Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||||
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion Pwyllgorau'r
Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2020 ac 1 Hydref 2020 a'u llofnodi fel
cofnod cywir. |
|||||||||||||||
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn
y cyfarfod a rhaid iddynt ymwneud â’r eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau
o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gwestiynau cyhoeddus. |
|||||||||||||||
Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. PDF 416 KB Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd y Cynghorwyr Mark Child a June Burtonshaw i Bwyllgor y Rhaglen
Graffu. Croesawodd hefyd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor, y Cynghorydd
Susan Jones fel Cynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion ac aelod
cyfetholedig Pwyllgor y Rhaglen Graffu.
Cyflwynodd Arweinydd
y Tîm Craffu yr adroddiad ar 'Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu' Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cytuno
ar gyfethol cynullwyr y Panel Perfformiad Craffu i'r Pwyllgor; a 2) Chytuno i gyfethol sefydliadau partner i alluogi cynrychiolwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|||||||||||||||
Diweddariad ar Gynllunio Ymateb ac Adfer COVID-19 PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr
Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif
Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn bresennol er
mwyn i'r Pwyllgor ystyried ymateb y cyngor i bandemig COVID-19 a chynllunio
adferiad. Tynnodd y Prif
Weithredwr sylw at rai diweddariadau a oedd yn cynnwys: - ·
Effaith
yr ail don ·
Cefnogi
busnesau drwy'r cyfnod atal byr ·
Datblygiadau
o frechlynnau a pharatoi ar gyfer cyflwyno brechiad torfol ·
Rheoli
mewnfudo o Denmarc yn dilyn mwtaniad COVID-19 mewn mincod ·
Effaith
ac adnoddau ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu ·
Materion
ychwanegol ar wahân i COVID-19 yn herio'r cyngor, gan gynnwys y tywydd a
llifogydd ·
Monitro
lles staff ·
Monitro'r
angen am yr ysbyty maes ·
Cymorth
i Ganol y Ddinas ·
Cynnydd
prosiect adfywio Cam 1 Abertawe Ganolog Roedd cwestiynau
a thrafodaethau gyda'r Arweinydd a'r Swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cynnydd
gwybodaeth/sgwrs ar frechiadau a meysydd blaenoriaeth ·
Yr effaith
ar staff pe bai angen yr ysbyty maes ·
Graddfa'r
bobl sy'n cyrraedd o Denmarc – cysylltwyd ag achosion hysbys ac fe’u cynghorwyd
i hunanynysu ·
Sefyllfa
manwerthwyr mawr yn Abertawe ·
Y tri
cham (ailddechrau, newid ffocws ac ail-lunio) ac amserlenni'r Cynllun Adfer ·
Eglurhad
o'r cam ail-lunio – Adolygiad o'r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Cyfalaf a'r
Gweithlu ·
Strategaeth
Trawsnewid 2022 – 2026 – Cynnwys deddfwriaeth bellach e.e. Deddf yr Amgylchedd
yn ogystal â Brexit – manylion pellach i'w cynnwys yn y Cynllun Gweithredu ·
Effeithiau
posib Brexit Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd a'r
Swyddogion. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|||||||||||||||
Rhaglen Waith Craffu 2020/22. PDF 288 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd
y Tîm Craffu adroddiad ar Raglen Waith Craffu 2020/22 i'w ystyried a thynnodd
sylw at y canlynol: - ·
Papurau
o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020, a amlinellir yn
Atodiad 1 o'r adroddiad; ·
Crynodeb
o'r pynciau a awgrymwyd yn Atodiad 2 o'r adroddiad; a ·
Amlinellir
Rhaglen Graffu drafft 2020/22 yn Atodiad 3 o'r adroddiad. Cynhaliodd y
Pwyllgor drafodaeth ar y Rhaglen Waith ddrafft a oedd yn canolbwyntio ar y
canlynol: - ·
Pynciau
sy'n cyd-fynd â'r Blaenoriaethau Corfforaethol gan ganolbwyntio ar feysydd sy'n
peri pryder. ·
Symud
oddi wrth Sesiynau Holi ac Ateb arferol gydag Aelodau'r Cabinet i ganiatáu
amser ar gyfer materion amserol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ·
Ailddechrau'r
Panel Ymchwiliad Caffael ·
Caiff
gwaith craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei wneud gan Bwyllgor y Rhaglen
Graffu yn hytrach na phanel perfformiad ar wahân ·
Newid
amlder Paneli Perfformiad Oedolion, Plant a Theuluoedd a'r Amgylchedd Naturiol ·
Cynigwyd
gweithgorau ar gyfer y Gweithlu, Cynhwysiant Digidol, Gwasanaethau Bysus a
Dinas Iach ·
Hyblygrwydd
i edrych ar faterion sy'n codi drwy gydol y flwyddyn Darparwyd
cynlluniau gwaith y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgorau Datblygu Polisi er mwyn
helpu i nodi ac osgoi dyblygu gwaith. Tynnwyd sylw hefyd
at effaith COVID-19 fel ystyriaeth ar adnoddau a gweithgarwch craffu, a gallai
effeithio ar gyflawni'r rhaglen waith. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Cytuno ar y
Rhaglen Waith Graffu ddrafft ar gyfer 2020/22. 2) Cytuno ar gynllun gwaith arfaethedig y Pwyllgor |
|||||||||||||||
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 238 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Aelodaeth o Baneli Craffu a Gweithgorau'. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Ychwanegu'r
Cynghorydd Peter Black at y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid; 2)
Ychwanegu'r
Cynghorydd Mike Day at Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd; 3)
Caiff
y Cynghorydd Peter Jones ei dynnu oddi ar Banel Craffu Perfformiad y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd; 4)
Caiff
y Cynghorwyr Peter Black a Peter Jones eu tynnu oddi ar Banel Craffu
Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion; 5)
Caiff
y Cynghorydd Louise Gibbard ei thynnu oddi ar unrhyw Baneli a Gweithgorau; a 6)
Nodi Cynullwyr y Panel Perfformiad fel a ganlyn:
|
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm
Craffu. |
|||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 196 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y
Panel/Gweithgor sydd ar y gweill. Dywedodd y Cadeirydd
y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 15 Rhagfyr yn canolbwyntio ar: ·
Craffu
ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus · Craffu cyn penderfynu ar adroddiad a chaiff ei gyflwyno i'r Cabinet ar 17 Rhagfyr ynghylch y Prydlesu Arfaethedig i Gyngor Cymunedol y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol, sy'n ymwneud â datblygiad arfaethedig Parc Sglefrio newydd gan y Cyngor Cymuned. |
|||||||||||||||