

 

·                Glendid meysydd parcio – eglurhad ar gyfrifoldebau'r Gwasanaethau Parcio a chyfrifoldebau'r Timau Parciau a Glanhau

 

·                Buddsoddi mewn meysydd parcio – Byddai dau faes parcio newydd ar gael y flwyddyn nesaf (Datblygiad Bae Copr a'r Arena) byddai technoleg ddi-docyn yn cael ei gosod yn y rhain lle byddwch yn talu wrth i chi ddychwelyd i'r cerbyd – y flaenoriaeth allweddol oedd darparu hyblygrwydd a dewis ar sut i dalu am barcio

 

·                Patrolio parcio yn y maestrefi yn ogystal â chanol y ddinas – pwysigrwydd gwybodaeth gan aelodau'r ward wrth nodi problemau a mannau lle ceir problemau mynych.

 

·                Roedd safleoedd posib ar gyfer lleoliadau mannau parcio a theithio'n cael eu hystyried o hyd

 

·                Effeithlonrwydd gorfodi parcio - Roedd swyddogion yn patrolio mewn parau ac roedd diogelwch staff yn hollbwysig; byddai swyddogion yn rhannu gwaith yn yr ardal er mwyn effeithlonrwydd e.e. cymryd ochr o'r stryd yr un  

 

Diolchwyd Aelod y Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

75.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Amgylchedd Naturiol (Y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd) pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd, Adroddiad Diweddaru Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol. Pwysleisiodd bwysigrwydd y Panel a thynnodd sylw at weithgareddau diweddar, gan gynnwys: -

 

·                Y Datganiad Argyfwng Hinsawdd – Cynnydd gyda Chynllun Gweithredu'r cyngor ar y Newid yn yr Hinsawdd

·                Rheoli Ansawdd Aer

·                Clefyd coed ynn

·                Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

·                Llygredd Dŵr

 

Yn ogystal â chyfarfodydd y Panel, adroddodd y Cynullydd hefyd y byddai'n cwrdd yn anffurfiol â'r Aelod(au) Cabinet perthnasol, arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur a Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol i gadw mewn cysylltiad a diweddaru'i gilydd ar faterion perthnasol.

 

Diolchodd y Cynullydd i Emily Davies, y Swyddog Craffu, am ddarparu'r gefnogaeth graffu iddo ef ei hun ac i Aelodau'r Panel.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynullydd am yr adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

76.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd/Arweinydd y Tîm Craffu'r 'Adroddiadau Craffu – Effaith', gan dynnu sylw at gyflawniadau craffu yn ystod ail ran blwyddyn ddinesig 2021/2022.

 

Penderfynwyd bod yr adroddiad yn mynd ymlaen i'r cyngor.

77.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 228 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth y paneli a’r gweithgorau craffu. Ni nodwyd unrhyw newidiadau.

 

Penderfynwyd nodi’r adroddiad.

78.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 263 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar y Rhaglen Waith Craffu.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 18 Ionawr 2022. Y prif eitemau a drefnwyd oedd: -

 

·                Sesiwn Holi ac Ateb gydag Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Cynghorydd Rob Stewart.

 

·                Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Nodwyd hefyd fod yn rhaid canslo'r Gweithgor Diogelwch Ffyrdd a drefnwyd ar gyfer mis Chwefror 2022 oherwydd pwysau ar y gwasanaeth, ac y byddai'n cael ei ohirio tan ar ôl yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022.

 

Derbyniwyd cais cyhoeddus am graffu ynghylch anawsterau gwefru cerbydau trydan gartref i'r rheini heb fannau parcio oddi ar y stryd. Mae hyn wedi'i drosglwyddo i'r Aelod(au) Cabinet perthnasol yn y lle cyntaf ar gyfer ymateb ac, yn dibynnu ar yr ymateb, bydd y Cadeirydd yn ystyried a yw'r mater hwn yn haeddu trafodaeth mewn cyfarfod craffu yn y dyfodol. 

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

79.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Noted.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y caiff y Llythyrau Craffu eu nodi.

 

80.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 196 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

81.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried adroddiad ar 'Gaffael ac Ailddatblygu Lesddaliadau RhGA7 – 279 Stryd Rhydychen/25-27 Princess Way' ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.

82.

Craffu Cyn Penderfynu: Caffael ac Ailddatblygu Lesddaliadau RhGA7 - 279 Stryd Rhydychen / 25-27 Princess Way.

a)       Rôl y pwyllgor.

b)       Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau.

c)       Barn y pwyllgor i'r Cabinet.

Penderfyniad:

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff adborth ei gyflwyno i'r Cabinet ar 16 Rhagfyr 2021 cyn iddo benderfynu ar adroddiad y Cabinet.

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Cabinet sef 'Caffael ac Ailddatblygu Lesddaliadau Arfaethedig RhGA7 - 279 Stryd Rhydychen/25-27 Princess Way'.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff adborth ei gyflwyno i'r Cabinet ar 16 Rhagfyr 2021 cyn penderfyniad y Cabinet.

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 150 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 476 KB