Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: Datganodd y Cynghorydd Mark Child gysylltiad
personol a rhagfarnol â Chofnod 51 "Adroddiad
Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Cyd.” a
gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad/Cynllun Adfer Covid-19. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr
Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif
Weithredwr a'r Dirprwy Brif Weithredwr yn bresennol er mwyn i'r Pwyllgor
ystyried ymateb presennol y cyngor a chynllunio adferiad o bandemig COVID-19. Darparodd y Prif
Weithredwr rai diweddariadau a oedd yn cynnwys: - ·
Effaith
gadarnhaol y cyfyngiadau symud ar nifer yr achosion, a oedd ar hyn o bryd tua
34 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth yn Abertawe. ·
Roedd
y rhaglen frechu yn mynd rhagddi'n dda gyda thua 128,000 o frechlynnau wedi'u
gweinyddu. ·
Roedd
disgyblion ysgolion cynradd wedi dychwelyd i'r ysgol, ac roedd disgyblion ysgol
uwchradd yn dychwelyd yn raddol ·
Roedd
cyfyngiadau ar waith o hyd ac roedd yn bwysig peidio â bod yn hunanfodlon a
pharhau i gadw at y cyfyngiadau hynny ·
Mae
datblygiad hil newydd o'r feirws yn parhau'n bryder ·
Roedd
epidemiolegwyr wedi rhagweld cynnydd yn y feirws – mae graddau'r cynnydd hwn yn
parhau'n ansicr ac yn anodd i'w ragweld gan ei fod yn dibynnu ar nifer o
ffactorau fel cyfyngiadau, cyflenwad parhaus o frechlynnau, cyflenwad y
brechlyn a nifer y bobl sy’n cael y brechlyn. Tynnodd y Dirprwy
Brif Weithredwr sylw at yr agweddau canlynol mewn perthynas â'r cynllun
adferiad:- ·
Bu
ton arall o'r feirws ers cymeradwyo adroddiad y Cabinet ym mis Hydref 2020 ·
Adolygiad
Llywodraethu – adolygu a symleiddio llywodraethu a chreu grŵp llywio
newydd ·
Ffrydiau
gwaith ac amserlen cyfarfodydd ·
Y
diweddaraf ar gamau gweithredu, a oedd yn cynnwys: o Cynllun
Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe o Rhaglen
Gyfalaf Safonau Ansawdd Tai Cymru a Chydymffurfiaeth o Gweithio
gartref yn ystod COVID-19 o Arolwg
Staff ar weithio gartref o Nodyn
briffio i reolwyr ar gymorth i staff o Strategaeth
Datblygu'r Gweithlu a'r Sefydliad o Polisi
Gweithio'n Ystwyth ·
Olrhain
Cyflawni ar gyfer targedau'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig Canolbwyntiodd
cwestiynau a thrafodaethau â'r Arweinydd a'r Swyddogion ar y canlynol: ·
Trefniadaeth
drawiadol gan y rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu ·
Sylw
yn y wasg yn ddiweddar ynghylch Brechlyn AstraZeneca ac effaith bosib ·
Cyfleoedd
i Aelodau gyfrannu at y Cynllun Adferiad – y broses o wneud penderfyniadau ·
Aelodaeth
Grŵp Cyswllt y Trydydd Sector yn y ffrwd Waith Cymorth Gymunedol – gan
gynnwys a oedd presenoldeb amgylcheddol ·
Aelodaeth
o'r Gweithgor Newid yn yr Hinsawdd yn ffrwd gwaith yr Economi a'r Amgylchedd ·
Heriau'r
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 - diffyg canllawiau statudol,
amserlenni, adnoddau ar gyfer asesiadau perfformiad ac adolygiadau cymheiriaid
ynghyd â sicrhau bod gweithio ar y cyd yn gynhyrchiol ac yn effeithlon ·
Cyfleoedd
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 – pŵer cymhwysedd
cyffredinol, strategaeth cyfranogiad cyhoeddus, gallu a chyfleoedd cydweithredu
a chydbwyllgorau corfforaethol ·
Cysylltu
ffrydiau gwaith a gweithio mewn partneriaeth ·
Gweithio
mewn partneriaeth ar adferiad Abertawe Diolchodd y
Pwyllgor i'r holl staff am eu gwaith yn ystod y pandemig. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc - Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2020. PDF 239 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod y Cabinet
dros y Gwasanaethau Plant, y Comisiynydd Arweiniol Strategol, y Cydlynydd
Hawliau Plant a Rheolwr Partneriaeth Cyfnodau Bywyd yn bresennol ar gyfer yr
adroddiad ar Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc
2020. Darparwyd Adroddiad Pontio hefyd ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a
Mawrth 2021 ac effaith y pandemig. Amlygwyd y prif
bwyntiau canlynol: - ·
Effaith
a phroblemau COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ar blant a phobl ifanc – cynnydd
mewn anghydraddoldebau ·
Gwersi
a ddysgwyd drwy'r pandemig gan gynnwys enghreifftiau
o arfer ymgysylltu yn ystod y cyfyngiadau symud ·
Enghreifftiau
o arfer ymgysylltu yn ystod COVID-19 ·
Weithiau
gallai cyfarfodydd ar-lein gynnig mwy o gyfle i gynyddu cysylltiad ·
Ailstrwythuro
Tîm Cyfnodau Bywyd y cyngor ·
Diwygiad
arfaethedig i'r Cynllun Hawliau Plant – datblygu 'cynllun ar dudalen' – roedd y
ddogfen hygyrch hon wedi'i chasglu gan y Comisiynydd Plant fel enghraifft o
arfer da i'w rhannu ledled Cymru ·
Ailstrwythuro
ac Ailfodelu gwaith Hawliau Plant ·
Bylchau
ac Argymhellion ar gyfer adferiad o Covid-19 ·
Sicrhau
bod gwybodaeth ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud heb fod y pwyntiau mynediad
arferol fel yr ysgol a gwasanaethau eraill ar gael ·
Roedd
pobl ifanc wedi bod yn ymwneud â phenodiadau'r Cyfarwyddwr Addysg a Phennaeth y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:- ·
Diogelu
hawliau ·
Ystyried
pleidleisiau yn 16 oed – sut i gefnogi llythrennedd gwleidyddol plant a phobl
ifanc i'w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus wrth bleidleisio ·
Sefyllfa
ysgolion nad oeddent yn ymwneud â pharchu hawliau – roedd y ffordd y
gweithredwyd parchu hawliau wedi newid ac yn cael ei chyflwyno i'r cwricwlwm
newydd ·
Posibilrwydd
o gael hyrwyddwr CCUHP ym mhob ysgol Diolchodd y
Comisiynydd Arweiniol Strategol i Aelodau'r Cabinet a'r Cynghorwyr am gefnogi a
datblygu'r gwaith hwn, yn ogystal â'r swyddogion. Diolchodd y
Cadeirydd ac Aelod y Cabinet i'r Cynghorydd Sam Pritchard, cyn-aelod y Cabinet
dros y Gwasanaethau Plant. Diolchwyd Aelod y
Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorwyr Paxton Hood-Williams a Susan Jones, Cynullwyr,
Adroddiad Cynnydd Panel Craffu Perfformiad ar y Cyd y Gwasanaethau
Cymdeithasol. Yn dilyn yr
adroddiad ysgrifenedig, tynnwyd sylw'n benodol at y ffaith bod Panel Craffu Perfformiad
Gwasanaethau i Oedolion a Phanel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Blant a
Theuluoedd wedi dod at ei gilydd i ffurfio Panel Craffu Perfformiad ar y Cyd y
Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y pandemig er mwyn
cynnal craffu, ond heb roi gormod o bwysau ar swyddogion wrth eu bod yn ymdrin
â'r pandemig. Roedd y prif
bryderon yn ymwneud â gofalwyr ac iechyd meddwl. Roedd y paneli
bellach wedi rhannu eto yn eu paneli ar wahân a byddai cyfarfodydd yn y dyfodol
yn edrych ar gyllideb a chydweithio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Diolchodd y cynullwyr a'r Cadeirydd i'r staff am eu holl waith yn ystod
y pandemig. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 230 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Ni chafwyd unrhyw
ddiwygiadau. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2020/22. PDF 259 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/22. Trefnwyd Pwyllgor
nesaf y Rhaglen Graffu ar 13 Ebrill 2021. Y brif eitem a drefnwyd oedd y
Strategaeth Digartrefedd. Nododd y
Cadeirydd fod COVID-19 wedi'i drefnu bob deufis ar gynllun gwaith y Pwyllgor,
ac awgrymwyd, o ystyried yr amser y gallai adferiad gymryd, y gallai
diweddariadau bob deufis fod yn rhy aml ac y gellid trefnu eitemau eraill yn y
cynllun. Byddai'r Arweinydd a Chadeirydd y Tîm Craffu yn trafod diweddaru'r
cynllun gwaith ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 195 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfod nesaf y paneli/gweithgorau. |
|