Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. PDF 258 KB a) Gwybodaeth Gefndir b) Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe 2019/20 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr adroddiad ar 'Graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe' a
chroesawodd y Cynghorydd Andrea Lewis, y Cynghorydd Clive Lloyd, Roger Thomas,
Adam Hill a Cherrie Bija a
oedd i gyd yn bresennol i ystyried yr eitem hon. Cyflwynodd y
Cynghorydd Clive Lloyd, cyn-gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe,
Adroddiad Blynyddol 19/20 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a thynnodd sylw
at y canlynol: ·
Adolygiad
Llywodraethu a Strwythur Newydd ·
Gweithio
tuag at fethodoleg sy'n fwy seiliedig ar gyd-gynhyrchu ·
Sefydlu
4 amcan allweddol - 1.
Blynyddoedd
Cynnar 2.
Byw'n
Dda, Heneiddio'n Dda 3.
Gweithio
gyda Natur 4.
Cymunedau
cryf ·
Ymgorffori'r
pedwar amcan yn sefydliadau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'u busnes dyddiol ·
Y
gallu i ymateb a chydweithio ar faterion allweddol wrth iddynt godi e.e.
diogelwch cymunedol a grwpiau digwyddiadau critigol ar linellau sirol ·
Effaith
COVID-19 - dim cyfarfod ffurfiol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystod y
cyfyngiadau symud cyntaf, ond cafwyd ymateb rhanbarthol a chydweithio
ardderchog yn ystod y pandemig ·
Ystyried
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mwy rhanbarthol Amlinellodd y
Cynghorydd Andrea Lewis, Cadeirydd presennol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
rai meysydd cynnydd ers cymryd yr awenau fel Cadeirydd ·
Sefydlu
3 maes blaenoriaeth ar ôl COVID-19 1.
Dinas
er Lles a Bywyd Gwyllt 2.
Agenda
Newid yn yr Hinsawdd Werdd 3.
Llinellau
Sirol, camddefnyddio sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ·
Siarter
Newid yn yr Hinsawdd i'w chyflwyno i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i annog
sefydliadau partner i ymuno â'r siarter ·
Cyffredinrwydd
a chydweithio ar faterion rhanbarthol fel camddefnyddio sylweddau Nododd Adam Hill,
Dirprwy Brif Weithredwr, fod y cysylltiadau a'r rhwydweithiau rhanbarthol a
adeiladwyd fel rhan o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn galluogi gwell ymateb i
bandemig COVID-19. Tynnodd sylw hefyd at rai meysydd
cynnydd allweddol ar draws y 4 amcan lles: ·
Blynyddoedd
Cynnar – SKIP Meithrin, swyddog 30 awr o ofal plant a ariennir, hyfforddiant
nad yw’n hyfforddiant Dechrau'n Deg, ymgyrch Dechrau Gorau ·
Byw'n
Dda, Heneiddio'n Dda – Y Sgwrs Fawr - fforymau ar draws y sir ·
Gweithio
gyda Natur – Digwyddiadau ymgysylltu â'r Isadeiledd Gwyrdd, Cynllun Plannu Coed
Trefol, Fforwm Amgylcheddol Abertawe a Chanolfan Amgylcheddol ·
Cymunedau
Cryfach – gwelliannau i'r Stryd Fawr yn ogystal ag ymatebion allweddol a
chydweithio ar droseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, llinellau sirol,
camddefnyddio sylweddau, gweithwyr rhyw ar y stryd a manteisio ar bobl sy'n
agored i niwed a mannau cyhoeddus Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:- ·
Cylch
Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Cyflawni
amcanion lles ·
Rhai
enghreifftiau o welliannau/fentrau a weithredwyd – faniau
patrolio rheolaidd ar y Stryd Fawr, rhaglen cyfnewid nodwyddau, prosiect SWAMP,
parseli bwyd i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod COVID-19, ymgyrch lanhau ar
gyfer siopau ac unedau manwerthu, gwella tai ar y Stryd Fawr, ymatebion i
ymddygiad gwrthgymdeithasol, plannu coed trefol, Men’s
Sheds, cyllid a sicrhawyd ar gyfer tanau ar Kilvey Hill, cynigion gofal plant a Dechrau'n Deg. ·
Grŵp
Digwyddiadau Difrifol a chydweithio ar faterion sy’n gofyn am ymateb cyflym ·
Anhawster
cyrraedd nodau tymor hir a chyflawni uchelgeisiau gyda heriau ariannol a newid
gwleidyddol ·
Archwilio
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol er mwyn osgoi dyblygu gwaith i
sefydliadau sy'n gweithio ar draws nifer o Fyrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus ·
Strwythur
gweithio mewn partneriaeth yn ystod COVID-19 ·
Gwaith
o gwmpas gwella pa mor barod yw plant i fynychu'r ysgol – y gallu i fonitro a
mesur cynnydd ·
Trefniadau
mesur a rheoli perfformiad i ddangos y gwahaniaeth y mae'r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus yn ei wneud ·
Anhawster
mesur effaith rhai camau gweithredu, yn enwedig rhai tymor hir, ac wrth ddelio
â chanlyniadau mwy ansoddol a hefyd lle mae angen ystyried canlyniadau meintiol
negyddol e.e. yr hyn na ddigwyddodd o ganlyniad i weithred/fenter ·
Materion
ariannu ac adnoddau dan bwysau mewn sefydliadau partner – defnyddioldeb
cyllidebau cyfun pe baent ar gael Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd Clive Lloyd, y Cynghorydd Andrea Lewis, Roger Thomas
ac Adam Hill. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Addysg, adroddiad
ar 'yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Panel Craffu Perfformiad Addysg'. Amlygodd y
canlynol yn benodol: - ·
Pryder
parhaus ynghylch tanberfformiad plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ·
Anfonodd
y Panel lythyr at yr holl athrawon a staff yn yr adran addysg, yn diolch iddynt
am eu gwaith yn ystod y pandemig ac am roi dysgu
cyfunol ar waith ar gyfer disgyblion ·
Newidiadau
i Gynllun Gwaith y Panel er mwyn peidio ag ychwanegu gormod o waith ychwanegol
at y rhai sy'n ymdrin â COVID-19, o ystyried y pwysau presennol Trafododd y
pwyllgor yr angen i'r Panel ofyn am ganlyniadau'r Grant Datblygu Disgyblion a
monitro ei effaith yn lleol. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 238 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu', yn dilyn cytuno
ar raglen waith craffu Penderfynwyd cymeradwyo aelodaeth y paneli a'r gweithgor fel yr amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2020/22. PDF 264 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2020/22. Nodwyd y byddai'r
Rhaglen Waith yn destun ceisiadau gan gynghorwyr/y cyhoedd a dderbynnir drwy
gydol y flwyddyn. Derbyniwyd cais cyhoeddus ynglŷn â phryderon ynghylch y
gwaith ar y llwybr ceffylau yng nghoedwig Dyffryn Clun, sydd wedi'i anfon at
Aelod y Cabinet dros wella'r Amgylchedd
a Rheoli Isadeiledd i ymateb iddo. Soniodd y Cadeirydd hefyd am ohebiaeth gyhoeddus
a dderbyniwyd gyda safbwyntiau a oedd yn ymwneud â'r adroddiad Cabinet sydd ar
y gweill ar 'Prydlesu Arfaethedig i Gyngor Cymunedol y Mwmbwls dan y Polisi
Trosglwyddo Asedau Cymunedol', ynghylch datblygu parc sglefrio newydd. Bydd yr
adroddiad hwn yn destun craffu cyn penderfynu yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis
Ionawr. Cyfeiriodd y
Cadeirydd hefyd at gynnwys nifer bach o bynciau penodol yng nghynllun gwaith y
pwyllgor er mwyn sicrhau bod digon o sylw i graffu ar draws holl bortffolios y Cabinet
a'u bod yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y
rhaglen waith gyffredinol. Darparwyd
cynlluniau gwaith ar gyfer Paneli Craffu Perfformiad ar gyfer ymwybyddiaeth y
Pwyllgor. Nodwyd bod rhai cynlluniau
gwaith y Panel Perfformiad wedi'u haddasu er mwyn cefnogi adrannau i ymdrin â
COVID-19 a heb greu llwyth gwaith ychwanegol sylweddol. Cyfeiriodd Cynullydd
Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol at ganslo cyfarfod a gynlluniwyd ar
gyfer 14 Rhagfyr oherwydd pwysau COVID-19 a oedd yn effeithio ar bresenoldeb
aelodau'r Cabinet/swyddogion. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Roedd hyn yn cynnwys
gohebiaeth â'r arweinydd yn dilyn trafodaeth ar yr ymateb i COVID-19 a'r cynllun
adfer yng nghyfarfod y pwyllgor ym mis Tachwedd. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r tîm craffu. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 192 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. |
|
Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 244 KB |