Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol:

 

y Cynghorydd Peter Black – Cofnod rhif 18 - Datganodd y Cynghorydd Peter Black gysylltiad personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd Peter Black – Cofnod Rhif 19 – Datganodd y Cynghorydd Peter Black gysylltiad personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

16.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 243 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2021 fel cofnod cywir.

18.

Ethol Cadeirydd Dros Dro ar gyfer Eitem 5 (Cofnod Rhif 19)

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd Peter Jones yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer eitem 5 ar yr Agenda (Cofnod Rhif 19).

 

Y Cynghorydd P K Jones (Cadeirydd Dros Dro) fu'n llywyddu

19.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Penderfyniad:

Nodwyd.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cwestiynau gan ddau aelod o'r cyhoedd, a oedd yn bresennol i ofyn eu cwestiynau, a oedd yn ymwneud ag eitem chwech ar yr agenda (cofnod rhif 20). 

 

Cyflwynodd Ms S Morgan gais, ar ran preswylwyr Green Close, i adfer croesfan a oedd wedi'i thynnu o ddiwedd y ffordd oherwydd y gwaith adeiladu parhaus i'r llwybr beicio ar Mayals Road. Credwyd y byddai diogelwch a mynediad yn cael eu peryglu'n ddifrifol pe na bai croesfan newydd yn cael ei gosod.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd. Cadarnhawyd y byddai Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 3 yn cael ei gynnal ar ôl cwblhau'r gwaith a phe byddai unrhyw broblemau'n cael eu nodi y byddai camau pellach yn cael eu hystyried.

 

Gofynnodd Mr H Francis y cwestiynau canlynol am y gwasanaeth a ddarperir gan yr Adran Priffyrdd.

 

1.             Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan y cyngor yn dangos ei fod wedi methu â chyflawni ei darged tai ei hun ym mhob un o'r 10 mlynedd diwethaf o faint cronnol o tua 50%; Mae contractwyr a datblygwyr yn credu bod oedi o ran gwaith priffyrdd yn cyfrannu'n sylweddol at y methiant hwn. I ba raddau ydych chi'n credu y gall yr Adran Priffyrdd wella ei gwasanaeth i fynd i'r afael â'r diffyg hwn?

2.             Ydych yn credu bod gan yr Adran Priffyrdd ddigon o adnoddau ar gael i gyflawni ei swyddogaethau statudol yn ogystal â chefnogi gwaith cyfalaf fel prosiectau adfywio'r cyngor?

3.             Oes cwmpas i'r Adran Priffyrdd gontractio gwasanaethau technegol i ymgynghorwyr allanol ymhellach er mwyn helpu i wella ei wasanaeth?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mark Thomas – Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd. Cydnabuwyd y gallai materion penodol godi ar rai datblygiadau, fodd bynnag, ni chytunwyd bod problem gyffredinol gyda'r gwasanaeth a ddarperir gan yr Adran Priffyrdd ac, o ystyried amgylchiadau'r pandemig, teimlwyd bod yr adran wedi ymdopi'n eithriadol o dda. Cafwyd trafodaeth ar fater adnoddau, y gallu i lenwi swyddi cymwys yn ogystal â staffio ar gyfer lefelau gwaith newidiol. Cadarnhawyd y gellid defnyddio adnoddau allanol (gan gynnwys contractio gwaith yn allanol) ac roedd adnoddau allanol wedi'u defnyddio lle teimlwyd bod hynny'n angenrheidiol.

 

Y Cynghorydd P M Black (Cadeirydd) fu'n llywyddu

20.

Trafodaeth ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 250 KB

·         Aelod y Cabinet: Priffyrdd a Pheirianneg

·         Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw Isadeiledd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, gyda chefnogaeth Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd ac Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd, adroddiad ar Briffyrdd a Pheirianneg, Isadeiledd a Chynnal a Chadw.

 

Rhoddwyd cyfeiriad llafar ynghylch yr adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd yn nodi'n benodol y canlynol:

 

·                Pa waith a wnaed gan yr Is-adran Cynnal a Chadw Priffyrdd a'r hyn yr oeddent yn gyfrifol amdano

·                Trefniadau cynnal a chadw a'r gyllideb cynnal a chadw – cyllideb 2021/22 ar gyfer cynnal a chadw oedd £3.9 miliwn. Clustnodwyd £1.4 miliwn ychwanegol am y 4 blynedd diwethaf yn dilyn yr adroddiad comisiynu. Derbyniwyd arian ychwanegol hefyd gan Lywodraeth Cymru.

·                Roedd y rhaglen cynnal a chadw bresennol ar gyfer y cyfnod 2020-2025 – y gobaith oedd y byddai'r rhaglen yn cael ei chwblhau flwyddyn yn gynt na'r disgwyl yn 2024

·                Cynhaliwyd Adolygiad Draenio yn 2020/21 – effaith glaw trwm cynyddol ar yr isadeiledd ffyrdd a phriffyrdd

·                Gwaith yn ystod y pandemig – parhaodd y gwasanaeth i weithredu drwy gydol y pandemig a gwnaed newidiadau i'r rhaglen er mwyn parhau â'r gwaith gan hefyd gadw staff a'r cyhoedd yn ddiogel e.e. osgoi strydoedd preswyl a dechrau ar waith i ffwrdd o eiddo fel Pont Llwchwr pan oedd cyfrif traffig ar ei isaf erioed

·                Roedd rhagor o waith ailwynebu wedi'i wneud o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol

·                Heriau a chyfleoedd yn y dyfodol – llifogydd a newidiadau i ffiniau wardiau

·                Risgiau

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Dyraniad digonol/cywir o adnoddau o ystyried bod ôl-groniad gwerth £70 miliwn o waith

·                Blaenoriaethu gwaith

·                Eglurhad o'r ffigurau presennol ar gyfer yr ôl-groniad o waith i wneud cymariaethau clir

·                Heriau newid yn yr hinsawdd – rhagor o lifogydd, effaith tymereddau cynyddol ar darmac, effaith gaeafau gwlypach/oerach ar arwynebau priffyrdd yn ogystal â llygredd aer

·                Mesurau i gynorthwyo gyda heriau newid yn yr hinsawdd – Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), ffosydd cerrig ac ardaloedd wedi'u plannu

·                Cyfathrebu/cydgysylltu â chwmnïau cyfleustodau ar waith stryd – rhagor o arwyddion ac eglurder ynghylch pwy oedd yn gwneud y gwaith

·                Archwilio gwaith stryd ar ôl cwblhau'r gwaith – nodwyd bod sampl wedi'i phrofi am ansawdd a chydymffurfiaeth

·                Cynnal a chadw priffyrdd, e.e. Mater a godwyd yn dilyn amnewid cylchfannau uwch i gylchfannau gwastad – nodwyd problemau a oedd yn ymwneud â chost cynnal a chadw

·                Coed yn hongian dros briffyrdd/dail yn disgyn i ddraeniau – pwerau cyfyngedig ar gael i'w gorfodi oni bai fod rhwystr i'r briffordd

·                Beiciwr yn goryrru ar lwybrau defnydd a rennir

·                Effaith terfyn cyflymder 20 milltir yr awr (mya) yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd preswyl – ariannu, gosod arwyddion a gorfodi

·                Timau'r gylïau a pheiriannau'r gylïau sydd ar gael – nododd y timau mai dim ond llifogydd adweithiol oedd yn tarfu ar y gwaith o lanhau rheolaidd

·                Draeniau cludo wedi’u blocio – y Tîm Archwilio yn edrych ar hyn 

 

Diolchwyd Aelod y Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

21.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Addysg (y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd) pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, y Diweddariad ar y Panel Craffu Perfformiad Addysg.

 

Yn dilyn yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, tynnodd sylw'n benodol at dri maes ffocws allweddol:

 

1.         Ysgolion yn rhannu arfer gorau

2.         Cymorth i blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim

3.         Parodrwydd ar gyfer y Fargen Ddinesig e.e. Partneriaeth Sgiliau Abertawe

 

Roedd yr eitem ar aflonyddu wedi'i gohirio a byddai'n cael ei hystyried ym mis Medi, pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

 

O ran y ddarpariaeth addysg heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), canfu'r Panel fod rhai plant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â'u cyfoedion yn yr ysgol yn ystod y pandemig. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd ailadeiladu'r berthynas rhwng disgyblion ac ysgolion, ac iddynt beidio â chael eu heithrio. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Lyndon Jones am y diweddariad.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

22.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 236 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu.

 

Nododd y Pwyllgor benodiad Cynullwyr y Panel Perfformiad gan y Paneli perthnasol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021/22 hyd yn hyn sef:

 

·         Y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - ailbenodwyd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams

·         Gwasanaethau i Oedolion - ailbenodwyd y Cynghorydd Susan Jones

·         Gwella Gwasanaethau a Chyllid – ailbenodwyd y Cynghorydd Chris Holley

·         Addysg – ailbenodwyd y Cynghorydd Lyndon Jones

·         Amgylchedd Naturiol – ailbenodwyd y Cynghorydd Peter Jones

·         Datblygu ac Adfywio – ailbenodwyd y Cynghorydd Jeff Jones

 

Penderfynwyd: -

1)    Caiff y Cynghorydd Mike Durke ei dynnu oddi ar y Panel Craffu Perfformiad Addysg

23.

Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer. pdf eicon PDF 263 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu.

 

Tynnodd sylw at y ffaith bod yr Ymchwiliad Craffu Caffael bellach wedi ailgychwyn. Roedd wedi adolygu a chytuno ar gylch gorchwyl a chwestiwn allweddol ar gyfer yr ymchwiliad. Roedd y panel bellach yn casglu tystiolaeth.

 

Trefnwyd cynnal cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 17 Awst 2021. Y brif eitem a drefnwyd oedd trafodaeth ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet a restrir isod gydag Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth:

 

·                Twristiaeth, Rheoli Cyrchfannau a Marchnata

·                Hyrwyddo Busnesau a’r Ddinas 

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

24.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 265 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 509 KB

25.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 196 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nodwyd dyddiad ac amser cyfarfod nesaf y panel/gweithgor.