Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Medi 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau
gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad ar 'Abertawe - Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd' (Cynllun Adfer a Thrawsnewid). PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Roedd yr
Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, Aelod y
Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, y Dirprwy Brif
Weithredwr a Rheolwr y Rhaglen Newid Strategol yn bresennol ar gyfer yr
adroddiad ar 'Abertawe – Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd'. Diolchodd yr
Arweinydd i'r holl staff am eu hymdrechion rhyfeddol yn ystod cyfnod mor anodd
a nododd fod y pandemig yn parhau o hyd gyda 50,000 o
heintiau ledled y DU wedi'u hadrodd y diwrnod blaenorol. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Llinell amser y Cyfnod Newid Ffocws – nodwyd cynllun
hyblyg ar gyfer y llinellau amser ·
Cyflawniadau pendant hyd yma o Penodi Rheolwr
Rhaglen Strategol o Ail-lansio
syniadau a chanolfannau arweinyddiaeth o Amserlen wedi'i
diweddaru ar gyfer y cynllun ariannol tymor canolig o Adnewyddu'r
Polisi Gweithio Ystwyth o Dosbarthwyd
4,000 o ddyfeisiau ychwanegol i ysgolion ers mis Ebrill o Roedd rhaglen
ddysgu broffesiynol ar waith o Roedd prisiau
prydau ysgol am ddim wedi'u rhewi o Parhau i
fonitro plant diamddiffyn trwy weithio mewn partneriaeth o Parhau i
ddarparu gwasanaethau yn y sector gofal a sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n
parhau i fod yn gydnerth o Ehangu
Cydlynwyr Ardaloedd Lleol i gwmpasu Abertawe gyfan o Pecynnau
cymorth a rhaglen hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr o Prosiect Community
calling - dosbarthwyd dros 162 o ffonau i
breswylwyr o Roedd gwaith yn
mynd rhagddo mewn perthynas â phrosiect i ailbwrpasu
hen ddyfeisiau'r Gwasanaeth Sifil i'w defnyddio mewn ysgolion o Cyflwynwyd
ceisiadau ar gyfer y gronfa drafnidiaeth o Roedd gwaith
uwchraddio Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yng nghanol y ddinas yn mynd rhagddo o Cefnogaeth
barhaus ar gyfer busnesau lleol o Diogelu Swyddi
– grantiau o'r Gronfa Adfer Lleol o Cefnogi
blaenoriaethau Aelodau lleol trwy'r Gronfa Adfer o Gweithio mewn
partneriaeth ·
Pwysau parhaus ar wasanaethau gofal a'r bwrdd iechyd
lleol o'r pandemig, brechiadau atgyfnerthu, tymor y
ffliw, pigiadau ffliw, a chanlyniadau Brexit gyda
staffio ·
Targedau allweddol ar gyfer y 7 mis nesaf o Strategaeth Cydgynhyrchu o Strategaeth y Gweithlu o Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys o Strategaeth Gwirfoddoli o Adolygiad o'r Cynllun Corfforaethol o Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol o Adolygiad o Gyd-bwyllgorau Corfforaethol (CBC) o Parhau â gwaith adfywio o Parhau i weithio mewn partneriaeth o Parhau ac ehangu cyfathrebu cyhoeddus o Manteisio ar yr Arena newydd o Asesu effaith ariannol COVID-19 o Llunio'r cynllun ariannol tymor canolig ·
Cymariaethau ag awdurdodau lleol eraill - gwersi a
ddysgwyd gan awdurdodau eraill ac arferion da a rennir ·
Cydnabod a gwobrwyo staff ·
Cyfathrebu â chynghorwyr ynghylch ceisiadau'r Gronfa
Adfer Economaidd, Ceisiadau'r Cynllun Cyfalaf, Ceisiadau'r Cynllun Chwarae a
cheisiadau'r Gronfa Adfer ar gyfer blaenoriaethau cymunedol; posibilrwydd o
symleiddio proses ceisiadau'r Gronfa Adfer Economaidd, grantiau i fusnesau etc.
wrth hefyd gydymffurfio â'r broses gymeradwyo/archwilio briodol – nodwyd bod
rheolwyr rhaglenni ar waith i gyflawni cynlluniau ar ôl eu cymeradwyo ·
Strwythur Llywodraethu ar gyfer 'Abertawe - Cyflawni'n
Well Gyda'n Gilydd' a chydlynu/trosolwg o ffrydiau gwaith - Integreiddio
ffrydiau gwaith gyda Phwyllgorau Datblygu Polisi/Ymgysylltu ag Aelodau; Dulliau
Adrodd – eglurder y broses adrodd ·
Effaith y pandemig ar y
prosiectau adfywio – adroddwyd bod ychydig wythnosau wedi'u colli ar
ddatblygiad yr Arena yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, roedd disgwyl iddi
gael ei chwblhau'n ymarferol erbyn mis Tachwedd/Rhagfyr 2021. Yn ddiweddar
roedd effeithiau Brexit wedi effeithio ar argaeledd
llafur a deunyddiau, ond roedd hyn wedi'i reoli'n dda hyd yma. O ystyried y pandemig, adroddwyd bod datblygiadau wedi mynd rhagddo'n dda fel y rhestrir isod o Roedd
digwyddiadau ar werth ar gyfer yr Arena ar gyfer 2022 o Roedd
Datblygiad Bae Copr yn gwneud cynnydd o Roedd y gwaith
ar Ffordd y Brenin wedi'i gwblhau o Roedd
cynlluniau preifat fel Mariner Street
wedi parhau yn ystod y pandemig o Penodwyd
contractwr ar gyfer Theatr y Palace o Disgwylir i'r
gwaith ar hen adeilad Oceana ddechrau yn fuan o Byddai gwaith
paratoi yn dechrau ar yr Hwb Gwasanaethau Lleol yn fuan o Disgwylir i'r
gwaith ar Wind Street gael
ei gwblhau ymhen ychydig wythnosau o Roedd y
dyluniad terfynol ar gyfer Castle Square i fod i gael
ei gyhoeddi yn fuan o Roedd gwaith ar
y gweill ar Ddistyllfa Chwisgi Penderyn o Roedd cynnydd
yn mynd rhagddo gyda Datblygiad Skyline o Roedd cynnydd yn
mynd rhagddo gyda'r morlyn llanw o Penodwyd Urban Splash mewn
perthynas â'r Ganolfan Ddinesig, Safle Gorsaf St Thomas a Cham 2 Bae Copr ·
I ba raddau yr adlewyrchwyd yr amgylchedd naturiol yn y
Cynllun Adfer – dywedodd fod bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd
naturiol yn cael eu hystyried ar yr holl waith a wnaed yn ogystal â Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hymgorffori ym mhob
strategaeth ·
Etholiadau Lleol ym mis Mai 2022 a phenodi Prif
Weithredwr Newydd ·
Yr wybodaeth ddiweddaraf am gam 2 canol y ddinas/y Fargen
Ddinesig – cyfleoedd i weithio gyda datblygwyr preifat ·
Gweithlu'r dyfodol Diolchwyd Aelodau'r Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd. Penderfynwyd nodi'r diweddariad, ac y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r trafodaethau a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol 2020/21. PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Gwella Strategaeth a
Rhaglenni’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol ar gyfer yr Adroddiad
Blynyddol – Diogelu Corfforaethol 2020/21. Rhoddodd y
Cynghorydd Mark Child anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad
ysgrifenedig a ddarparwyd a thynnodd sylw at y ffaith bod diogelu yn parhau i
fod yn flaenoriaeth a bod Abertawe wedi arwain y gwaith o'i wneud yn
gyfrifoldeb corfforaethol. Roedd yn falch o'r ffordd yr oedd y cyngor wedi
ymateb i ddiogelu drwy'r pandemig. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Effaith y pandemig ar y
Gwasanaethau i Oedolion – anelu at ddarparu ymagwedd mwy ataliol ·
Hyfforddiant diogelu ar
gyfer Contractwyr/Pobl Allanol/Gwirfoddolwyr - monitro a chofnodi hyfforddiant ·
Polisi'r Gwasanaeth Datgelu
a Gwahardd (GDG) – Gwelliannau ar wiriadau'r GDG i gontractwyr er mwyn sicrhau
eu bod yn cyd-fynd â Pholisi ac Asesiad Risg newydd y GDG Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a'r Swyddogion ac edrychodd ymlaen
at adroddiad y flwyddyn nesaf. Penderfynwyd nodi'r diweddariad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Paula O'Connor, Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r
cyngor, a gyflwynodd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
2020-21 a Chynllun Gwaith y Pwyllgor. Darparwyd
anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a oedd yn tynnu sylw
at bwysigrwydd y ddau bwyllgor yn gweithredu yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r
cylch gorchwyl, a chyfeiriodd hefyd at oblygiadau Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 gyda gofynion a chyfrifoldebau newydd ar gyfer y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i siarad am y berthynas rhwng
Archwilio a Chraffu a phwysigrwydd gweithio'n agos i sicrhau ymwybyddiaeth ar y
cyd o waith ei gilydd, osgoi dyblygu a bylchau mewn rhaglenni gwaith a
chyfeirio materion rhwng pwyllgorau. Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu ei fod yn yr un modd wedi annerch y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
ar 12 Hydref. Nodwyd bod nifer o gynghorwyr yn eistedd ar y ddau bwyllgor, a
oedd yn cynorthwyo'r berthynas. Trafododd y
pwyllgor bryderon am gyfrifoldebau newydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
ynghylch perfformiad y cyngor. Sicrhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio Bwyllgor y Rhaglen Graffu, er y byddai'n cyflawni unrhyw ofyniad
deddfwriaethol ynghylch dyletswyddau perfformiad newydd y cyngor sy'n deillio
o'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, na fyddai unrhyw ddyblygu gyda
chraffu na chymryd rhan mewn monitro perfformiad rheolaidd y byddai craffu'n
ymwneud ag ef. Dywedodd ei bod wedi bod yn ceisio cyngor gan swyddogion ar y
mater hwn er mwyn sicrhau bod eglurder ynghylch cyfrifoldebau rhwng Archwilio a
Chraffu. Dywedodd fod gofyn am hyfforddiant hefyd ar gyfer aelodau'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar eu cyfrifoldebau newydd. Myfyriodd ar
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a oedd yn nodi
gweithgareddau a chyflawniadau arwyddocaol yn ystod y pandemig
a oedd yn gyfnod anodd i'r cyngor. Soniodd am y
rhaglen waith graffu helaeth a'r sicrwydd yr oedd hon yn ei darparu i'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Diolchodd y
Cadeirydd i Paula O'Connor, a nododd y ddau Gadeirydd Pwyllgor y byddent yn
cymryd rhan mewn sgwrs reolaidd i sicrhau bod Craffu ac Archwilio yn
cydweithio'n effeithiol. Un o'r materion a drafodwyd ar hyn o bryd oedd adrodd
yn systematig ar adroddiadau archwilio allanol, a'r rôl honno wrth ystyried a
monitro'r rhain. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Paxton Hood-Williams, y Cynullydd, Adroddiad Diweddaru'r Panel
Perfformiad Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, ar weithgareddau a chyflawniadau
allweddol dros y 6 mis diwethaf. Canmolodd y
gefnogaeth y mae ef a'r Panel yn ei chael gan y Swyddog Craffu, a diolchodd
Aelodau'r Pwyllgor hefyd i'r Tîm Craffu am eu cymorth a'u cefnogaeth i
gynghorwyr ar draws yr holl weithgareddau craffu. Penderfynwyd nodi'r diweddariad. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 229 KB Penderfyniad: Penderfynwyd tynnu’r Cynghorydd Wendy
Fitzgerald oddi ar y Panel Ymchwiliad Caffael. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Penderfynwyd tynnu'r Cynghorydd Wendy Fitzgerald o'r Panel Ymchwiliad Caffael. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 262 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am y Rhaglen Waith Craffu. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion wedi'i addasu yng
ngoleuni pwysau cyfredol sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn y Gwasanaethau i
Oedolion. Bydd cyfarfodydd o fis Hydref yn canolbwyntio'n unig ar sut mae'r
gwasanaeth yn rheoli'r pwysau hwnnw a sut mae'n effeithio ar berfformiad, hyd
nes y cytunir fel arall. Nodwyd hefyd y
byddai angen gohirio'r Gweithgor Craffu Dinas Iach i ddyddiad hwyrach oherwydd
pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Bwrdd Iechyd. Byddai'r pwnc Diogelwch
Ffyrdd, a oedd wedi'i gadw wrth gefn, yn cymryd lle Dinas Iach nes ei bod yn
bosib symud ymlaen. Byddai'r Gweithgor Diogelwch Ffyrdd, fel y cytunwyd yn
flaenorol, yn cael ei gynnull gan y Cynghorydd Steve Gallagher. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Gwnaeth y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd Gweithgor y Gwasanaethau
Bysus, annerch y Pwyllgor a thynnu sylw at rai o ganfyddiadau cyfarfod y
Gweithgor, gan gynnwys y canlynol: - ·
Roedd angen cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Gwasanaethau
Bysus a'r Aelodau fel bod aelodau'r ward yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn
eu hardal. ·
Roedd yn bwysig clywed gan bobl nad ydynt yn defnyddio
bysus i ddeall pam nad ydynt yn defnyddio'r gwasanaeth a beth fyddai'n eu
hannog i wneud hynny. Diolchodd y Cynullydd i Swyddogion, First Cymru a Bws Caerdydd am eu
gwaith yn y maes hwn a diolchodd yn arbennig i yrwyr bysus am eu gwaith drwy'r pandemig. Cytunwyd y dylid cynnal cyfarfod pellach o Weithgor y Gwasanaethau Bysus
cyn diwedd y flwyddyn ddinesig er mwyn gallu dilyn argymhellion y grŵp a
gweld pa newidiadau/welliannau a wnaed. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Lyndon Jones a'r Gweithgor. Penderfynwyd nodi llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 198 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Nodwyd dyddiadau
ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth PDF 169 KB |
|