Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

42.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

43.

Cofnodion. pdf eicon PDF 248 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 12 Awst 2019 fel cofnod cywir.

44.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

45.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet - Cartrefi ac Ynni (y Cynghorydd Andrea Lewis). pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad ar y prif benawdau yn ei phortffolio a amlygodd y canlynol: -

 

·                Eiddo Gwag - rhagorwyd 3.3% ar y targed hwn gyda 100 eiddo yn cael eu defnyddio eto yn 2018/19

·                Atal Digartrefedd - ataliwyd 75.4% o deuluoedd rhag digartrefedd yn 2018/19, a rhagorwyd ar y targed 67% ac wedi cynyddu o 68.8% yn 2017/18

·                Unedau Gwag - Lleihawyd nifer yr unedau gwag gyda 196 yn 2018/19 o'u cymharu â 241 yn 2013/14

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

Cerbydau Trydan/Gwyrdd

·                Anawsterau darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer staff (cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd)

·                Derbyniodd y cyngor gyllid gwerth £89,000 gan Lywodraeth Cymru o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn nifer o gyfnewidfeydd parcio ar draws Abertawe sy'n hawdd i'r cyhoedd eu cyrraedd ac sy'n berchen i'r cyngor

·                Fe fyddai gan feysydd parcio newydd bwyntiau gwefru trydan

·                Mae gweithio ystwyth wedi lleihau'r angen i deithio ac mae’n lleihau’r ôl-troed carbon

·                Defnydd o Hysbysiadau Gwybodaeth Flaenorol i benderfynu ar y lleoliadau strategol gorau i osod pileri gwefru

·                Ffïoedd parcio posib yn ogystal â'r trydan a ddefnyddiwyd

·                Posibilrwydd o bwyntiau gwefru ar y stryd

·                Datblygiad cerbydau hydrogen a phwyntiau tanwydd hydrogen a’r defnydd ohonynt

·                Darparwyd pwyntiau gwefru am ddim mewn ardaloedd eraill, e.e. Milton Keynes, fodd bynnag derbyniwyd cyllid sylweddol at y diben hwnnw ac nid oeddent wedi'u hariannu o gyllidebau 

·                Cynnydd yn y trydan a ddefnyddir mewn cerbydau trydan yn ystod y gaeaf, wrth ddefnyddio'r system aerdymheru/wresogi a gyrru ar y draffordd

·                Ffrydiau refeniw posib gan bwyntiau gwefru

Ynni Gwyrdd

·                Cynnydd, lleoliad ac ariannu Fferm Solar - mae'n brosiect sy'n gwarantu adenillion, ond newydd gychwyn y mae

·                Cynnydd/datblygiad y rhaglen i ailosod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi

·                Cynnydd ar gartrefi fel gorsafoedd pŵer sef prosiect y Fargen Ddinesig

Digartrefedd/Prosiect Tai yn Gyntaf

·                System cyfeirio i Brosiect Tai yn Gyntaf - bwriad i gefnogi pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd yn y ddinas ers tro

·                Dyddiad dechrau ar gyfer y prosiect Tai yn Gyntaf - yn ei gamau cynnar

·                Cyfraniadau, ymrwymiad a chyfranogaeth gan drydydd partïon e.e. Byrddau Iechyd, Crisis Skylight De Cymru

·                Gwerthusiad o'r Prosiect Tai yn Gyntaf dros y tair blynedd gyda dadansoddiad terfynol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw er mwyn penderfynu sut i'w ddatblygu

Eiddo Gwag

·                Nodi eiddo gwag ac annog diddordeb mewn Benthyciadau Landlordiaid a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel y gellir eu defnyddio unwaith eto

Eiddo Rhent/Tenantiaethau 

·                Deddf Rhentu Cartrefi - safoni contractau a goblygiadau adnoddau cyhoeddi contractau newydd i bob tenant

·                Gorfodi tenantiaeth - ôl-ddyledion rhent, ymddygiad gwrthgymdeithasol

·                Datblygu ap monitro sŵn

Addasu ac Adnewyddu Tai

·                Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - yn cael eu cynnig o fewn amserlenni statudol

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

46.

Craffu Cyn Penderfynu: Diweddaru System Cynllunio Adnoddau Menter. pdf eicon PDF 234 KB

a)         Rôl y pwyllgor

b)         Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

c)         Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad, y Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid, a'r Rheolwr Gwasanaethau Digidol yn bresennol wrth i'r pwyllgor ystyried Uwchraddio’r System Cynllunio Adnoddau Menter.

 

Amlygodd Aelod y Cabinet y canlynol: -

·                Strategaeth Ddigidol

·                Risgiau fersiwn R.12.1 Oracle

·                Opsiynau neu uwchraddio, symud i Oracle Cloud neu symud i systemau eraill

·                Roedd gwerthusiad Infosys a'r gwaith diwydrwydd dyladwy wedi dyfarnu mai Oracle Cloud yn unig a allai fodloni'r holl ofynion

·                Ymarfer Diwydrwydd Dyladwy

·                Yr adnoddau angenrheidiol

·                Cyfleoedd Trawsnewid Gwasanaethau

·                Cyfleoedd i Greu Arbedion ac Effeithiolrwydd

·                Llywodraethu

·                Goblygiadau Ariannol

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i Aelod y Cabinet ynghyd â'r Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid a'r Rheolwr Gwasanaethau Digidol a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·                Sut fyddai'r prosiect yn cael ei ariannu

·                Cywirdeb y Goblygiadau Ariannol a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad

·                Hyder yn y system newydd a’r manteision

·                Monitro’r arbedion posib yn effeithiol

·                Model codi tâl

·                Sicrwydd ar gyllid gan Swyddog Adran 151

·                Byddai storio'r Cloud wedi'i leoli yn y DU

·                Effaith ar adfer wedi trychineb - cadernid gwell

·                Arbedion a wneir o'r cyfnod prosesu, prosesu di-bapur a'r posibilrwydd o leihau/ddosbarthu staff

·                Cyflwyno technoleg Cloud a gwelliannau ar gyfer prosesau di-bapur, nad oeddent wedi'u cyflawni/darparu o'r blaen

·                Hyblygrwydd system ac integreiddio â thechnolegau newydd megis Deallusrwydd Artiffisial

·                Ymgysylltu/Ymgynghori ar y model codi tâl ar draws holl wasanaethau'r cyngor

 

Penderfynwyd: -

1)    Y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y pwyllgor a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet cyn iddo benderfynu ar y mater hwn;

2)    Y bydd y pwyllgor yn derbyn diweddariad o'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a

3)    Y bydd y pwyllgor yn gweld y sicrwydd gan y Swyddog Adran 151 y cyfeiriwyd ato yn ystod y drafodaeth.

47.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau i Oedolion (Y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd). pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd, adroddiad am y diweddaraf gan y Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion. Tynnodd sylw’n benodol at faterion yn ymwneud â chontract y cyngor gyda’r RNIB yn ogystal â’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 ar Fyw â Chymorth ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu sydd wedi cael cefnogaeth y panel wrth iddo ymgysylltu’n uniongyrchol â gofalwyr/defnyddwyr gwasanaethau yn ddiweddar trwy grwpiau ffocws a drefnwyd gan y Tîm Craffu, sydd wedi rhoi safbwynt arall i aelodau'r panel ar ansawdd gwasanaethau a pherfformiad.

48.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu’. Nododd, yn ychwanegol at yr adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, y byddai'r Cynghorydd Lesley Walton yn cael ei thynnu o Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol.

 

Penderfynwyd y bydd y Cynghorydd Lesley Walton yn cael ei thynnu o Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol.

49.

Rhaglen Waith Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 259 KB

Trafodaeth am:

a)        Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)        Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)        Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd hefyd mai Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau fyddai yn y Sesiwn Holi Aelod y Cabinet ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Croesawir trafodaeth ar bynciau ffocws allweddol ar gyfer y sesiwn honno. Nododd y Pwyllgor nifer o feysydd yr oeddent am eu harchwilio gydag Aelod y Cabinet: -

 

·                Presenoldeb - cofnodi presenoldeb ledled y ddinas

·                Ymdrechion i fynd i'r afael â phroblem cerbydau/llygredd aer y tu allan i ysgolion

·                Llywodraethwyr Ysgol - syniad o ddyrannu cyfrifoldeb amgylcheddol penodol gyda chyrff llywodraethu ac annog disgyblion ynghylch cyfleoedd a chyfrifoldebau amgylcheddol.

·                Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET)

·                Prosiect Sgiliau a Thalent ar gyfer y Fargen Ddinesig

 

Penderfynwyd nodi'r Rhaglen Waith Craffu

50.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

51.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. Roedd y Cadeirydd i fod i ddod i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 8 Hydref 2019, fodd bynnag, nododd y byddai angen aildrefnu hyn.

52.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 160 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 397 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 264 KB