Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd Mike Day – Cofnod Rhif 40 –  Mae'n byw gyferbyn ag un o'r cynlluniau teithio llesol a drafodwyd – Personol

 

Y Cynghorydd Mark Child – Cofnod Rhif 40 – Aelod ward ar gyfer West Cross, soniwyd am Fairwood Road yn ystod trafodaethau – Personol

35.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

36.

Cofnodion. pdf eicon PDF 255 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

37.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu Adroddiad Blynyddol Craffu 2019/20. Mae'r adroddiad yn amlygu'r gwaith a wnaed gan graffu, ac yn dangos sut mae craffu wedi gwneud gwahaniaeth wrth hefyd gefnogi gwelliant parhaus swyddogaeth craffu. Mae'r adroddiad hefyd yn sôn am bandemig ac adnoddau COVID-19, a gafodd effaith ar gyflawni'r rhaglen waith craffu yn ystod 2019/20.

 

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd craffu a'r angen i hyrwyddo'r gwaith a wnaed yn benodol mewn meysydd lle'r oedd craffu wedi cael effaith ac wedi gwneud gwelliannau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a gymerodd ran yn y gwaith craffu.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Craffu 2019/20 a'i roi gerbron y cyngor.

38.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd) pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd, Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, a thrafodwyd gweithgareddau'r panel dros y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd sylw'n benodol at y ffaith bod eleni wedi bod yn unigryw iawn a gwariwyd ar bethau na fyddent fel arfer yn ddisgwyliedig e.e. adeiladu ysbyty Maes y Bae, gwario ar offer cyfarpar amddiffyn personol ac ati.

 

Dywedodd fod y cyngor wedi perfformio'n dda yn ystod y pandemig ac y dylid canmol yr holl staff. Er enghraifft, roedd gwaith gwasanaethau casglu gwastraff wedi bod yn rhagorol yn ystod y pandemig yn ogystal â'r swyddogion a oedd wedi rhoi ad-daliadau a grantiau niferus i helpu busnesau bach.

 

Mae llawer o staff wedi gorfod ymdrin â COVID-19 yn bersonol, p'un a oeddent wedi bod yn sâl eu hunain, neu fod aelodau o'u teulu wedi bod yn sâl neu wedi dioddef profedigaeth. Roedd wedi bod yn gyfnod llawn straen i'r staff a theimlwyd y dylid cydnabod eu hymdrechion a'r gwaith rhagorol a wnaed ganddynt yn ystod y cyfnod hwn ym mha ffordd bynnag y bo modd yn y dyfodol.

 

O ystyried blwyddyn ddigynsail ac effaith y pandemig, ychwanegodd ei fod yn anodd dweud beth fyddai'r sefyllfa ariannol yn y dyfodol, ond bydd y panel yn monitro'r gyllideb yn ofalus.

 

Nododd y Cadeirydd fod COVID-19 wedi cael effaith ar incwm y cyngor (rhenti, Treth y Cyngor, ac ati) ac y byddai'n werth monitro o hyn ymlaen, asesu'r incwm a gollwyd ar draws pob ffrwd incwm, a gweld pa mor dda y mae hyn wedi cael ei adennill.

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariad.

39.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan aelodau'r cyhoedd.

 

Gofynnodd Mr Anderson a oedd yn siarad ar ran Cymdeithas Preswylwyr Blackpill, Derwen Fawr a Mayals y cwestiwn canlynol:-

 

Mae paragraff 3.1.3 o'r Canllawiau Dylunio yn datgan: 'Dylai ymgynghori arwain at ddylunio gwell a chynlluniau gwell. O ganlyniad, mae'n well ei wneud ar sawl cam: o ddatblygu'r rhwydwaith i gynlluniau unigol. (...) a chael mwy o gefnogaeth gymunedol.' O ystyried y protestiadau cyhoeddus enfawr yn erbyn y ddau gynllun (Olchfa a Mayals) a'r gred gyffredinol bod dewisiadau amgen gwell ar gael i'r ddau, pam yr anwybyddwyd yr agwedd hon?

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod y cyngor yn gweithredu o dan ganllawiau teithio llesol 2014 ac archwiliwyd i bob dewis arall a awgrymwyd. Fe’u gwrthodwyd gan nad oedent yn ymarferol. Dywedodd fod yr holl ofynion o dan y canllawiau presennol yn cael eu bodloni, ac yn ogystal â hyn mae'r cyngor wedi ymgysylltu ag unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â’u barn. Lle y bo'n bosibl, mae newidiadau wedi'u gwneud i'r llwybrau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Cafwyd trafodaeth am y canllawiau dylunio sydd ar waith a oedd yn cael ei ddiwygio ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.  Dywedodd Aelod y Cabinet y byddai arfer ynghylch ymgynghori’n cael ei addasu pe bai angen yn unol ag unrhyw ganllawiau newydd a gyhoeddir yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru.

 

Gan fod nifer o aelodau'r cyhoedd nad oeddent yn bresennol wedi cyflwyno cwestiynau, gofynnodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd roi ymateb ysgrifenedig i bob un. Ychwanegodd y byddai rhai o'r materion a godwyd yn cael sylw yn ystod trafodaeth y pwyllgor gydag Aelod y Cabinet.

40.

Proses Ymgynghori Teithio Llesol - Trafodaeth ag Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd. pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, Rheolwr yr Uned Drafnidiaeth Integredig, Prif Beiriannydd Priffyrdd a Chludiant ac Arweinydd y Tîm Priffyrdd a Chludiant yn bresennol er mwyn i'r pwyllgorau ystyried y broses ymgynghori ar deithio llesol.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith mai nod yr eitem hon, oedd holi ynghylch proses ymgynghori'r cyngor ar deithio llesol ac ystyried gwelliannau posibl ar gyfer y dyfodol, a hynny oherwydd pryderon y cyhoedd. Pwysleisiodd nad oedd yn ymwneud ag edrych ar fanylion cynlluniau penodol y cytunwyd arnynt eisoes, nac ymholiadau sy'n benodol i safle, ond y profiad cyffredinol o ymgynghori.

 

Darparodd yr Aelod y Cabinet amlinelliad o'r ymgynghoriad ar deithio llesol a dilynwyd hyn gan drosolwg o'r broses gan Arweinydd y Tîm, Priffyrdd a Chludiant ac yna drosolwg o’r broses gyflawni gan y Prif Beiriannydd, Priffyrdd a Chludiant. Tynnwyd sylw at y canlynol:

 

·                Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 – mae’n gosod cyfrifoldeb statudol ar y cyngor i fapio, cynllunio a gwneud gwelliannau i'w rwydweithiau teithio llesol

·                Deddf Llesiant a Chynhyrchu'r Dyfodol (Cymru) 2015 – mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi'r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith ym mhopeth y mae’n ei wneud – 5 ffordd o weithio

·                Aiff yr holl gynlluniau teithio llesol drwy Broses Fframwaith Cenedlaethau'r Dyfodol ac asesir pob cynllun gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru.

·                Yn 2016 creodd Cyngor Abertawe 2 Fap fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 – 1 map oedd y Map Llwybrau Presennol (MLlP) a'r llall oedd y Map Rhwydwaith Integredig (MRhI) ar gyfer llwybrau cerdded a beicio

·                Cyhoeddwyd yr MRhI drafft i ymgynghori arno yn 2017, ac fe'i hanfonwyd wedyn at Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo

·                Gwneir ceisiadau am grant bob blwyddyn yn seiliedig ar y map

·                Y broses o wneud cais am grant - mae Llywodraeth Cymru'n clustnodi cyllid grant bob blwyddyn – gwahoddir ceisiadau am grant tua mis Rhagfyr/mis Ionawr, gan roi tua 4-6 wythnos i lunio'r ceisiadau am grant. Cyhoeddir canlyniadau'r cais hwnnw’n gyffredinol ym mis Mai/Mehefin ac mae'n rhaid cyflawni'r cynlluniau erbyn diwedd mis Mawrth yn y flwyddyn ariannol honno

·                Eleni, ar ôl clustnodi’r cyllid grant, hysbyswyd aelodau ward mewn ardaloedd lle cymeradwywyd cynlluniau gan y Cynghorydd Mark Thomas

·                Roedd cyfnod byr i ddatblygu'r rhaglen fanwl ar ôl i’r arian grant gael ei gymeradwyo

·                Dosbarthwyd llythyrau am rai cynlluniau i breswylwyr yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol yn ogystal â sesiynau MS Teams ar gynlluniau Mayals a Sgeti

·                Unwaith y cytunwyd ar gynlluniau byddai unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliannau/diwygiadau wedi'u cadw o fewn y cynllun y cytunwyd arno 

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                Holi ynghylch pa fanylion penodol am gynlluniau a gynhwyswyd yn adroddiad Cabinet FPR7 ym mis Gorffennaf 2020 – dywedodd swyddogion y cyfeiriwyd at fapiau fel papurau cefndir

·                Hysbysu Aelodau perthnasol y Ward am gynlluniau

·                Ymgynghoriad ar ddatblygu'r mapiau rhwydwaith/llwybrau - Syniadau ar gyfer gwella cynlluniau neu ychwanegu atynt.

·                A gynhaliwyd astudiaethau dichonoldeb cyn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian grant – dywedwyd y dilynwyd yr holl ganllawiau

·                A oedd y cyngor wedi derbyn unrhyw bryderon gan Lywodraeth Cymru ynghylch dull Cyngor Abertawe o ymdrin â theithio llesol – dywedwyd na fu unrhyw bryderon

·                Cyfle i ymgynghori ar gynlluniau a’u diwygio ar ôl cytuno arnynt. Gofynnodd y pwyllgor i weld unrhyw bapurau a gododd o gyfarfodydd rhithwir a gynhaliwyd ynglŷn â chynllun Mayals yn ogystal ag eglurder ynghylch nifer y llythyrau a anfonwyd at breswylwyr

·                A yw'r canllawiau statudol yn darparu ar gyfer ymgynghori digonol – o ystyried profiad y preswylwyr a’r ffaith eu bod yn teimlo nad ymgynghorwyd â hwy

·                Archwiliadau diogelwch ffyrdd a gynhaliwyd ar bob cynllun ac amodau ar gyfer llwybr a rennir o’i gymharu â llwybr ar wahân

·                Cysondeb mewn agweddau – crybwyllwyd Cynllun Walters Road fel cynllun mawr yr oedd angen agwedd wahanol ar ei gyfer, rhywbeth nad yw'n bosib ei wneud ar bob cynllun os ydynt yn mynd i ddatblygu

·                Rheoli'r ffactorau a'r safbwyntiau sy'n cystadlu a barn pawb

·                Pobl yn teimlo nad ydynt yn ymwybodol ac nad ymgynghorwyd â hwy ar y cynlluniau hyn sy'n arwain at ragor o waith i'r cyngor o ran mynd i'r afael â hyn/ymateb iddo

·                Gwersi a ddysgwyd o brofiad diweddar

·                Anawsterau ymarferol gan gynnwys cyfyngiadau amser ar gynlluniau teithio llesol ar ôl i'r cyllid gael ei gadarnhau.

 

Diolchodd y cadeirydd i Aelodau a Swyddogion y Cabinet.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

41.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Ni chafwyd unrhyw ddiwygiadau.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

42.

Rhaglen Waith Craffu 2020/2022. pdf eicon PDF 260 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/22.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 16 Mawrth 2021. Y prif eitemau a drefnwyd oedd Adroddiad Cynnydd Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2019 a chraffu cyn penderfynu ar adroddiad y Cabinet ar 'Achos Busnes dros Adleoli'r Ganolfan Ddinesig'.

 

Nodwyd y gallai adroddiad y Cabinet gael ei ohirio, felly byddai craffu'n symud ymlaen yn unol â hynny.

 

Teimlai'r Cadeirydd y dylai'r pwyllgor ailedrych ar Gynllun Adferiad COVID-19 y cyngor a chytunodd y pwyllgor y dylai ofyn am adroddiad cynnydd ar gyfer cyfarfod mis Mawrth hefyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Holley ei fod wedi cael cais i edrych ar Is-ddeddfau'r cyngor a'i fod wedi cael rhywfaint o drafodaeth anffurfiol gychwynnol â swyddogion ynglŷn â chraffu. Dywedodd y byddai hyn yn cael ei archwilio yng nghyfarfod y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Chyllid yn y dyfodol. 

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad. 

43.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Nododd y pwyllgor ganlyniad cyfarfod dilynol yr Ymchwiliad Cydraddoldeb ar 28 Ionawr, a oedd yn edrych ar gynnydd y gwaith o roi argymhellion craffu ar waith ac effaith yr ymchwiliad. Er i'r panel gydnabod rhywfaint o gynnydd da, a gynullwyd gan y Cynghorydd Lyndon Jones, teimlwyd bod angen cynnal cyfarfod dilynol pellach, tua mis Tachwedd 2021, a fydd yn caniatáu i'r panel ystyried ac asesu'n well y cynnydd a wnaed ac effaith yr ymchwiliad, cyn i'r gwaith monitro ffurfiol ddod i ben.

 

Penderfynwyd nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

44.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 197 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfod nesaf y panel/gweithgor.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 171 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 453 KB