Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif
88 - Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y
Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2020 a chofnodion cyfarfodydd arbennig
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2020 a 4 Mehefin 2020 fel
cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Ymateb y Cyngor i Bandemig COVID-19. PDF 226 KB Cofnodion: Roedd yr
Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif
Weithredwr, y Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyllid a'r Rheolwr Iechyd,
Diogelwch a Lles Corfforaethol oll yn bresennol yn y cyfarfod pwyllgor i ystyried
ymateb y cyngor i bandemig COVID-19. Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad a oedd yn cynnwys: - · Strwythur gwneud penderfyniadau yn ystod yr argyfwng · Ail-lunio gwasanaethau'r cyngor yn gyflym · Cefnogi'n GIG · Ehangu gofal cymdeithasol · Cefnogi gweithwyr allweddol · Cefnogi pobl ddiamddiffyn · Helpu'r digartref · Profi, Olrhain, Diogelu · Talu am gost COVID-19 Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Arweinydd a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: · Trefniadau cynllunio rhag argyfyngau - gweithio ar y cyd, trefniadau rheoli strategol a Fforwm Cydnerthu Lleol De Cymru. · Cefnogaeth angenrheidiol i geiswyr lloches a ffoaduriaid - goresgyn cyfyngiadau ar daliadau a bod yn gallu teilwra pecynnau bwyd fel eu bod yn addas i anghenion · Dim troi at arian cyhoeddus - problem ond nid yw wedi atal y gallu i ddarparu gwasanaethau lleol i'r rhieni mewn angen · Angen adnoddau a phosibilrwydd y bydd gofyniad parhaus am barseli bwyd yn dilyn yr argyfwng · Pryder economaidd parhaus ac anghenion cynyddol · Digartrefedd - cynnydd posib yn ystod ac ar ôl yr argyfwng; trafodaeth am wrthod derbyn cynnig o dŷ a gwasanaeth 'Tai yn Gyntaf' a chefnogaeth gynhwysol y cyngor · Gweithio mewn partneriaeth yn benodol gyda busnesau yn ystod yr argyfwng ac o ran cynllunio ar gyfer adfer. · Rhaglen y Fargen Ddinesig - mae gwaith wedi parhau ac yn parhau o hyd ac nid yw'r argyfwng wedi effeithio ar y cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru · Problem o ran prydles ysbyty maes y Bae a allai effeithio ar ei ddefnydd yn y dyfodol fel canolfan ychwanegol at ddibenion iechyd. · Effaith gweithio gartref yn fwy ar wasanaethau a staff - cydbwyso manteision gweithio gartref ag iechyd, diogelwch a lles. Teimlwyd ei fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gweithio rhanbarthol, ond cydnabyddir y cyfyngiadau · Adolygu polisïau gweithio hyblyg a gartref ac edrych ar y gwersi a ddysgwyd o'r cyfnod hwn · Ailgychwyn y gwasanaeth casglu sbwriel a chanolfannau ailgylchu ac effaith cyfyngiadau ar y gwasanaeth · Goblygiadau ariannol COVID-19 gyda chostau cynyddol yn ogystal â refeniw coll - adennill costau oddi wrth Lywodraeth Cymru · Adnodd parhaus / cost ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu · Effaith ar incwm o ffïoedd, taliadau a threth y cyngor · Pwysigrwydd twristiaeth wrth gynllunio ar gyfer adferiad a chynhyrchu incwm o dwristiaeth - cefnogaeth i dwristiaeth · Gwelliannau i'r amgylchedd a chynyddu'r cysylltiad â'r amgylchedd - gwersi i'w dysgu o'r argyfwng · Cynllun gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd · Traffig yng nghanol y ddinas- buddsoddiad yn rhwydwaith y metro a theithio llesol yn cael ei ffafrio yn hytrach nag ystyried tâl atal tagfeydd · Parhau i ddefnyddio gwirfoddolwyr sydd wedi helpu'r ddinas yn ystod yr argyfwng Diolchodd yr Arweinydd i'r holl staff, gwirfoddolwyr, gweithwyr allweddol, y GIG, Cynghorwyr, y Tîm Rheoli Corfforaethol, y Prif Weithredwr a nifer o bobl eraill sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol yr argyfwng. Diolchodd y Prif Weithredwr i'r holl staff a'r Tîm Rheoli Corfforaethol sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw, gan weithio'n ddiflino i ddelio â'r argyfwng a chynnal gwasanaethau. Mynegodd ei ddiolch hefyd i'r Arweinydd, gan nodi'r cynnydd parhaus gyda'r datblygiadau yng nghanol y ddinas ochr yn ochr â delio â'r argyfwng cyfredol. Diolchodd y
Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, i'w holl staff, y Tîm Rheoli Corfforaethol a'r
Arweinydd am y gwaith caled a wnaed wrth ymateb i'r argyfwng cenedlaethol hwn.
Mynegodd ei ddiolch hefyd i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu ar draws y
ddinas. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y
Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a
rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am 'lythyrau craffu’. Nodwyd yr adroddiad. |
|