Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y
Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diweddariad am yr Ymateb i COVID-19 a'i Adferiad. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr
Arweinydd / Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif
Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Lleoedd yn bresennol wrth i’r i’r
Pwyllgor ystyried y diweddariad ar ymateb y cyngor i’r pandemig
COVID-19 a chynllunio adferiad yn ei sgîl. Darparodd yr
Arweinydd gyflwyniad a oedd yn cynnwys: - ·
Sefyllfa
Bresennol COVID-19 ·
Penderfyniadau
Allweddol ·
Datblygu’r
Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ·
Amserlen/Amlinelliad
Cynllunio Adferiad ·
Heriau
Presennol Cafwyd cwestiynau
a thrafodaethau â’r Arweinydd a'r Swyddogion ynghylch ystod o faterion, gan
gynnwys y canlynol: ·
Sefyllfa
bresennol COVID-19 a gwybodaeth am achosion o COVID -19 yn yr ardal ·
Y
cyngor sydd ar gael i Ganolfannau Cymunedol a busnesau i helpu gydag ailagor ·
Gweithio
mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill ar Raglen Profi, Olrhain a Diogelu ·
Tanwariant
o £18 miliwn ar alldro disgwyliedig y gyllideb ·
Y
costau mewn perthynas â COVID-19 a’r posibilrwydd o adennill costau ·
Abertawe
yn gyngor sy’n berchen ar lawer o dir - posibilrwydd ychwanegol y bydd colled
mewn incwm ·
Cefnogaeth
ariannol i Farchnad Abertawe a Freedom Leisure ·
Statws
presennol o ran derbyn sachau du mewn safleoedd amwynderau dinesig ac ailagor
llyfrgelloedd a swyddfeydd tai rhanbarthol ·
Profi
parhaus mewn cartrefi gofal ·
Goblygiadau
adnoddau/staffio'r Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ·
Ffocws
bwriadus cynllun adfer y cyngor ·
Cynllun
adfer Llywodraeth Cymru ·
Effaith
COVID-19 ar fuddsoddiad yn y sector preifat yn y dyfodol ·
Buddsoddiad
Llywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru mewn prosiectau/cynlluniau isadeiledd lleol ·
Cronfa
Ffyniant Gyffredin arfaethedig y DU a'r dyraniad posib yn dilyn Brexit ·
Nifer
y busnesau yng nghanol y ddinas sydd wedi ailagor - mae tua ¾ o leoliadau
lletygarwch ar gau o hyd nes y gallant agor y tu mewn ·
Yr
effaith ar wasanaethau bysus a lefel bresennol y gwasanaeth ·
Ymdrin
â/dysgu sut i fyw gyda COVID-19 yn y tymor hir ·
Cefnogaeth
ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid - awdurdodaeth/pwyso am wasanaeth
teithio gwell neu am ddim Diolchodd y
Cadeirydd i'r Arweinydd, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Lleoedd am ddod i'r
cyfarfod. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 173 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. |
|