Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd Susan Jones – Cofnod Rhif 70 – Mab yn
weithiwr i Heddlu De Cymru Y Cynghorydd Wendy Lewis - Cofnod Rhif. 70 - Mab
yn weithiwr i Heddlu De Cymru |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu ar Droseddu ac Anhrefn - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Daeth
cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru a'r cyngor i'r cyfarfod er mwyn darparu
adroddiad cynnydd ar Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, a gyd-gadeirir gan y
ddau sefydliad, ac ateb cwestiynau. Tynnodd y Dirprwy
Brif Weithredwr sylw at heriau a oedd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig. Roedd y pandemig wedi
arwain at heriau newydd yn ogystal â chynnydd mewn digwyddiadau domestig,
ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chymdogion a throseddau
casineb. Roedd gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth, a adeiladwyd yn ystod y
pandemig, wedi bod yn allweddol i ymdrin â'r
problemau hynny a byddai'n hanfodol eu cynnal yn y dyfodol. Darparwyd
cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:- ·
Cefndir o
Gweledigaeth
y bartneriaeth o
Diben
y bartneriaeth ·
Llywodraethu
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel presennol o
Bwrdd
y Gwasanaethau Cyhoeddus o
Grŵp
Llywio Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel o
Blaenoriaethau
Strategol ·
Blaenoriaethau
Strategol o
Trais
yn erbyn menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) o
Camddefnyddio
Sylweddau o
Cymunedau
Cryfach o
Economi'r
hwyr a'r nos o
Monitro
troseddau casineb a thensiwn cymunedol ·
Taith
mewn pandemig ·
Pandemig: Hyblygrwydd Ymateb o
Tîm
Gorfodi ar y Cyd – ymrwymiad adnoddau rhwng yr awdurdod lleol a Heddlu De Cymru
i edrych ar feysydd o bryderon allweddol megis trwyddedu, safonau masnach a
gorfodi materion yn ymwneud â COVID-19 a oedd yn cynnwys gosod tasgau a
chydlynu ar y cyd – cyflwynwyd dros 1,200 o hysbysiadau o gosb benodol mewn
perthynas â gorfodi materion yn ymwneud â COVID-19 o
Grwpiau
Datrys Problemau – Datrys problemau ar gyfer pob ardal drwy ddefnyddio’r dull
Amcan, Sganio, Dadansoddi, Ymateb ac Asesu (OSARA) e.e. ar gyfer Annifyrrwch yn
ymwneud â Beiciau Modur, Gweithwyr Rhyw etc. o
Prosiectau
Cymunedol – e.e. Prosiect yn y Vetch i fynd i'r afael
â materion Llinellau Sirol a Throseddoldeb a oedd
wedi cynnwys gosod teledu cylch cyfyng mewn ardaloedd allweddol, tocio
gordyfiant, bwrw wal i lawr, creu Ardal Gemau Aml-ddefnydd a seddi yn ogystal â
datblygu caffi cymunedol. o
Cyfarfodydd
Partneriaeth – Cefnogodd y Gynhadledd Amlasiantaeth
Asesu Risg ar gyfer pobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd (MARAC) dros 60 o
unigolion a oedd yn ddigartref a/neu'n cardota gan ddefnyddio ateb mwy cyfannol
i ddiwallu anghenion - Datblygu Clybiau Ieuenctid Dros Dro o
Gwaith
Allgymorth – Cafodd ei beryglu yn ystod COVID-19 ond parhaodd y gwaith. Roedd
arian ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer swyddi ychwanegol – gweithgareddau
ymgysylltu a gynhaliwyd ym Mharc Cwmdonkin –
Cynhaliodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru waith ymgysylltu ar
ddechrau tanau a thanau mynydd – Dosbarthwyd parseli bwyd i VAWDASV – 35 o
gamerâu mewn mannau allweddol yn Abertawe a'r tu allan iddynt – Digwyddiadau
ymgysylltu Pawennau ar Batrol mewn parciau ·
Heddlu
De Cymru o
Gostyngiad
yn y Galw o
Cynnydd
yn y Galw o
Heriau
Mewnol ac Allanol Newydd o
Cyd-destun
Plismona Newydd sy'n Esblygu o
Gwreiddio
Dysgu Drwy Adferiad ·
Effaith
COVID-19 (23 Mawrth 20 – 22 Mawrth 21) – Cynnydd mewn Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol (gyda'r mwyafrif yn gysylltiedig â COVID-19) – gweithio ar
ymyrryd yn gynnar a defnyddio gorfodaeth fel dewis olaf – Niweidiau cudd e.e.
Ni adroddwyd am drais domestig cymaint ·
Cyfanswm
Troseddau a Gofnodwyd Dros Amser – sut roedd troseddau'n symud o le i le mewn
perthynas â'r cyfyngiadau symud ·
Mannau
lle ceir llawer o droseddu o
Cydlyniant – Llais Cymru o
Protestiadau
– Mae Bywydau Du o Bwys (BLM), Lladd y Bil ac Adennill y Strydoedd o
SA1 /
Traethau / Mannau allweddol o
Effaith
Digartrefedd mewn Llety Dros Dro o
Rheoliadau
COVID-19 – y 4 'E' o
Busnes
Dyddiol – VAWDASV/Camddefnyddio Sylweddau/Troseddau Casineb ·
Heriau o
Partneriaeth o
Canlyniadau
Ymarferol Newid Rheoliadau o
Ymateb
Cymesur ond Cadarn o
Caniatâd
o
Lles o
Adfer
·
Ystadegau
Perfformiad a Throseddau o
Trais
yn erbyn Menywod a Merched o
Troseddau
Casineb o
YMGYRCH
SCEPTRE – Troseddau/Digwyddiadau sy'n cynnwys cyllyll o
Masnachu
Cyffuriau ·
Y
dyfodol o
Adfer o
Cadwch
y Darnau Da o
Y 12
mis nesaf - Heriau ar y Cyd Roedd y cwestiynau
a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: ·
Strategaeth
Gymunedol Abertawe Mwy Diogel – y broses ar gyfer ymgynghori ar y strategaeth
a'i hadnewyddu ·
Profiad
ym maes torri rheolau a rheoliadau COVID-19 - nodwyd mai'r brif broblem oedd
ymgynnull dan do - cyflwynwyd 846 o hysbysiadau o gosb benodol am ymgynnull dan
do ·
Effaith
COVID-19 ar drosedd ac anhrefn – clywyd am ymgysylltu ar-lein, gosodwyd camerâu
mewn mannau lle mae trosedd ac anhrefn yn digwydd yn gyson ·
Dwyn
Cŵn – nid oedd yn ymddangos bod cynnydd yn nifer y cŵn a gafodd eu
dwyn yn Abertawe, yn groes i amgyffrediad y cyhoedd – roedd menter Pawennau ar Batrol yn tawelu meddyliau perchnogion cŵn ar
hyn ·
Paratoadau
wrth i'r cyfyngiadau symud ddod i ben ac effeithiau posib hynny – sefydlu
clybiau ieuenctid ·
Cynnydd
mewn dwyn trawsnewidwyr catalytig – dywedwyd wrthynt
am weithred i sicrhau bod prosesau cywir ar gyfer trafod nwyddau o'r fath yn
cael eu dilyn ·
Cynnydd
mewn fandaliaeth mewn rhai ardaloedd – ffocws y grŵp datrys problemau
lleol ·
Yfed
a gyrru/ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lan y môr/partïon ar y traeth - gwydr ar
y traeth – pwerau posib i atal problemau ·
Gorchmynion
Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - yn ddatrysiad posib ond dylid bod yn ofalus
nad yw'n symud pobl yn unig ac yn symud y broblem i rywle arall ·
Mynd
i'r afael â Throseddau Casineb – mae Swyddogion Troseddau Casineb penodedig
sy'n cysylltu â chydlyniant ·
Ofn
yr heddlu ·
Arddangosiadau
cyhoeddus yn Abertawe - wedi'u plismona'n heddychlon lle'u
trefnwyd yn gywir a chadwyd a phellter cymdeithasol ·
Parhad
Arolygwyr yr Heddlu a chyfathrebu ag Aelodau Lleol i ddatblygu perthnasau ·
Pwerau
Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu – natur y rôl a phwerau ychwanegol a
roddwyd y tu allan i Gymru ·
Gweithredu
yn erbyn y rheini sy'n byw oddi ar enillion anfoesol ·
Ariannu
Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel - nodwyd nad oes cyllid wedi'i neilltuo, ond
derbyniwyd rhai grantiau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. ·
Cydbwysedd
Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Swyddogion yr Heddlu ·
Adrodd
ar wybodaeth/rwydwaith o ddata ·
Darparu
allgymorth ar-lein yn y dyfodol – cydbwysedd cymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb,
cafwyd rhai achosion lle'r oedd wyneb yn wyneb yn bwysig Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd, adroddiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y
Panel Craffu Perfformiad - Yr Amgylchedd Naturiol. Sefydlwyd y panel
newydd ym mis Gorffennaf 2019 ac roedd wedi cyfarfod 5 gwaith yn ystod y cyfnod
hwnnw. Byddai'n cyfarfod bob deufis yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at
gyflawniadau'r paneli a'r gwaith a drefnwyd yn y dyfodol, yn enwedig
canlyniadau cadarnhaol o graffu a arweiniodd at benodi Swyddog Dyletswydd
Bioamrywiaeth Adran 6 ac Ecolegydd Cynllunio. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 229 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Ni chafwyd unrhyw
ddiwygiadau. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Adolygiad Blynyddol o Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2020/21. PDF 321 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/21. Trefnwyd cyfarfod
nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 15 Mehefin 2021. Y brif eitem a drefnwyd
oedd Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 193 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfod nesaf paneli/gweithgorau. |