Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Peter Jones – Cofnod Rhif 9 – Aelod o grŵp gorchwyl 'Gweithio gyda Natur' Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

 

Y Cynghorydd Sam Pritchard – Cofnod Rhif 9 – Aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe – Grŵp Partneriaeth

5.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 283 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021 a 20 Mai 2021 fel cofnodion cywir.

7.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

8.

Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. pdf eicon PDF 416 KB

Cofnodion:

Fel cyfarfod cyntaf blwyddyn ddinesig 2021/22, cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu yr adroddiad ar 'Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu'. Roedd yr adroddiad hefyd yn gwahodd y Pwyllgor i adnewyddu penodiad aelodau cyfetholedig y Pwyllgorau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:  -

 

1)    Adnewyddir cyfetholiadau cynullwyr y Paneli Perfformiad Craffu i'r Pwyllgor.

2)    Adnewyddir cyfetholiadau'r sefydliadau partner i alluogi cynrychiolwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

9.

Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. pdf eicon PDF 250 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Fforwm Amgylcheddol Abertawe a Chyngor Abertawe yn bresennol i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.   

 

Mae'r pwyllgor yn craffu ar berfformiad y BGC a'r gwahaniaeth mae'n ei wneud. Canolbwyntiodd y sesiwn ar ddeall rôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, fel Aelodau Statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, a'r cynnydd o ran cyflawni amcanion lles y maent yn arwain arnynt.

 

Yn dilyn yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar:-

 

·           Effaith/gwerth ychwanegol y BGC – clywyd am rwydweithiau/cysylltiadau a grëwyd, gwaith Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel ar y Stryd Fawr, diogelu, radicaleiddio, hiliaeth a chyllid a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi'r gwaith o wella'r amgylchedd gwyrdd

·           Y nifer sy'n manteisio ar waith partner/cydweithio ar faterion allweddol – darparwyd enghreifftiau o weithio gyda phartneriaid ynghylch troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau

·           Llwyddiant gweithio gyda phartneriaid ar danau glaswellt bwriadol

·           Materion yn ymwneud â llywodraethu'r BGC, diffyg adnoddau, diffyg cyllid a'r gwersi a ddysgwyd.

·           Cymharu â Byrddau Cynllunio Rhanbarthol – gwahanol safbwyntiau ariannol

·           Camddefnyddio Sylweddau – roedd y Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol a'r Bwrdd Cynllunio Ardal yn edrych ar hyn - roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal yn arwain ar ddatblygu'r Model Iechyd Cyhoeddus Integredig ac roedd yn adrodd yn ôl i'r BGC.

·           Datblygu Dangosyddion Perfformiad ar gyfer y BGC a gweld cynlluniau gweithredu i helpu i fonitro a mesur cynnydd – nodwyd na fyddai pob agwedd ar waith yn fesuradwy, e.e. y materion hynny sy'n canolbwyntio ar newid hirdymor

·           Lobïo am adnoddau a chyllid ychwanegol

·           BGCau rhanbarthol a straen ar y sefydliadau hynny sy'n mynychu nifer o BGCau – roedd yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal y BGCau lleol ar hyn o bryd

·           Cyfathrebu rhwng y BGC, y Gweithgorau a'r Cydbwyllgor

·           Effaith pandemig COVID-19 ar waith y BGC a chyllid

·           Trefnwyd i'r BGC adolygu eu ffocws yn y cyfarfod nesaf yn dilyn pandemig COVID-19

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol. Edrychodd ymlaen at y sesiwn nesaf ar y BGC a datblygu gwell gwybodaeth am berfformiad o amgylch gwaith y BGC gan gynnwys dangos bod amcanion lles penodol yn cael eu cyflawni drwy gynlluniau gweithredu.

10.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd/Arweinydd y Tîm Craffu 'Adroddiadau Craffu – Adroddiad Effaith', gan dynnu sylw at gyflawniadau craffu yn ystod 2020/21.

 

Penderfynwyd bod yr adroddiad yn mynd ymlaen i'r cyngor

11.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu.

 

Nododd y Pwyllgor benodiad Cynullwyr y Panel Perfformiad gan y Paneli perthnasol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021/22 hyd yn hyn sef:

 

·         Y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - ailbenodwyd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams

·         Gwasanaethau i Oedolion - ailbenodwyd y Cynghorydd Susan Jones

·         Gwella Gwasanaethau a Chyllid – ailbenodwyd y Cynghorydd Chris Holley

 

Penderfynwyd:   -

1)    Tynnu'r Cynghorydd Mark Child oddi ar unrhyw baneli/gweithgorau, gan ei fod wedi dod yn aelod gweithredol.

2)    Ychwanegu'r Cynghorydd Oliver James a'r Cynghorydd Hannah Lawson at Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol

12.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/21 i'w ystyried.

 

Trefnwyd cynnal cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 13 Gorffennaf 2021. Y brif eitem a restrwyd oedd trafodaeth ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Pheirianneg ac Atgyweiriadau a  Chynnal a Chadw Isadeiledd gydag Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

13.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Roedd Cynullydd y Gweithgor Craffu ar gyfer cynhwysiant digidol, y Cynghorydd Lesley Walton, yn bresennol i grynhoi'r canfyddiadau. Tynnodd sylw at y gwaith a wnaed gan Swyddogion er gwaethaf pandemig COVID-19 a oedd, er enghraifft, yn parhau i ddarparu menter newydd 'Sgwrsfot'. Byddai'r Gweithgor yn parhau i gefnogi staff gyda'r datblygiadau enfawr a'r newidiadau parhaus mewn technoleg ac yn edrych ar y Strategaeth Cynhwysiad Digidol yn ogystal ag ailwampio gwefan y cyngor. Teimlai'r Gweithgor fod angen goruchwylio'r gwaith ar Gynhwysiad Digidol ymhellach wrth i bethau ddatblygu, efallai'n flynyddol.

 

Cyfeiriodd Cynullydd y Gweithgor Craffu ar gyfer y Gweithlu, y Cynghorydd Cyril Anderson, at lythyr y Gweithgor at Aelodau'r Cabinet a'r ymateb, yn dilyn cyfarfod y Gweithgor. Tynnodd sylw at waith staff yn ystod pandemig COVID-19. Yn dilyn y cyfyngiadau symud cyntaf roedd staff wedi addasu'n well yn ystod yr ail gyfyngiadau symud, gyda gwelliannau i gefnogaeth gan y cyngor. Nodwyd y byddai arolwg staff pellach yn cael ei ddosbarthu yn ystod y 6 mis nesaf i holi staff ynghylch gweithio gartref nawr eu bod yn fwy profiadol/wedi dod yn fwy cyfarwydd ag ef. Roedd y Gweithgor yn awyddus i gyfarfod eto pan oedd canlyniadau'r arolwg yn hysbys.

 

Diolchodd y ddau Gynullydd i'r staff am eu holl waith caled wrth helpu'r cyngor drwy gyfnod anodd iawn.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at rai materion yn ymwneud â defnyddio gweithwyr asiantaeth, a drafodwyd yn ddiweddar yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a dywedodd y byddai'n trafod ffordd ymlaen mewn perthynas â thrafodaethau yn y dyfodol gyda Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gan osgoi unrhyw ddyblygu rhwng y Pwyllgorau perthnasol.

 

Penderfynwyd nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

14.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiad ac amser cyfarfod nesaf y panel/gweithgor.

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 239 KB